Cyflwyniad i'r digwyddiad
Roedd pen-blwydd Karl Whitcombe yn 40 oed yn gyfle i ddathlu gyda ffrindiau a theulu yng Nghaerdydd. Fodd bynnag, pan brofodd Karl a'i bartner sarhad homoffobig gan ddau grŵp o ddynion ifanc, dywedodd eu bod yn "ddig" ac wedi eu "syfrdanu".
"Ni wedi symud 'mlaen cymaint, do'n i ddim yn meddwl bod y pethau 'ma yn digwydd," meddai Whitcombe.
Dywedodd yr elusen hawliau LGBTQ+ Stonewall fod nifer y troseddau casineb yn seiliedig ar gyfeiriadedd rhywiol yn y Deyrnas Unedig yn "annerbyniol o uchel".
Disgrifiad o'r digwyddiadau
Aeth y ddau grŵp, a ddisgrifiwyd gan Karl fel dynion ifanc, at y cwpl a defnyddio iaith homoffobig wrth eu holi am eu perthynas.

Dywedodd Karl fod dau grŵp ar wahân wedi gwneud cyswllt ag ef a Craig wrth iddynt fwynhau nosweithiau allan yng Nghaerdydd ym mis Mawrth.
Aeth y ddau grŵp, a ddisgrifiwyd gan Karl fel dynion ifanc, at y cwpl a defnyddio iaith homoffobig wrth eu holi am eu perthynas.
Dywedodd Karl fod y digwyddiad cyntaf wedi digwydd pan oedd y cwpl yn cerdded i'r orsaf drenau ar ôl cinio, a'r ail wrth iddyn nhw fynd i ganol y ddinas i gael diod ar ôl gweld sioe.
"O'n i mor shocked bod e wedi digwydd dwywaith mewn dau ddiwrnod a grwp hollol wahanol," meddai Karl.
Camau a gymerwyd ar ôl y digwyddiadau
Penderfynodd rannu ei brofiad ar-lein fel "ffordd o gymryd ychydig o reolaeth yn ôl".
Mi benderfynodd Karl gofnodi'r digwyddiadau i'r heddlu fel bod data yn adlewyrchu ei brofiad yng Nghaerdydd.
Cadarnhaodd Heddlu De Cymru fod Whitcombe wedi cael cefnogaeth ar ôl adrodd am y digwyddiadau ond gwrthododd unrhyw gamau pellach gan yr heddlu.
Y sefyllfa gyffredinol o droseddau casineb
"Mae llawer o sôn wedi bod am wrywdod gwenwynig," ychwanegodd Karl.
"Mae'n teimlo fel ein bod ni'n mynd yn ôl mewn rhai ffyrdd - mae bellach yn cael ei weld fel derbyniol bod yn amharchus i bobl, i beidio â bod yn garedig, oherwydd eich bod chi'n teimlo bod rhywun yn wahanol i chi."
"Mae troseddau casineb yn parhau i fod yn annerbyniol o uchel," meddai Simon Blake OBE, prif swyddog gweithredol Stonewall.

