Skip to main content
Advertisement

Jack Evans o'r Bala: Arwr Pêl-droed Cynnar Cymru a Chaerdydd

Jack Evans o'r Bala oedd un o arwyr cynnar pêl-droed Cymru a Chaerdydd, gyda gyrfa nodedig yn y 1910au a 1920au. Chwaraeodd bron i 400 o gemau, cynrychiolodd Cymru, a chafodd ei adnabod fel 'The Bala Bang'.

·5 min read
Jack Evans

Bywyd Cynnar a Gyrfa Cynnar

Roedd John Hugh 'Jack' Evans o'r Bala yn bêl-droediwr nodedig a wnaeth enw iddo'i hun yn y 1910au a'r 1920au. Er iddo chwarae dros sawl tîm yn y gogledd, fe ddaeth i enwogrwydd yn bennaf yng Nghaerdydd.

Cafodd ei eni yn Y Bala yn 1889, ac yn ei arddegau roedd yn brentis gyda'r argraffwyr lleol. Roedd gan y swyddfa argraffu yn Y Bala ei dîm pêl-droed ei hun, ac roedd Evans yn chwarae drostynt cyn symud ymlaen i chwarae i Bala Wanderers, clwb sydd bellach wedi diflannu.

Chwaraeodd hefyd dros y Trallwng cyn arwyddo dros Wrecsam ar gyfer tymor 1908-09. Tra'n chwarae i Wrecsam, cafodd anaf difrifol i'w ysgwydd, gyda'r meddyg yn dweud wrtho fod ei yrfa bêl-droed drosodd.

Arwyddo i Gaerdydd

Er hynny, parhaodd Evans i chwarae, ac yn 1909 symudodd i'r de i barhau i weithio fel argraffydd yn y cymoedd. Tra'n gweithio ac yn aros i'w ysgwydd wella, chwaraeodd dros Glwb Pêl-droed Cwmparc ger Aberdâr, ac yn y cyfnod hwnnw creodd argraff ar yr Adar Gleision.

Yn 1910, daeth Jack Evans yn chwaraewr cyntaf i Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd brynu erioed, gyda Bartley Wilson, ysgrifennydd a sylfaenydd y clwb, yn talu chwe swllt i Evans am ei lofnod.

Chwaraeodd Evans yn y gêm gyntaf erioed ar Barc Ninian ar 1 Medi 1910, ac ef oedd y sgoriwr cyntaf erioed ar y maes.

Ffaith ddiddorol arall yw bod Evans wedi helpu i adeiladu'r stadiwm gyda'i ddwylo ei hun.

Caerdydd
Disgrifiad o’r llun, Llun o gêm ar Barc Ninian yn 1911, a rhaglen o'r gêm gyntaf erioed yn y stadiwm yn erbyn Aston Villa ar 1 Medi, 1910

'The Bala Bang'

Roedd Evans yn chwaraewr asgell chwith enwog am ei ergyd nerthol iawn. Mae adroddiadau'n dweud iddo dorri garddwrn un gôl-geidwad ac ysgwyd golwr Manchester City i anwybodaeth wrth i ergyd ei daro ar ei ben. O ganlyniad i'w enwogrwydd, cafodd y llysenw 'The Bala Bang'.

Yn 1912, cafodd ei ddewis i gynrychioli Cymru gan gymryd lle Ted Vizard mewn gêm yn erbyn Iwerddon. Drwy wneud hyn, daeth Evans yn chwaraewr cyntaf o Glwb Dinas Caerdydd i wisgo crys coch Cymru.

Yn ôl y sôn, cymmerodd Billy Meredith, un o arwyr mwyaf Manchester United a Manchester City, Jack dan ei adain tra'r ddau'n chwarae dros Gymru.

Parc Ninian
Disgrifiad o’r llun, Parc Ninian, cartref Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd o 1910 i 2009

Y Rhyfel Byd Cyntaf a Chwpan yr FA

Ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914, bu rhaid i Jack Evans ymuno â'r lluoedd arfog, ynghyd ag wyth o chwaraewyr eraill o Glwb Dinas Caerdydd a chwe chyn-chwaraewr.

Yn druenus, lladdwyd un o'i gyd-chwaraewyr, Tom Witts, ddeuddydd cyn y cadoediad.

Advertisement

Yn 1925, cyrhaeddodd Caerdydd rownd derfynol Cwpan FA Lloegr dan gapteniaeth Fred Keenor, un arall o fawrion y clwb. Fodd bynnag, Sheffield United oedd yn fuddugol gyda sgôr o 1-0.

Yn 1927, roedd Caerdydd unwaith eto yn cyrraedd rownd derfynol Cwpan FA Lloegr. Y tro hwn, enillodd Caerdydd gan guro Arsenal mewn gêm a ystyrir gan gefnogwyr y clwb fel eu buddugoliaeth enwocaf. Yn anffodus, daeth y fuddugoliaeth hon ar ôl i Evans adael y clwb.

Roedd Evans gyda Chaerdydd o 1910 i 1926, ac er i'r rhyfel darfu ar ei yrfa, chwaraeodd bron i 400 o gemau dros yr Adar Gleision, gan fod yn ffigur allweddol wrth iddynt ennill dyrchafiad i Adran Gyntaf Lloegr.

Chwaraeodd ei ddwy flynedd olaf o bêl-droed gyda Bristol City cyn ymddeol yn 1928, yn 39 oed.

Caerdydd 1925
Disgrifiad o’r llun, Caerdydd yn camu ar y cae i wynebu Sheffield United yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr, 25 Ebrill 1925

Bywyd Personol a Threftadaeth

Roedd crefydd yn elfen bwysig o fywyd Jack Evans, gan wasanaethu fel ddiacon yng Nghapel Ebeneser, Caerdydd.

Roedd yn ddyn diymhongar tu hwnt, yn ymweld â'r Bala'n aml ac yn falch iawn o'i Gymreictod a bro ei febyd.

Mae plac arbennig uwchben drws y tŷ lle roedd Evans yn byw yn Y Bala yn tynnu sylw at ei hunaniaeth fel Cymro, Cristion a phêl-droediwr.

Plac yn Y Bala
Disgrifiad o’r llun, Y plac uwchben y tŷ yn Y Bala ble yr oedd Evans yn byw

Bu farw Jack Evans yng Nghaerdydd yn 1971, wedi iddo gael ei daro'n wael tra'n eistedd yn sedd fawr y Capel.

Enillodd wyth o gapiau dros Gymru rhwng 1912 ac 1923, gyda'r Rhyfel Mawr yn debygol o fod yn ffactor cyfyngol ar y niferoedd hyn.

Mae crys a medal Evans o rownd derfynol Cwpan FA Lloegr, ynghyd â'i gap cyntaf dros Gymru, i'w gweld yn yr ystafell fwrdd yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Yn ystod ei yrfa, daeth y gŵr o Feirionnydd yn arwr i'r Adar Gleision ac i dref Y Bala, ac mae'r llysenw 'Bala Bang' yn cael ei gofio hyd heddiw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb:

  • Rocky Marciano, a ddechreuodd ei yrfa focsio yng Nghymru
  • 'Cywilydd rygbi Cymru': Gadael mamwlad i chwarae'r gêm

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News