Rheithgor yn methu â dod i benderfyniad yn achos treisio
Mae'r rheithgor wedi methu â dod i ddyfarniad yn achos ffermwr o Ddyffryn Conwy a oedd wedi ei gyhuddo o dreisio dynes yr oedd wedi ei chyfarfod yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2023.
Roedd Emlyn Jones, sy'n 27 oed ac o Gapel Curig, wedi gwadu pedwar cyhuddiad gan gynnwys ymosodiad rhyw, crogi bwriadol a threisio.
Roedd y rheithgor wedi clywed pedwar diwrnod o dystiolaeth yn Llys y Goron Caernarfon.
Yna bu'r rheithgor yn trafod am bron i bedair awr cyn i'r Barnwr Nicola Saffman ddweud dydd Gwener y byddai'n derbyn dyfarniad yr oedd mwyafrif o'r rheithgor, sef 10 o'r 12, yn gytûn.
Ond er trafod am ddwy awr a hanner arall brynhawn Gwener, dywedodd y rheithgor nad oedden nhw mewn sefyllfa i gyrraedd penderfyniad, hyd yn oed os bydden nhw'n cael mwy o amser i drafod.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon i'r ddynes gwrdd ag Emlyn Jones ar faes yr Eisteddfod yn Awst 2023

Wrth ryddhau'r rheithgor o'u dyletswyddau dywedodd y barnwr
"na ddylen nhw ystyried hyn yn fethiant", ac "ni fysa'i wedi gallu gofyn mwy ohonyn nhw".
Mae gan Wasanaeth Erlyn y Goron saith diwrnod i benderfynu os bydden nhw yn pwyso ymlaen gydag erlyniad o'r newydd.
Cafodd Mr Jones ei ryddhau ar fechnïaeth.
Gwybodaeth ychwanegol a chysylltiadau
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