Trosedd gasineb (hate crime) yw unrhyw drosedd yng Nghymru a Lloegr lle mae'r dioddefwr neu unrhyw berson arall yn ei hystyried yn drosedd sydd wedi'i hysgogi gan elyniaeth neu ragfarn yn seiliedig ar hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol neu anabledd person.
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2025, fe ostyngodd nifer y troseddau casineb cyfeiriadedd rhywiol a adroddwyd 2%, ond mae data'r Swyddfa Gartref yn dangos cynnydd mewn troseddau casineb cyfeiriadedd rhywiol a gafodd eu hadrodd dros y pum mlynedd diwethaf.
"Mae troseddau casineb yn parhau i fod yn annerbyniol o uchel," meddai Simon Blake OBE, prif swyddog gweithredol Stonewall.
Dywedodd nad yw llawer o droseddau'n cael eu hadrodd, ac felly na fyddant yn cael eu hadlewyrchu yn y data, oherwydd bod pobl yn ofni na fydd yr heddlu'n cymryd eu profiadau o ddifrif.
"Mae gennych chi'r awyrgylch hwn lle mae'n teimlo'n fwy posibl i gasineb amlygu ei hun, boed hynny ar lafar neu boed hynny'n gorfforol."
Profiad Simon Blake a rôl y gymuned
Fel myfyriwr yng Nghaerdydd yn y 1990au, roedd Simon yn ddioddefwr ymosodiad corfforol homoffobig.
"Ie, roedd hynny dros 30 mlynedd yn ôl. Ie, nid yw'n rhywbeth rwy'n cwympo i gysgu'n poeni amdano bob nos, ond mae yno ac mae'n creu'r ymdeimlad hwnnw o 'ydw i'n ddiogel?'"
Cefnogaeth i ddioddefwyr troseddau casineb
Mae Laura Thompson yn cynnal sesiynau cymorth i bobl sydd wedi dioddef troseddau casineb.
Mae Laura Thompson yn gweithio i Galop, elusen gwrth-gam-drin LHDT+ yng Nghaerdydd.
"Ar y funud 'da ni'n gweld mwy a mwy o bobl yn cysylltu â ni sydd wedi mynd trwy droseddau casineb," meddai Laura.
Mae'r elusen wedi cofnodi cynnydd o 27% mewn galwadau troseddau casineb i'w llinell gymorth dros y flwyddyn ddiwethaf.
Yn ôl Laura mae hi'n teimlo bod cynnydd wedi bod mewn iaith homoffobig, sy'n golygu bod rhai yn teimlo bod yr hawl ganddyn nhw i'w hailadrodd.
Ychwanegodd Laura bod "angen dod at ein gilydd" fel cymuned i fynd i'r afael â chasineb, gan ychwanegu bod angen i ni fod ar ochr y bobl sy'n dioddef.

Profiad Lloyd Best o homoffobia
Fe wnaeth Lloyd Best brofi homaffobia pan oedd yn iau.
Dywedodd Lloyd Best, 32, fod yr homoffobia a brofodd fel bachgen ifanc yn ei effeithio o hyd fel oedolyn.
Mae'r canwr o'r Barri'n cofio'r profiad "trawmatig" o'i rywioldeb yn troi yn bwnc trafod ar ôl iddo ei rannu gyda grŵp bach yn yr ysgol.
"Un diwrnod des i i'r ysgol, ac roedd pawb yn gwybod.
"Wrth i mi ddod oddi ar y bws ysgol daeth torf gyfan o blant ataf a dechrau gweiddi arnaf, gan ddweud pethau ofnadwy, ac fe wnaethon nhw fy erlid o gwmpas yr ysgol gyfan, gan geisio cael atebion gen i."
Dywedodd Lloyd er bod ganddo "fannau diogel", ei fod yn treulio llawer o amser yn meddwl am lle mae'n mynd a sut mae e wedi gwisgo ar ôl profiadau blaenorol "bygythiol".
"Mae mwy o bobl wedi gweiddi pethau arnaf wrth i mi gerdded i lawr y stryd.
"Rwy'n teimlo fel bod y ddwy flynedd ddiwethaf, yn sicr ar ôl y pandemig, ei fod yn teimlo fel ei fod yn gwthio yn ôl tuag at y brand homoffobia cynnar hwnnw o'r 2000au, ac mae hynny'n eithaf pryderus i mi."

Ymchwil ac effaith cynyddol
'Mwy o bobl anoddefgar'
Mae'r Athro Matthew Williams o Brifysgol Caerdydd wedi bod yn ymchwilio i droseddau casineb ers y 25 mlynedd diwethaf a dywedodd fod "cynnydd" wedi bod mewn ymddygiad anoddefgar at "grwpiau lleiafrifol" sydd wedi "cael ei danio i raddau helaeth gan bolareiddio cynyddol".
Dywedodd y gallai casineb ar-lein arwain at gasineb mewn mannau cyhoeddus.
"Mae'r ymchwil yn canfod yn gyson os oes cynnydd mewn gelyniaeth sy'n cael ei fynegi ar gyfryngau cymdeithasol, er enghraifft, tuag at grŵp penodol, yna mae tuedd fod cynnydd cyfatebol mewn casineb ar y strydoedd hefyd."
Cyfeiriodd Matthew hefyd at "ddylanwad cynyddol" y manosffer - rhwydwaith o wefannau, fforymau a dylanwadwyr sy'n hyrwyddo'r hyn maen nhw'n ei ddisgrifio fel gwrywdod "traddodiadol".
"Rwy'n credu ei bod bron yn amhosibl diystyru rôl dylanwad cynyddol mathau penodol o unigolion sy'n gysylltiedig â'r manosffer, ac agweddau newidiol tuag at fenywod a phobl hoyw," meddai.






