Skip to main content
Advertisement

Cofio Owain Rhys Davies: Cofiant Actor a Chynhyrchydd Talented

Newid a chofiant i Owain Rhys Davies, actor a berfformiwr Cymreig, gyda theyrngedau gan ffrindiau a chydweithwyr ledled y byd.

·7 min read
Owain Rhys Davies

Cofio Owain Rhys Davies

Daeth y newyddion trist dros y penwythnos am farwolaeth yr actor Owain Rhys Davies. Ar y cyfryngau cymdeithasol, mae teyrngedau lu wedi cael eu rhoi iddo gan gydweithwyr a chyfeillion o bedwar ban byd.

Dyma deyrnged o'r galon gan un o'i ffrindiau, yr actor Carys Eleri.

Pan glywes i dros y penwythnos bod Owain wedi marw, roedd e'n newyddion anodd ofnadwy i brosesu, oherwydd, ble yn y bydysawd gall y belen yna o dân fod wedi diflannu iddo?

Roedd gan Owain nifer fawr o dalentau, ac ro'n nhw yn anferth, i'w clywed, i'w gweld ac i'w teimlo.

Fe oedd gwir ystyr y triple threat; yn medru dysgu cân gymhleth, dysgu ei holl harmonïau, creu rwtîn ddawns gyda chwpwl o back flips yn y canol, a ffurfio cymeriad mind-bending o gyflawn i fynegi'r holl beth... a'r cwbwl o fewn pum muned.

Roedd ei allu i gadw perthnasau cryf gyda lluoedd o ffrindie 'ta ble bynnag oedd e'n byw yn y byd yr un mor drawiadol, ac mewn byd o berfformwyr, roedd ei galon ddi-ffuant o gariadus yn gwneud iddo sefyll mas.

Owain a Carys

Bywyd Cynnar a Chefnogaeth i Gymunedau

Yn hannu o Sir Gâr ac wedi ei fagu yn niwylliant Cymru, roedd Owain nid yn unig yn serennu ar lwyfan ond yn y byd chwaraeon, yn enwedig y byd gymnasteg.

Roedd ei hyder a'i ddeallusrwydd corfforol wedi dangos ers yn grwtyn bach gan ennill gymaint o gystadlaethau ledled y wlad, ac fe wnaeth y cyfuniad yma o dalentau ei wneud yn berfformiwr heb ei ail.

Gyrfa Addysgol a Llwyfan

Aeth o Ysgol Gynradd Y Dderwen i Ysgol Gyfun Bro Myrddin, buodd yn rhan o Opera Ieuenctid Caerfyrddin, yna ymlaen i Goleg Gorseinon i wneud BTEC perfformio cyn treulio tair mlynedd yn LIPA (Liverpool Institute of the Performing Arts), ac yn syth fe gafodd ei gastio yn sioe Mamma Mia! ar y West End.

Roedd y gyrfa a ddilynodd yn un anferth a lliwgar, ac fe weithiodd ar rai o brif lwyfannau, ffilmiau a rhaglenni teledu'r byd yn ei gyfnod byr a disglair ar y ddaear.

Cymeriadau a Chofnodion Arbennig

'Nath e gerfio gyrfa mor sbarcli i'w hun yn gynnar iawn wrth iddo rywsut lanio rhan fel mecanic oedd hefyd yn medru neud back flips ar rhaglen Cowbois ac Injans ar S4C, sydd jyst mor niche, a mor Owain.

O'dd e hefyd wrth ei fodd yn canu yn nosweithiau Cymreig Castell Caerdydd i dwristiaid gyda sawl ffrind oes ac agos.

Owain fel Sally Bowles o Cabaret
Disgrifiad o’r llun, Owain fel Sally Bowles o Cabaret

Cofiant Personol Carys Eleri

Pan fues i yn byw yn Llundain yn 2013, ro'n i mor lwcus o bresenoldeb Owain.

Ma' byw mewn dinas hollol newydd yn eich 30au yn eitha' anodd ar brydie, ac roedd e wedi rhagweld hynny gan checkio i fewn yn aml a gethon ni gyment o sbort.

O'n i wedi cal blas ar Espresso Martinis ar y pryd, a dyma fe yn dal fy llaw ac yn arwain fi at far coctêls ble gafon nhw eu hysgwyd yn gyntaf!

"Members only," dwedodd y bownsar.

"Then we must BECOME members!" medde Owain!

Carys ac Owain gyda Espresso Martini
Disgrifiad o’r llun, Espresso Martini - Y ddiod i Carys ac Owain yn Llundain

Ymladd yn Erbyn Anawsterau Corfforol

Ar y pryd roedd e'n ceisio gwella ar ôl torri ei benglin yn gwneud y sioe gerdd The Wizard of Oz.

