Canfyddiad Canmoladwy o Ganeuon Coll Driawd y Coleg
Wrth bori drwy archifau'r BBC yn ddiweddar, daeth Huw Meredydd, cynhyrchydd rhaglen Linda Griffiths ar Radio Cymru, o hyd i ganeuon o 1948 gan Driawd y Coleg sydd erioed wedi eu rhyddhau ar record ac, o bosib, heb eu clywed ers 1948.
Triawd o Brifysgol Bangor oedd Triawd y Coleg, sef Meredydd Evans, Cledwyn Jones a Robin Williams, ac mi oedden nhw'n ddylanwadol iawn yng nghanu cyfoes Cymraeg yn y 1940au.
Mae'r tri wedi marw erbyn hyn ond bu Cymru Fyw yn siarad gydag Eluned Evans, merch Meredydd Evans, am y caneuon coll a'u harwyddocâd i'r teuluoedd.
Doedd Eluned, sy'n byw yng Nghwmystwyth, erioed wedi clywed am y caneuon, sy'n ychwanegu at y dirgelwch - ond mae ganddi atgofion melys am hen gloc wyth niwrnod y teulu ac mi esboniodd wrth Cymru Fyw pam fod y gân coll Hen Gloc Wyth Niwrnod fy Nhaid mor arwyddocaol.
"Dwi ddim yn cofio Dad erioed yn sôn am ganeuon ar wahân i beth oeddan ni arfer clywed. Doeddwn i ddim yn gwybod dim byd am rhain. Mae 'na ddau gyfrol o ganeuon y Triawd wedi printio yn y 1940au a dyw nhw ddim yn hwnna. Ac aethon ni i America i fyw yn 1952 felly mae'n rhaid bod nhw wedi recordio nhw falle cyn bod nhw mor enwog ar raglen Noson Lawen. Falle bod nhw'n ganeuon cynnar. Mae llythyrau Mam ar ôl iddi gwrdd a Dad gen i ac mae dyddiaduron Dad gen i – ond does 'na ddim byd yn yr un o'r ddau. Felly mae o'n hollol syrpreis i fi ar wahan i'r gân Plis Ga'i Wŷ – dwi'n cofio rhywun yn sôn am honna wrtha'i ond efo'r gweddill dwi ddim yn cofio Dad yn sôn amdani nhw nac yn canu nhw. Felly mae'n ddirgelwch llwyr i mi."

Ysbrydoliaeth y Cloc
Yn ôl Eluned, doedd ei thad, sef prif gyfansoddwr caneuon y triawd, ddim yn gallu ysgrifennu hen nodiant pan gafodd y caneuon coll yma, sef Y Bwthyn Bach, Steddfod Penybont, Hen Gloc Wyth Niwrnod fy Nhaid, Y Ffordd Fawr a Matilda (neu 'Plis Ga'i Wŷ') eu recordio.
"Mae 'na stori efo'r cloc a dwi'n sicr oedd Dad yn meddwl am hen gloc y teulu pan oedd o'n ysgrifennu'r gân. Mae 'na stori am y cloc teulu bod Nain yn clywed tad fy nhad, sef Taid Tanygrisiau, a ffrind iddo rhyw ganol nos wedi meddwi yn dod lawr y stryd. Ac roedd y cloc gyda nhw, yn cario fo mewn rhyw gart ac yn canu pen eu lleisiau yn dod lawr y stryd yn Tanygrisiau. Ac wedyn bod nhw'n cael trafferth ofnadwy i gael y cloc mewn i'r tŷ oherwydd tŷ bychan oedd hi. Ond unwaith oedd y cloc i mewn roedd Taid wrth ei fodd efo'r cloc a doedd neb ond am Taid i dwtshad y cloc. Oedd o'n weindio'r peth bob nos Sul. Mae'r cloc gyda ni nawr, a dwi'n gwneud yn siŵr bod ni'n weindio fo bob nos Sul. Buaswn i ddim yn synnu mai hwnna oedd yr ysbrydoliaeth oherwydd roedd y cloc yn ganolog i fywyd y teulu. Roedd rhaid i chi gael cloc i wybod pryd i fynd i'r gwaith ac i'r capel ac yn y blaen."
'Y Boy Band Cyntaf?'
Mae'n deimlad arbennig i glywed y lleisiau eto, meddai:
"O'n i'n trio gwrando allan am lais Dad a llais Cled yn enwedig – Cled oedd y tenor a Dad oedd y bariton. Mae'n anodd pan mae triawd yn canu i glywed y gwahanol leisiau. Mae'r gân Steddfod Penybont â naws jazz iddo fo a 'swn i ddim yn amau fod Dad wedi sgwennu hwnna, oedd Dad yn keen iawn ar jazz."
Mae'r triawd wedi cael eu disgrifio gan rai fel 'y boy band cyntaf' ac mae Eluned yn hoff o'r disgrifiad:
"O'n i'n chwerthin yn clywed hwnna. Mewn ffordd, oeddan wir ond eto mae'r triawd yn yr hen draddodiad o bartïon canu. Mae hwnna yn hen draddodiad Cymreig ond wrth gwrs ar y radio oedd hwnna'n rhywbeth newydd. Oeddan nhw i gyd yn olygus iawn tan iddyn nhw heneiddio."
Beth felly mae miwsig y Triawd yn golygu iddi?
"Ges i fy magu yn America felly mae'r cefndir cerddorol gen i yn hanu o America mwy nag o Gymru ond ers i mi ddod nôl i fyw i Gwmystwyth yn y 1990au dwi wedi cymryd mwy o ddiddordeb mewn caneuon gwerin a'r traddodiadau sy'n cael eu bathu nawr efo bandiau fel Calan. Dwi'n meddwl bod y traddodiad caneuon gwerin Cymreig yn un gyfoethog tu hwnt. Dwi mor falch bod Huw wedi dod ar draws y caneuon yma. Dwi'n gwybod mod i wedi colli Dad ond mae o o gwmpas trwy'r amser i fi drwy chwarae'r caneuon o dro i dro. Bob Dolig dwi'n rhoi Carol y Bwlch ymlaen, mae'n rhan o'n fywyd i ac oedd o'n rhan o hanes teulu ni."
Gwrandewch ar raglen Linda Griffiths ar Radio Cymru sy'n cloi efo un o'r caneuon coll sef Y Bwthyn Bach. Bydd y caneuon coll eraill yn cael eu chwarae ar y raglen dros yr wythnosau nesaf.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






