Skip to main content
Advertisement

Heddlu'n Gobeithio y Gall Dannedd 'Unigryw' Adnabod Corff mewn Coedwig

Mae heddlu Gogledd Cymru yn ceisio adnabod corff dyn a gafodd ei adael mewn coedwig rhwng 2004 a 2011. Mae dannedd unigryw a gwaith deintyddol manwl yn allweddol i'r ymchwiliad, gyda gwobrau a galwadau am wybodaeth yn parhau.

·5 min read
Mae'r heddlu wedi rhyddhau argraff o sut olwg oedd ar y dyn yn ei 50au (chwith), ar ôl i'w weddillion gael eu darganfod yng Nghoedwig Clocaenog

Argraff o'r Dyn Yn Ei 50au Wedi'i Rhyddhau

Mae'r heddlu wedi rhyddhau argraff o sut olwg oedd ar y dyn yn ei 50au (chwith), ar ôl i'w weddillion gael eu darganfod yng Nghoedwig Clocaenog.

Dewis Deintyddiaeth Fel Allwedd i Adnabod

Mae ditectifs yn dweud y gallai deintydd fod yn allweddol wrth geisio adnabod dyn a gafodd ei lofruddio a'i adael mewn coedwig dros ddegawd yn ôl.

Cafodd rhan o benglog y dyn ei ddarganfod yng Nghoedwig Clocaenog, Sir Conwy, gan ddau wersyllwr yn 2015, cyn i'w sgerbwd gael ei ddarganfod gan yr heddlu.

Ond er i nifer o brofion gael eu cynnal, a chynnig gwobr o £20,000 gan Crimestoppers am wybodaeth sy'n arwain at arestio'r rhai sy'n gyfrifol, nid yw'r dyn erioed wedi cael ei adnabod.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd, sydd wedi cyhoeddi apêl newydd am wybodaeth, y gallai dannedd y dyn - a ddisgrifiwyd fel rhai sydd wedi cael gwaith "unigryw" gan gynnwys llenwadau, coronau a thriniaeth sianel y gwreiddyn (root canal) - eu helpu i'w adnabod o'r diwedd.

Adolygiad i Geisio Adnabod Corff Coedwig Cerrigydrudion

"Rydym yn credu'n gryf, pe baech chi'n ddeintydd, y byddech chi'n adnabod eich gwaith - mae'n eithaf unigryw," meddai'r Ditectif Uwch-arolygydd Chris Bell o Heddlu'r Gogledd wrth raglen Crimewatch Live y BBC.

Dywedodd fod lluniau pelydr-X o asgwrn cefn y dyn hefyd yn dangos bod ganddo arthritis a fyddai wedi achosi poen yn ei gefn.

"Mae'n bosib nad oedd ei deulu neu ei ffrindiau yn ymwybodol o'r poen yn ei gefn," ychwanegodd.

Pelydr-x asgwrn cefn
Disgrifiad o’r llun, Mae'r llu wedi rhyddhau delwedd pelydr-x o asgwrn cefn y dyn

Cafodd corff y dyn ei ddarganfod ar 14 Tachwedd 2015 gan ddau frawd a oedd yn gwersylla yn y goedwig cyn Rali Cymru.

"Aeth un o'r brodyr i chwilio am goed ar gyfer gwneud tân, ac wrth wneud hynny fe wnaeth o ddarganfod be'r oeddent yn credu oedd sgerbwd dynol," meddai'r Ditectif Uwch-arolygydd Bell.

Dywedodd fod y darganfyddiad wedi sbarduno archwiliad fforensig enfawr a "heriol" mewn ardal o "dyfiant trwchus".

"Edrychodd patholegydd profiadol ar y benglog ac roedd yn gallu dweud bod trawma i'r pen, a wnaeth yn glir mai ymchwiliad i lofruddiaeth oedd hon," ychwanegodd.

Clocaenog
Disgrifiad o’r llun, Dangosodd profion fod corff y dyn wedi bod yn y goedwig ers sawl blwyddyn - o bosibl ers 2004

Dangosodd profion fod corff y dyn wedi bod yn y goedwig ers sawl blwyddyn - o bosibl ers 2004.