Fe frwydrodd yn gorfforol ac yn feddyliol i wella o'r ddamwain lle roedd rhaid iddo dderbyn llawdriniaeth. Ac yn lle gadael i'r profiad anodd gael y gorau ohono, fe dapiodd e i fewn i rhyw le dyfnach yn ei hun, man o fewn ei enaid oedd yn gwbod ei fod yn meddu ar dalent arbennig ac yn medru 'neud gymaint o bethe eraill gyda'i hun.

Advertisement

Ac felly heb droi nôl - fe drodd ei lygaid at America. Mae hi fel ddoe i fi fynd gydag e a ffarwelio fe'n Heathrow, lle ro'dd e yn wên o glust i glust yn barod am bennod newydd.

Ffrind a Chymdeithas

Roedd Owain bob amser yno, i bawb. I minnau ac i fil o bobl eraill a'u plant. Roedd e wir yn ffrind arbennig ac yn ffrind ffyddlon o'dd yn diferu o sbort.

Roedd ganddo gwmpawd moesol solet, digon i ddweud, dawn gwrando heb ei ail, meddwl gwleidyddol siarp a byth yn dal yn ôl gyda'i deimladau a'i farn; rhinweddau o'dd gyment o bobl yn eu gwerthfarwogi.

Ac heb os, fe oedd Brenin bob parti.

Owain yn 'Paratoi' ar gyfer The Lion King

Yn y dyddie d'wetha, ma' edefyn Whatsapp finne a chriw o'n ffrindie wedi bod yn ddi-stop gyda ni gyd yn rhannu llunie a straeon anhygoel Owain.

Mewn un parti 'nath e ddiflannu am dair awr, mond i ddychwelyd wedi gwisgo fel Liza Minnelli a'i chymeriad Sally Bowles o Cabaret.

O'dd e BYTH wedi gwisgo stilettos o'r blaen a dyma fe'n dechre canu Mein Herr ar ben stôl fach yn gwneud y dance routines mwya' manwl gywir-erioed, gyda merched yn trial dal i fyny gydag e fel rhyw fath o zumba teacher mewn heels yn llawn high kicks o'r byd cabaret mewn drag!

Yna'r diwrnod wedyn, o'n i'n poeni mod i wedi 'neud camgymeriad ofnadwy wrth heirio cwmni i roi gweithdy cerdded mewn stilts i ni gyd. O'dd e mor anodd!

Ond wrth gwrs, neidiodd Owain ar y cyfle a chymryd ati fel tase fe wedi bod yn gwneud e erioed. "Fabulous – fi'n 'neud Lion King cyn hir, hwn fydd y training perffeth actually."

Ac o fewn 10 muned o'dd e'n crwydro iard y tŷ ar BEDWAR stilt, tra'n canu cân agoriadol y sioe nerth ei ben, a gorffen yr holl beth gyda dawns fach. O'dd galluoedd corff Owain yn jaw dropping ar bob un cyfri.

Owain ar bedwar stilt
Disgrifiad o’r llun, Owain yn 'paratoi' ar gyfer ei rôl yn The Lion King

Teimladau a Chofnodion Arall

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

Fe arweiniodd ei dalentau e ar hyd lwybrau ac i ofodau yn llawn pobl hudolus. Doedd e ddim wedi synnu neb iddo gael rhannau mewn cynyrchiadau mawr dros y dŵr yn fuan iawn ar ôl cyrraedd yno.

Ers i Owain farw, ma' tîm rhaglen deledu Twin Peaks wedi rhannu eu teimladau nhw am y golled, wedi iddo chwarae Agent Wilson yng nghynhyrchiad y diweddar arthrylith David Lynch, ac ma' actorion a chwmnïau di-ri ar draws y blaned wedi rhannu lluniau a'u straeon nhw o Owain a phob un yn sôn am ei dalent anferthol a'i natur gariadus a heintus.

Rhannodd ei frawd newyddion trist y teulu ar ei gyfryngau cymdeithasol rhai dyddiau yn ôl, ac ers hynny, mae ei deuloedd estynedig lu - miloedd o ffrindiau ar draws y blaned - wedi rhannu eu teimladau nhw am y crwt o Gymru ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd.

Roedd Owain yn goleuo pob stafell, ac mae e wedi goleuo bob ffôn, dyfais a chyfrifiadur gyda'i gariad yn y dyddie d'wetha 'ma wrth iddo ein gadel ni ar ormod o garlam.

Bant â ti, gyda dy back flips drwy'r gofod am dy flourish d'wetha, megis seren wib i oleuo'r nef.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News