Ymgeisydd Plaid Cymru yn ymddiheuro am sylwadau diofal
Oliver Bradley-Hughes gydag arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth
Mae ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholiad y Senedd wedi ymddiheuro am yr hyn a ddisgrifiodd fel "sylwadau diofal" a wnaeth ar gyfryngau cymdeithasol yn ei arddegau.
Mae Oliver Bradley-Hughes, sy'n ceisio cael ei ethol yn etholaeth Clwyd ym mis Mai, yn dweud ei fod yn "ddrwg iawn" ganddo am y sylwadau sy'n cyfeirio at gymryd cyffuriau anghyfreithlon, ac iaith rywiaethol.
Mae gwefan Plaid Cymru yn ei ddisgrifio fel "athro ysgol uwchradd a thiwtor coleg ymroddedig".
Gwnaed y sylwadau dros ddegawd yn ôl.
Mae Bradley-Hughes yn drydydd ar restr Plaid Cymru ar gyfer etholaeth Clwyd yng ngogledd-ddwyrain Cymru.
O dan y system bleidleisio cynrychiolaeth gyfrannol newydd ar gyfer Senedd Cymru, mae pob plaid yn rhestru eu hymgeiswyr, a'r uchaf maen nhw ar y rhestr, y mwyaf tebygol ydyn nhw o gael eu hethol.
Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)
Oes etholiad yn fy ardal i?
Er mwyn rhoi gwybodaeth am unrhyw etholiadau yn eich ardal chi, mae'r BBC yn cydweithio â'r Comisiwn Etholiadol ac yn anfon eich data personol atynt. Hysbysiad Preifatrwydd Data (Yn agor mewn tab porwr newydd)
Rhowch god post preswyl llawn yng Nghymru i gael gwybod
Mae problem gyda'r gwasanaeth ar hyn o bryd. Rhowch gynnig arall arni nes ymlaen.
Mewn datganiad, dywedodd Mr Bradley-Hughes:
"Gwnaed y postiadau yma dros 15 mlynedd yn ôl, pan oeddwn i yn fy arddegau, ac nid ydynt yn adlewyrchu'r person ydw i heddiw.
Roedd rhai yn dyfynnu geiriau caneuon, a rannais ar y pryd heb feddwl.
Nid ydynt yn adlewyrchu fy marn o gwbl.
Rwy'n 31 oed nawr ac ni fyddwn byth yn gwneud sylwadau o'r fath heddiw ac rwy'n deall eu bod yn anghywir ar y pryd.
Wrth edrych yn ôl, gallaf weld pa mor hawdd oedd gwneud sylwadau diofal ar-lein fel person ifanc ar adeg pan oedd cyfryngau cymdeithasol yn newydd ac nad oedd llawer o arweiniad i bobl ifanc.
Wedi dweud hynny, fy nghyfrifoldeb i oedd hyn ac rwy'n derbyn hynny yn llawn.
Mae'n ddrwg iawn gen i am unrhyw dramgwydd neu bryder a achoswyd ganddynt.
Rwyf wedi tyfu a dysgu llawer ers hynny. Mae fy ngwerthoedd heddiw – parch, cynhwysiant, a gwasanaeth cyhoeddus – yn llywio popeth rwy'n ei wneud ac rwyf wedi ymrwymo i fyw yn ôl y rhain bob dydd".
Ychwanegodd: "Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn fy marnu nid yn ôl camgymeriadau fy ieuenctid ac yn ôl sylwadau a wnaed ar-lein cyn i fy marn ddatblygu'n llawn fel oedolyn ond yn ôl y gwaith rwy'n ei wneud nawr i wasanaethu fy nghymuned a chynnal yr egwyddorion rwy'n credu ynddynt."
Dywedodd Plaid Cymru nad oedd ganddyn nhw unrhyw beth pellach i'w ychwanegu at ddatganiad Mr Bradley-Hughes.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Ymgeisydd Reform yn gadael y blaid ynghanol dadl 'dros barasiwtio ymgeiswyr'
- Etholiad: Cynhadledd 'mor bwysig' i ysbrydoli pobl ifanc i bleidleisio
- Etholiad yn ddewis rhwng Plaid Cymru a Reform - Rhun ap Iorwerth







