Mae Gareth Pritchard Jones yn Dysgu Am Ei Ardal Ei Hun Trwy Seiclo
Mae Gareth Pritchard Jones, ffermwr o ardal Rhos-goch ger Cemaes, yn trefnu taith seiclo noddi o gwmpas ffermydd godro Ynys Môn i godi arian ar gyfer Sioe Frenhinol 2027.
'Dan ni'n mynd i fod yn seiclo tua 105 o filltiroedd yn ymweld â phob un fferm odro ar Sir Fôn.
Mae'r niferoedd wedi dod lawr yn arw - o be fedra' i weld, mae 'na 38 o ffermydd godro yn Sir Fôn.
Tasa ni wedi gwneud y daith rhyw hanner can mlynedd n'ôl, mi fasa 'na dipyn mwy,
meddai Gareth Pritchard Jones.
Bob blwyddyn, mae gwahanol sir yn noddi'r sioe, a'r flwyddyn nesa, tro Ynys Môn ydy hi.
Ymgyrch Môn fel Sir Nawdd ar gyfer Sioe Fawr 2027 am 'Godi Ysbryd'
Mae'r daith wedi ei rhannu'n bedwar darn, ac yn ôl Gareth, sydd ei hun yn ffermwr godro, mae modd i bobl ymuno â darn unigol yn hytrach na seiclo'r llwybr cyfan.
Mi fydd 'na griw bach ohona' ni'n gwneud y siwrne i gyd, ond mae 'na groeso i rywun ymuno â ni a thalu 35 y darn neu 50 i 'neud y cwbl,
ychwanegodd.
Mi fydd y daith yn cychwyn ym Miwmares ac yn gorffen yn Nhafarn yr Iorwerth ym Mryngwran ym mis Awst.
Roedd Gareth ei hun yn arfer seiclo'n rheolaidd hyd at ryw 10 mlynedd yn ôl ac mi wnaeth ailafael yn y diddordeb yn gynharach eleni.
Dwi'n mwynhau mynd ar y beic, er ei bod hi'n job cael amser a thywydd call - yn enwedig hefo cydbwyso hefo gwaith fferm pan mae hi'n braf.
'Cadw'n Heini a Busnesu'
Mae'n ffordd o gadw'n heini a chael busnesu,
meddai Gareth.
Ychwanegodd ei fod yn mwynhau
cael mynd ar wahanol lonydd a gweld gwahanol ffermydd, mae rhywun yn dysgu cymaint am ei ardal ei hun.
Roedd meddwl am syniad gwahanol i godi arian yn heriol, meddai Gareth, o gofio bod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd newydd ymweld ag Ynys Môn.
Ond mae'n gobeithio y bydd y syniad yma yn taro deuddeg ac yn codi ymwybyddiaeth am y diwydiant llaeth ar yr ynys.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






