RHYBUDD: Iaith a allai fod yn anweddus
Mae Joanna Człapa eisiau gwybod beth yw hoff reg Cymraeg pobl fel rhan o’i gwaith ymchwil ar regfeydd ac ymadroddion Cymraeg ar gyfer ei gradd BA.
Yn anhygoel, mae Joanna wedi dysgu Cymraeg am oddeutu pum mlynedd yn unig, ac mae hi’n byw yng Ngwlad Pwyl.
'Geirfa ddyddiol' ddim yn rhan o gwrs Cymraeg
Pan ddechreuodd Joanna ddysgu Cymraeg, nid oedd hi’n gyfarwydd â rhegfeydd gan nad ydynt yn cael eu cynnwys mewn cyrsiau Cymraeg arferol.
Dechreuodd ddiddordeb mewn rhegfeydd a dywediadau wrth astudio cyfieithiad Elin Meek o lyfr Matilda gan Roald Dahl. Wrth ddarllen, sylweddolodd fod nifer o ymadroddion a ebychiadau’n anghyfarwydd iddi.
"Yn Matilda, roedd pethau mwy traddodiadol, ac o'n i eisiau gwybod beth arall oedd. Pan o'n i'n ysgrifennu fy uned BA, o'n i angen erthyglau o amgylch rhegfeydd ac ati, ond does dim! Dyna pam ro'n i'n meddwl dwi eisiau trio ymchwilio i'r pwnc.
"Mae'n ddiddorol i glywed beth mae pobl yn ei feddwl ac os ydyn nhw'n defnyddio geiriau fel yna neu ddim.
"Mae llawer o bobl yn meddwl fod yna ddim llawer o eirfa rhegfeydd yn Gymraeg. Ro'n i'n synnu, achos mae llawer."
Profiadau Joanna yng Nghaernarfon
Roedd Joanna wrth ei bodd yn ymweld â Chaernarfon, prynu bara brith drwy gyfrwng y Gymraeg a dysgu rhegfeydd newydd.

Wrth holi siaradwyr Cymraeg a chynhaliodd ymweliad ym mis Gorffennaf 2025 fel rhan o’i ymchwil, daeth i ddysgu nifer o ymadroddion newydd, rhai ohonynt yn achosi chwerthin a gwên.
"O'n i'n meddwl fod [y gair] ddim yn rhywbeth neis i alw rhywun, ond yng Nghaernarfon, dyna sut mae pobl yn cyfarch ei gilydd!
"O'n i'n chwerthin bob amser, a bod yn onest! A dywedodd rhywun 'cont y môr' ac o'n i'n chwerthin!"
Rhai o hoff regfeydd Joanna
Nefoedd Wen: "Dwi'n ei hoffi ond dwi ddim yn siŵr pam. Dwi'n meddwl achos ei fod yn hir, mae'n rhoi amser i mi feddwl pan dwi 'di gwylltio, cymryd cam yn ôl a galla i gario 'mlaen!"
Pen dafad: "Dwi ddim wedi disgwyl ei fod e'n bosib galw rhywun yn 'pen dafad' ac mae'n golygu rhywbeth aflednais (offensive)!"
Sudd y ddraig: "Ro'n i'n synnu am hwn, achos mae dreigiau yn hyfryd! Efallai ei fod e'n broblem gyda'r sudd?!"
Malu cachu: "Eithaf llythrennol, efallai hyd yn oed defnyddiol weithiau."
Rhegfeydd: Geiriau i'w hosgoi?
Yn gyffredinol, roedd pobl yn agored i drafod rhegfeydd gyda Joanna, er bod rhai dynion yn amharod i drafod y pwnc gyda merch.
Ydy rhegfeydd yn eiriau annymunol i’w hosgoi neu’n rhan o iaith bob dydd? Mae’r farn yn gymysg, fel y eglurodd Joanna:
"Mae llawer o bobl yn credu fod rhegi yn rhan o iaith, ond o ran y Gymraeg, mae'n fwy cymhleth achos fod llawer o bobl yn rhegi yn Saesneg – a llawer o ffyrdd i ysgrifennu rhegefydd Saesneg yn Gymraeg.
"Mae rhan o'r bobl yn meddwl fod geiriau rhegi yn Gymraeg yn fwy aflednais ond mae llawer yn credu fod rhegfeydd Saesneg yn fwy aflednais...
"A bod yn onest, dwi ddim yn meddwl fod dim yn aflednais nawr achos ar ôl gwneud yr ymchwil, mae jyst yn eirfa ac mae pobl yn defnyddio geirfa a dyna ni!"
Syrthio mewn cariad â'r Gymraeg
Sut y daeth myfyriwr o Wlad Pwyl i ymchwilio rhegfeydd Cymraeg? Syrthiodd Joanna mewn cariad â’r iaith yn 2021 pan ddechreuodd astudio Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Poznań.
"Pan o'n i'n blentyn, o'n i'n mwynhau darllen pethau fel chwedlau am y Brenin Arthur, ac ro'n i'n mwynhau cerddoriaeth Wyddelig. A chlywais i fod Adran Geltaidd gyda ni yng Ngwlad Pwyl, ac o'n i'n meddwl, pam lai?!
"Mae dwy iaith Geltaidd yn y brifysgol – Cymraeg a Gwyddeleg, a llên a dipyn bach o socio-linguistics, a dyna hoffwn i ei wneud yn y dyfodol, gobeithio.
"Dwi nawr yn cario 'mlaen gyda Dysgu Cymraeg Gwent a Dysgu Cymraeg Sir Benfro."
Joanna Człapa yn trafod ei gwaith ymchwil ar Dros Ginio ar BBC Radio Cymru.
Yn awr, mae Joanna yn gweithio ar ei MA ac yn ymchwilio i eiriau benthyg Saesneg o fewn y Gymraeg. Y cam nesaf yw gwneud cais am PhD gyda chanolbwynt ar regfeydd.
"Dwi isie cario 'mlaen gyda'r testun achos mae'n ddiddorol. Dwi'n credu fod mwy i'w ddarganfod.
"Dwi'n meddwl, gyda iaith leiafrifol, mae hi'n bwysig i ddysgu achos dyma eirfa ddyddiol pobl.
"Byddai hi'n neis i allu dysgu geirfa felly mewn cyrsiau, achos mae'n rhan o iaith ddyddiol. Gyda chyrsiau ar gyfer oedolion, pam lai?"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y newyddion diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Dysgu Cymraeg drwy gyfieithu llyfrau i'r Pwyleg
- Rhegfeydd yn 'fwy derbyniol' a mwy wedi'u cyhoeddi
- Małgola, No: Y cerddor o Wlad Pwyl ar daith gyda Gruff Rhys