Advertisement

Ond dros 10 mlynedd ar ôl y darganfyddiad, mae'r llu'n dweud eu bod nhw "ddim yn agosach" at adnabod y dioddefwr.

"Rydym yn credu'n gryf bod y dyn wedi cael ei adael yn y lleoliad yma rhwng 2004 a 2011," meddai'r Ditectif Uwch-arolygydd Bell.

Ychwanegodd nad oes ganddyn nhw'r "manteision o leoliad trosedd traddodiadol" oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Bell fod profion yn dangos ei fod yn debygol bod y dyn "wedi cael ei eni cyn 1950".
"Rydym yn credu bod y dyn dros ei bwysau a'i fod rhwng 5 troedfedd 8 modfedd a 5 troedfedd 10.5 modfedd o daldra," ychwanegodd.
"O archwilio'r asgwrn cefn, rydyn ni'n gwybod bod ganddo arthritis a byddai wedi dioddef o boen yn ei gefn."

Dywedodd fod dannedd y dyn hefyd yn "yn bwysig iawn" i'r ymchwiliad.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Bell: "Dywedwyd wrthym, os mai chi yw'r deintydd a wnaeth y driniaeth honno, eich bod yn debygol o adnabod eich gwaith eich hun, a fyddai, gobeithio, yn ein galluogi i adnabod pwy yw'r person hwn."

Mae'r heddlu'n gobeithio y gallai dannedd y dyn helpu i'w adnabod
Disgrifiad o’r llun, Mae'r heddlu'n gobeithio y gallai dannedd y dyn helpu i'w adnabod

Dywedodd yr odontolegydd fforensig Dr John Rosie wrth Crimewatch yn 2016:

"Mae ei ddannedd premolar wedi cael eu coroni, mae gwaith sianel y gwreiddyn a llenwadau helaeth iawn, sydd o ansawdd uchel.
"Mae arddull y ddeintyddiaeth yn nodweddiadol o ddeintyddiaeth oedd yn cael ei wneud yn y 90au, y 2000au, o bosibl diwedd yr 80au."

Mae ditectifs wedi rhyddhau argraffiadau o'i wyneb yn flaenorol yn dangos sut y galli wedi edrych yn ei 50au, 60au a'i 70au.

Argraff o'r dyn
Disgrifiad o’r llun, Mae ditectifs wedi rhyddhau argraffiadau o'i wyneb yn flaenorol yn dangos sut y gallai wedi edrych yn ei 50au, 60au a'i 70au

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Bell, er bod y rhain yn "ddefnyddiol", dim ond "darlun o sut olwg fyddai ar y person hwnnw, canllaw yn unig ydyw".
"Hoffwn bwysleisio, os yw'r pethau eraill rydw i wedi'u crybwyll - ei daldra, ei oedran - os ydyn nhw'n canu cloch gyda phobl ac maen nhw'n meddwl eu bod nhw'n gwybod pwy ydyw, ond nad yw o reidrwydd yn edrych fel [yr argraffiadau], peidiwch â defnyddio hynny fel rheswm i beidio â chysylltu â ni," ychwanegodd.
"Rydyn ni eisiau clywed gan bawb, os ydyn nhw'n meddwl bod rhywun wedi mynd ar goll rhwng 2004 a 2011, ffrindiau unrhyw un, anwyliaid unrhyw un."

Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod hefyd wedi sefydlu bod y dyn wedi bod yn gwisgo siwmper Pringle a gafodd ei chynhyrchu diwethaf yn 2004.

"Fe wnaethon ni hefyd ddod o hyd i ddillad isaf, sef dillad isaf Marks & Spencer, ac o'r label gallwn ddweud ei fod yn faint mawr," meddai'r Ditectif Uwch-arolygydd Bell.
"Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn nodi pwy yw'r person yma, i bwy mae'n perthyn, ac o hynny ymlaen gallwn ddechrau ymholiadau eraill i nodi sut y daeth i farw a phwy oedd yn gyfrifol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News