Skip to main content
Advertisement

Prinder Adnoddau Cymraeg yn Rhwystr i Fyfyrwyr a Gweithwyr Cyfreithiol yng Nghymru

Mae prinder adnoddau cyfreithiol Cymraeg yn parhau i greu rhwystrau i fyfyrwyr a gweithwyr cyfreithiol yng Nghymru. Cenin Siôn wedi sefydlu Deall y Drefn i ddarparu adnoddau a chefnogaeth i'r rhai sy'n dymuno dilyn gyrfa drwy gyfrwng y Gymraeg.

·6 min read
Cenin Sion

Prinder Adnoddau Cymraeg yn Rhwystr i Fyfyrwyr a Gweithwyr Cyfreithiol yng Nghymru

Yn ôl Cenin Siôn,

"mae'r diffyg adnoddau cyfreithiol Cymraeg yn symptom o'r gorffennol"

Mae prinder adnoddau Cymraeg yn parhau i greu rhwystrau i fyfyrwyr a darpar gyfreithwyr yng Nghymru, yn ôl rhai yn y maes.

Mae myfyrwyr yn dweud bod diffyg deunyddiau a chanllawiau yn ei gwneud hi'n anodd astudio a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg.

O ganlyniad, mae bargyfreithiwr anghofrestredig wedi sefydlu adnodd newydd i geisio mynd i'r afael â'r broblem.

Er bod adnoddau'n bodoli eisoes, mae arbenigwyr yn rhybuddio bod bylchau sylweddol yn parhau o'i gymharu â'r hyn sydd ar gael yn Saesneg.

'Adnoddau'n brin ofnadwy'

Yn ystod ei chyfnod yn astudio'r gyfraith yn y chweched dosbarth, dywedodd Cenin Siôn iddi ddod yn ymwybodol o brinder adnoddau Cymraeg o fewn y maes.

"Mi es i i brifysgol yn Llundain felly, yn amlwg, nes i wneud fy ngradd drwy gyfrwng y Saesneg.
Ond ar ôl gwneud cwrs y Bar ym Mhrifysgol Caerdydd ac wedyn gweithio yng ngogledd Cymru, dwi wedi sylweddoli bod yr adnoddau cyfreithiol Cymraeg yn brin ofnadwy.
Dwi'n meddwl bod hynny'n symptom o'r gorffennol, achos doedd Cymraeg ddim yn cael ei weld fel iaith broffesiynol," meddai.

Er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae Cenin wedi sefydlu Deall y Drefn - gwefan sy'n cynnig adnoddau, arweiniad ar lwybrau gyrfa a rhwydwaith o weithwyr cyfreithiol Cymraeg eu hiaith.

"Nod Deall y Drefn yw cynnig adnoddau, arweiniad a rhwydwaith fel bod pobl yn gallu dilyn gyrfa yn y gyfraith drwy gyfrwng y Gymraeg," meddai Cenin Siôn

"Dwi wedi creu Deall y Drefn i gynnig gwybodaeth ac adnoddau i'r unigolion yna sy'n dyheu i ymuno â'r proffesiwn i wneud hynny a gwneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg."

Dywedodd ei bod hefyd am weld newid yn y ffordd mae'r Gymraeg yn cael ei weld yn y maes cyfreithiol.

"Dwi'n meddwl mai'r hyn sy'n bwysig hefyd yw nodi bod adnoddau ardderchog eisoes yn bodoli yn y maes.
Roedd modiwl arbennig ym Mhrifysgol Caerdydd yn canolbwyntio ar eirioli drwy gyfrwng y Gymraeg ym myd y gyfraith, a bwriad Deall y Drefn yw adeiladu ar hynny fel cam arall yn y daith – i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei weld fel iaith broffesiynol ym mhob rhan o'r maes cyfreithiol."

Llun o'r sgrin
Disgrifiad o’r llun, "Nod Deall y Drefn yw cynnig adnoddau, arweiniad a rhwydwaith fel bod pobl yn gallu dilyn gyrfa yn y gyfraith drwy gyfrwng y Gymraeg," meddai Cenin Siôn

'Termau'n gallu bod yn rhwystr'

Er ei bod yn siarad Cymraeg yn rhugl, dywedodd Cenin fod diffyg cysondeb mewn termau technegol yn parhau i fod yn broblem.

"Mae'r termau yn gallu bod yn rhwystr… does dim sicrwydd sut ma' cyfieithu 'heina weithiau," meddai.

"Dwi'n gobeithio bydd Deall y Drefn yn adnodd fydd pobl yn gallu troi ato pan dydyn nhw ddim yn siŵr beth yw'r term cywir ar gyfer rhywbeth technegol yn y Gymraeg."

Yn ôl Cenin, mae ymateb y sector wedi bod yn allweddol.

