Pleidlais ar fendithio priodasau un rhyw yn barhaol
Bydd corff llywodraethol Yr Eglwys yng Nghymru yn cynnal pleidlais ddydd Mercher i benderfynu a ddylid bendithio priodasau a phartneriaethau sifil o'r un rhyw yn barhaol.
Ym mis Medi 2021, mewn pleidlais hanesyddol, cefnogodd y corff llywodraethol ganiatáu bendithio priodas neu bartneriaeth sifil cyplau un rhyw mewn gwasanaeth eglwysig, ond dim ond am gyfnod arbrofol oedd hyn.
"yn gam tuag at edifeirwch yn sgil hanes o fewn yr Eglwys sydd wedi cythreulio ac erlid pobl hoyw a lesbiaidd"
Dywedodd y sefydliad ar y pryd fod y penderfyniad yn gam tuag at edifeirwch, gan gydnabod hanes o gythreulio ac erlid pobl hoyw a lesbiaidd o fewn yr Eglwys.
Mae'r cyfnod arbrofol o bum mlynedd yn dod i ben ddiwedd 2026.
Os bydd y corff llywodraethol yn pleidleisio o blaid gwneud y trefniant yn barhaol, bydd yn rhaid ymgorffori gwasanaeth bendithio awdurdodedig ar gyfer priodasau a phartneriaethau sifil o'r un rhyw yn y Llyfr Gweddi Gyffredin.
Mae'r corff llywodraethol yn cynnwys 143 o aelodau, wedi eu rhannu'n dair urdd: esgobion, clerigwyr ac aelodau lleyg.
Er mwyn i'r trefniant presennol fod yn barhaol, rhaid i ddwy ran o dair (66%) o bob un o'r tair urdd fod o blaid.
Safbwynt enwadau crefyddol eraill
O ran enwadau eraill, mae'r Undodiaid wedi cefnogi cydraddoldeb llwyr i bobl LHDTC+ ers 1970. Yn Manceinion, roedd capel Undodaidd yno yn lle addoli cyntaf i gofrestru fel lle i gynnal partneriaethau sifil.
I'r Bedyddwyr ac Annibynwyr, mater i bob eglwys unigol yw cynnal priodas neu wasanaeth bendithio, ac mae amrywiaeth o farn rhwng gwahanol gynulleidfaoedd ar y mater.
Bu trafodaeth ar y mater o fewn Eglwys Bresbyteraidd Cymru dros ddegawd yn ôl, ond penderfynwyd glynu at y traddodiad o briodas heterorywiol yn unig bryd hynny.
Mae ei chwaer eglwys, y Methodistiaid (Wesleaidd), yn priodi cyplau un rhyw ers 2014, ond gyda chymal cydwybod i weinidog a fyddai'n gwrthod dilysrwydd y gwasanaeth.
Yr Eglwys yng Nghymru yn cynnal cyfarfodydd i drafod priodas un rhyw
Yn ystod y cyfarfod yn Venue Cymru, Llandudno ddydd Mercher, bydd yr aelodau hefyd yn derbyn adroddiadau gan Gorff y Cynrychiolwyr, y Pwyllgor Sefydlog a Mainc yr Esgobion, yn ogystal â diweddariadau ar feysydd allweddol gwaith yr Eglwys.
Mae'r rhain yn cynnwys cyflwyniad a diweddariad diogelu, ac adroddiad cynnydd ar ymrwymiad yr Eglwys i sero net.
Bydd trafodaeth hefyd ar gynnig aelod preifat sy'n galw am sefydlu Grŵp Cyflawni Croeso Anabledd, gyda'r nod o gefnogi eglwysi i ddod yn fwy hygyrch a chynhwysol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






