Skip to main content
Advertisement

Teyrngedau i'r Parchedig John Owen, englynwr a chynhyrchydd o Rhuthun

Mae teyrngedau wedi'u rhoi i'r Parchedig John Owen, englynwr a chynhyrchydd o Rhuthun, sydd wedi marw yn 85 oed. Bu'n weinidog, ymgyrchydd dros y Gymraeg, a sefydlwr Cymdeithas Ddrama Rhuthun, gan adael etifeddiaeth ddiwylliannol a chrefyddol.

·3 min read
John Owen

Y Parchedig John Owen, Rhuthun sydd wedi marw yn 85 oed

Mae nifer wedi rhoi teyrngedau i'r Parchedig John Owen, Rhuthun sydd wedi marw yn 85 oed.

Yn ogystal â bod yn weinidog poblogaidd roedd e'n englynwr toreithiog ac yn un o sefydlwyr Cymdeithas Ddrama Rhuthun yn 1979 - lle cafodd yr actor Rhys Ifans un o'i gyfleon cyntaf i actio ar lwyfan.

Yn 2005 wrth siarad â'r BBC cyfeiriodd Rhys Ifans at ei ddawn fel cynhyrchydd a'i ddewrder wrth ddewis dramâu.

Ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol Cerddi Corona - lle cyhoeddai John Owen nifer fawr o englynion - mae nifer wedi cyfeirio at ei addfwynder, ei bregethu grymus, ei sgwrsio difyr a chyfoeth ei Gymraeg.

'Dyn cwbl amryddawn'

Cafodd y Parchedig John Owen ei fagu ar fferm yn ardal Capel Coch ar gyrion Llangefni.

Wedi ei addysg uwchradd graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yna mewn diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor.

Ym Mangor y tyfodd ei ddiddordeb ym myd y ddrama ac yn 1964 ef a chwaraeodd y brif ran sef Morgan Llwyd yn nrama John Gwilym Jones - Hanes Rhyw Gymro.

"Gallai John," meddai ei gyfaill Eifion Wynne, "oherwydd ei allu a'i ddiddordebau eang, yn arbennig ym myd y ddrama, fod wedi dilyn gyrfa broffesiynol lwyddiannus mewn sawl cyfeiriad ond wedi ennill dwy radd academaidd, ildiodd i'w ffydd a hyfforddi i fod yn fugail eglwys."

Yn Llanberis bu'n gweinidogaethu gyntaf - tra'n byw yno sefydlodd y cwmni drama lleol ac roedd yn rhan o'r tîm a sefydlodd bapur bro Eco'r Wyddfa.

Yn 1977 symudodd i Ruthun i fod yn weinidog ar eglwysi Y Tabernacl Rhuthun, Llwynedd, Llanbedr Dyffryn Clwyd a Chlawddnewydd Derwen - ac wedi hynny capeli Salem a Phentrecelyn.

Yn ogystal â chynorthwyo i sefydlu'r cwmni drama bu hefyd yn helpu i sefydlu papur bro Y Bedol.

Advertisement

Byw gyda Motor Niwron: Gwobr yn rhoi'r 'wefr fwyaf'

Cyhoeddi enillydd Tlws John a Ceridwen

Roedd y Parchedig John Owen yn ymgyrchydd brwd dros y Gymraeg. Cafodd ei arestio yn y 70au am beidio â thalu trwydded deledu fel rhan o'r ymgyrch dros sianel Gymraeg.

Roedd hefyd ymhlith grŵp bychan o gefnogwyr pêl-droed Wrecsam i berswadio'r clwb i roi lle i'r Gymraeg a bu'n cyfrannu i'r rhaglen swyddogol a gwneud cyhoeddiadau Cymraeg cyn gemau.

Mae'r Parchedig Pryderi Llwyd Jones wedi bod yn gyfaill i John Owen ers dyddiau'r ddau yn y brifysgol ym Mangor.

"Roedden i'n mynd ar wyliau gyda'n gilydd, yn treulio'r Calan ac yn cael llawer o hwyl.
"Fe fyddwn i'n ei ddisgrifio fel cymeriad cyfa' - yn ddyn cwbl amryddawn oedd â diddordeb ymhob peth. Roedd o'n gwbl gydwybodol ac yn ffyddlon i'w ofalaeth, yn genedlaetholwr a oedd yn ymddiddori'n fawr mewn llenyddiaeth ac ym materion y dydd.
"Roedd byd y ddrama yn bwysig iddo - roedd yn ddramodydd ei hun, roedd wedi cyfieithu nifer ac wedi cynhyrchu a chyfarwyddo llawer i Gymdeithas Ddrama Rhuthun.
"Fe fyddai'n ei golli'n fawr - ef a'i hiwmor a'i straeon ffraeth."

Bu'r Parchedig John Owen, a dathlodd 60 mlynedd yn y weinidogaeth yn 2024, yn llywydd Cymdeithasfa'r Gogledd ac yn 2004 yn llywydd y Gymanfa Gyffredinol.

Bu farw ei wraig Ann yn 1992 a'i ail wraig Gwenda yn 2019 wedi brwydr hir yn erbyn y clefyd motor niwron.

Cafodd ei gyfrol Creu Briwsion ei chyhoeddi yn 2025 gan godi rhai miloedd o bunnau i elusennau cymdeithas motor niwron a Tenovus.

Mae'r Parchedig John Owen yn gadael ei feibion Dafydd a Huw a'u teuluoedd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News