Cafodd Cenin ei galw i'r Bar yn Llundain ym mis Ebrill eleni

"Ers dechrau fy ngyrfa mewn addysg gyfreithiol, mae fy mhrofiad o bobl eraill yn y sector wedi bod yn gadarnhaol iawn.
Maen nhw mor barod i helpu, ac ers i mi sôn am Deall y Drefn mae cymaint o gyfreithwyr, bargyfreithwyr a barnwyr wedi cynnig cyfrannu.
Mae yna awydd gwirioneddol i hybu'r Gymraeg yn y maes a chael mwy o bobl ifanc i'w ddilyn. Dwi eisiau rhannu hynny gyda phawb arall."

Cenin sion
Disgrifiad o’r llun, Cafodd Cenin ei galw i'r Bar yn Llundain ym mis Ebrill eleni

'Teimlo fel bo' ti mewn dau fyd gwahanol'

Mae Awel Rogers ac Elliw Sion yn astudio'r gyfraith yng Ngholeg Meirion Dwyfor

Yn ôl Awel Rogers, sy'n paratoi i fynd i mewn i'r proffesiwn cyfreithiol, mae'r rhwystr iaith wedi bod yn amlwg yn ystod ei hastudiaethau.

Ad (425x293)

Dywedodd ei bod yn aml yn gorfod defnyddio adnoddau Saesneg oherwydd prinder deunydd Cymraeg, hyd yn oed pan oedd yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Mae'n gallu bod yn anodd iawn pan mae'r mwyafrif o'r deunyddiau a'r achosion yn Saesneg.
Ti'n trio dysgu a deall pethau cymhleth drwy iaith sydd ddim bob tro yn teimlo'n naturiol i'r maes," meddai.

Yn ôl Elliw Sion mae'r diffyg adnoddau weithiau'n effeithio ar hyder myfyrwyr sy'n dewis astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Mae'n gwneud i ti deimlo weithiau fel bod ti'n gweithio mewn dau fyd gwahanol. Mae cyfieithu pethau yn cymryd gymaint o amser, a dwi'n poeni weithiau bod hynny'n gallu cael effaith ar fy ngradd."

Mae'r ddwy felly yn croesawu menter 'Deall y Drefn'.

"Bydd rhywbeth fel hyn yn help mawr i bobl fel fi, jyst i gael lle i droi pan ti ddim yn siŵr am dermau neu lwybrau gyrfa," meddai Awel.

Awel Rogers ac Elliw Sion
Disgrifiad o’r llun, Mae Awel Rogers ac Elliw Sion yn astudio'r gyfraith yng Ngholeg Meirion Dwyfor

'Dim digon o adnoddau'

Dywedodd yr Athro Emeritws Emyr Lewis nad diffyg llwyr sydd, ond diffyg maint o'i gymharu â'r Saesneg.

"'Swn i ddim yn dweud bod yna ddiffyg – ond does 'na ddim digon," meddai.

"Ma' 'na adnoddau i gael a ma' 'na rai ardderchog i gael ond mae'r gyfraith yn bwnc eang iawn a ma' astudio'r gyfraith yn golygu mynd i'r afael â llawer iawn o wybodaeth yn ogystal â dadansoddi testunau, ac wrth gwrs pan 'da chi'n cymharu gyda'r hyn sydd ar gael yn Saesneg, ma'r hyn sydd ar gael yn Gymraeg yn gymharol bitw."

Mae'n ymddangos nad oes un corff neu unigolyn yn gwbl gyfrifol am ddatblygu adnoddau Cymraeg yn y maes cyfreithiol.

Yn ôl yr Athro Lewis,

"Un o'r heriau i'r brifysgol yw dod o hyd i ffyrdd lle allwn nhw weithio efo'i gilydd i gynyddu'r adnoddau sydd ar gael."

"Ma'r bobl sydd yn gweithio mewn prifysgolion o dan bwysau gwaith mawr ag ma' prosesau dilysu gwaith academaidd yn feichus ac yn araf deg."

Mae Emyr Lewis yn Athro Emeritws yn Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth

Dywedodd fod myfyrwyr yn aml yn gorfod troi at ffynonellau Saesneg.

"Wrth gwrs be sy'n gwneud o'n anodd ma'n ofynnol i ddefnyddio ffynonellau ac, wrth eithrio cyfraith Senedd Cymru, ma' y rheiny i gyd yn y Saesneg.
Ac mae'n gallu bod yn anodd i fyfyrwyr i ymdrin mewn traethawd neu ddadl â ffynonellau mewn Saesneg."

Emyr Lewis
Disgrifiad o’r llun, Mae Emyr Lewis yn Athro Emeritws yn Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth

'Pont bwysig'

Mae'r Athro Lewis yn croesawu'r fenter, gan ddweud ei fod yn helpu i leihau'r bwlch rhwng astudio'r gyfraith a'i chymhwyso'n ymarferol.

"Dwi'n croesawu'r adnodd yma yn fawr, nid yn unig ma'n bont rhwng y Gymraeg a'r Saesneg ond ma'n bont rhwng astudiaeth ysgolheigaidd o'r gyfraith ac ymarfer y gyfraith ac ma'r ddwy bont yna yn bwysig iawn," meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News