Gwasanaethau brys yn delio â thân sied mawr yn Nhreharris
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol Fictoria, Treharris ganol prynhawn Sul.
Mae nifer o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi ym Merthyr Tudful wrth i'r gwasanaethau brys ymateb i dân sied.
Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod "yn delio â digwyddiad mawr" yn Heol Fictoria, Treharris.
Yn ôl Heddlu De Cymru, mae sawl eiddo wedi cael eu gwagio a bod trigolion wedi cael eu cludo i neuadd gymunedol leol.
Mae dwy stryd arall ar gau - Heol Mary a Heol Thomas - ac mae yna gyngor i drigolion lleol gadw drysau a ffenestri ar gau.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig wedi 15:20 brynhawn Sul yn dilyn adroddiadau o dân yng ngardd eiddo yn Heol Fictoria.
Mae criwiau tân wedi eu hanfon yno o Aberbargoed, Pontypridd, Merthyr Tudful, Caerffili a Maendy, ynghyd â thri thanc dŵr.
Ychwanegodd y gwasanaeth tân bod "plu mawr o fwg i'w weld yn yr ardal" ac y dylai pobl osgoi'r ardal "i adael i'r gwasanaethau brys weithio'n ddiogel a chadw lonydd yn glir".
'Eitha' brawychus'
Dywedodd Andrea Parfitt, sy'n byw yn Heol Thomas dros y ffordd i safle'r tân, mai'r cyntaf y gwyddai bod yna dân oedd pan ogleuodd fwg a chau ei ffenestri.
"Mae yna lot o fwg ac roedd yna lot o fflamau," dywedodd.
"Mae'r fflamau wedi cilio ac mae'n edrych fel bod y brigâd dân bellach wedi gallu mynd i'r adeilad.
"Neuadd Ambiwlans San Iawn oedd yr adeilad - mae'n cael ei ddefnyddio fel sgtorfa nawr.
"Mae rhai o'r cymdogion wedi gadael eu cartrefi. Mae yna lot o fwg o hyd yn y stryd.
"Roedd yn eitha' brawychus - ro'n i rhwng dau feddwl gadael trwy fy nrws cefn.
"Ddois i adref o dŷ Mam ac ro'n i'n gallu ogleuo mwg a gweld y fflamau.
"Dydw i ddim yn ymwybodol os yw e wedi effeithio ar unrhyw dai ond mae'r holl erddi yn cefnu ar ei gilydd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




