Skip to main content
Advertisement

D Ben Rees yn Ennill Gwobr Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru 2025 am Gyfraniad Oes i Lenyddiaeth

D Ben Rees o Lerpwl yn derbyn Gwobr Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru 2025 am gyfraniad oes i fyd llyfrau a llenyddiaeth Cymru, gan gyhoeddi dros 120 o lyfrau a gweithio mewn sawl maes hanes a diwylliant.

·3 min read
Anrhydeddu D Ben Rees am gyfraniad oes i fyd llyfrau

Cyflwyno Gwobr Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru 2025 i D Ben Rees

Mae'r Parchedig Ddr D Ben Rees o Lerpwl wedi derbyn Gwobr Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru 2025 am gyfraniad oes i fyd llyfrau a llenyddiaeth Cymru, gyda'i wraig Meinwen yn bresennol i rannu'r anrhydedd.

Ben Rees a Meinwen
Disgrifiad o’r llun, D Ben Rees yn derbyn Gwobr Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru 2025 am gyfraniad oes gyda'i wraig Meinwen

Mae'r wobr hon, a gyflwynir bob blwyddyn, yn cael ei rhoi i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol a nodedig i'r byd llyfrau yng Nghymru.

Cyfraniad D Ben Rees i Llenyddiaeth Cymru

"Heb os," medd Aled Davies, Cadeirydd y Cwlwm, "mae Ben Rees yn llawn haeddu'r wobr wedi iddo gyhoeddi dros gant o lyfrau ac hefyd erthyglau ac ysgrifau i bob math o gylchgronau crefyddol a hanesyddol."

Yn wreiddiol o Landdewi Brefi yng Ngheredigion, mae D Ben Rees yn fwy adnabyddus am ei gysylltiad â Lerpwl, lle bu'n weinidog yn eglwys Gymraeg Heathfield Road am dros hanner canrif.

Sefydlodd ei wasg, Cyhoeddiadau Modern Cyf., yn 1963, gan ddechrau gweithredu o Abercynon yng Nghwm Cynon cyn symud i Lerpwl yn 1968.

Fe symudodd D Ben Rees i fod yn weinidog yn Lerpwl yn 1968
Disgrifiad o’r llun, Fe symudodd D Ben Rees i fod yn weinidog yn Lerpwl yn 1968

Dros y penwythnos, derbyniodd y wobr yn ei gartref yn Lerpwl yng nghwmni teulu a ffrindiau.

Ymddygiad a Phrofiad Ysgrifennu D Ben Rees

Wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg yr wythnos hon, dywedodd fod ennill y wobr yn "golygu llawer iawn iddo" a bod wedi "mwynhau ysgrifennu a golygu dros 120 o gyfrolau - y mwyafrif yn Gymraeg".

"Y gyfrinach i allu ysgrifennu cymaint," ychwanegodd, "yw cadw llyfrau nodiadau hynod fanwl ac yna mae popeth yna pan mae angen ysgrifennu'r penodau."

Meini Pwysig Ei Waith

Mae D Ben Rees wedi gweithio mewn pum maes am gyfnod o dros 60 mlynedd fel awdur a chyhoeddwr: heddwch a heddychiaeth, diwylliant Cymru a hanes Cymry amlwg, hanes cymuned Gymraeg Lerpwl a glannau Mersi, diwinyddiaeth a hanes cenhadaeth fyd-eang, a defosiwn a gweddïau.

Advertisement

Ymhlith ei lyfrau mae bywgraffiad Gandhi, cyfrol ar yr heddychwr Henry Richard, a phedwar llyfr ar John Calfin a Chalfiniaeth.

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd cyfrol arbennig o'i waith ar Gymry Lerpwl, un o nifer o gyfrolau ar hanes y ddinas.

Polisi a Gwleidyddiaeth

Gan ei fod wedi sefyll mewn Etholiad Cyffredinol ar ran y Blaid Lafur yn y 1970au, mae wedi llunio cyfrolau ar aelodau amlwg o'r blaid yng Nghymru, gan gynnwys Cledwyn Hughes, Aneurin Bevan a James Griffiths.

"Rwy'n credu mai'r cyfrolau Cymraeg a Saesneg i Mabon a Jim Griffiths rydw i fwyaf balch ohonyn nhw ac hefyd yr un Dr Owen Thomas, tad-cu Saunders Lewis - fe gafodd y gyfrol wobr Ellis Griffiths gan Brifysgol Cymru," ychwanegodd.

Parhau i Ysgrifennu Er Gwaeledd

Er gwaeledd iechyd yn ddiweddar, mae D Ben Rees yn dal i ysgrifennu'n weithgar.

"Rwy'n falch i ddweud er bo fi wedi cael gwaeledd yn ddiweddar bo fi'n dal i ysgrifennu.
"Ar hyn o bryd rwy'n ysgrifennu cyfrol ar sosialwyr Cristnogol o bob plaid a hefyd dwi' wrthi yn ysgrifennu cyfrol ar y bobl a adeiladodd Lerpwl.
"Dwin lwcus bod fy meddwl dal yn chwim, rhaid cadw'n brysur - fyddai byth yn rhy hen i ysgrifennu."

Cyfweliad Llawn

Mae cyfweliad llawn gyda D Ben Rees ar gael yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg, a ddarlledir am 12:30 ddydd Sul ac ar .

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok i gael y newyddion diweddaraf.

Anfonwch syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap i gael y newyddion diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News