Cymraeg fel pwnc: Patrwm o TGAU i Safon Uwch yn 'anffodus'
Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi pryder bod y cynnydd yng nghanran y disgyblion sy'n astudio Cymraeg fel pwnc ar lefel TGAU ddim yn cael ei adlewyrchu yn y niferoedd sy'n astudio Cymraeg Safon Uwch.
Yn ystod y flwyddyn academaidd 2024/25, dim ond 3.1% o'r dysgwyr a gafodd eu cofrestru ar gyfer TGAU Cymraeg iaith gyntaf ddwy flynedd ynghynt oedd wedi cofrestru ar gyfer Safon Uwch Cymraeg iaith gyntaf. Yn ogystal, dim ond 0.8% o'r dysgwyr a gafodd eu cofrestru ar gyfer TGAU Cymraeg ail iaith ddwy flynedd ynghynt oedd wedi cofrestru ar gyfer Safon Uwch Cymraeg ail iaith.
I gymharu, yn 2008/09 roedd y ffigyrau'n uwch, gyda 6.7% ar gyfer Cymraeg iaith gyntaf a 2.9% ar gyfer Cymraeg ail iaith yn astudio ar lefel Safon Uwch.
Yn 2024/25, roedd 80% o ddysgwyr Blwyddyn 11 wedi'u cofrestru i sefyll TGAU Cymraeg iaith gyntaf neu ail iaith, gyda 18% yn astudio Cymraeg iaith gyntaf a 62% Cymraeg ail iaith. Mae hyn yn cynnydd o 70% yn 2008/09, pan oedd 14% yn astudio Cymraeg iaith gyntaf a 56% Cymraeg ail iaith.
Mewn adroddiad blynyddol 2024–25 Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr, a gyhoeddwyd ddydd Mawrth, dywedodd Llywodraeth Cymru:
"Rydym am weld mwy o ddysgwyr yn astudio'r iaith ar lefel Safon Uwch ac ar lefel gradd, er mwyn inni allu creu'r genhedlaeth nesaf o academyddion, athrawon a gweithwyr dwyieithog mewn sectorau allweddol lle mae angen sgiliau iaith lefel uwch."
'Parhau i ostwng'
Mae'r adroddiad yn cydnabod bod y canran o gofrestriadau TGAU Cymraeg sydd hefyd yn cofrestru i wneud Cymraeg Safon Uwch, ar gyfer iaith gyntaf ac ail iaith, yn parhau i ostwng.
Yn ogystal, mae'r niferoedd sy'n astudio Saesneg ac ieithoedd tramor modern Safon Uwch hefyd wedi gostwng yn sylweddol, gan nodi nad yw'r gostyngiad yn unigryw i'r Gymraeg.
Dywed y llywodraeth eu bod yn ariannu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i hyrwyddo'r Gymraeg fel pwnc Safon Uwch ac i ddarparu grantiau i helpu ysgolion gynnal dosbarthiadau Safon UG a Safon Uwch lle mae'r niferoedd sy'n astudio'r pwnc yn isel.
Yn ystod 2024/25, dyrannodd y coleg 86 o grantiau i helpu ysgolion a cholegau addysg bellach i ddarparu Cymraeg fel pwnc.
Un o ofynion y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yw bod yn rhaid i awdurdodau lleol nodi sut maen nhw'n gweithio gydag ysgolion i gydlynu'r gwaith o ddarparu Cymraeg fel pwnc ym mlwyddyn 10 ac uwch.
Mae'r adroddiad yn nodi:
"Er bod y niferoedd sy'n astudio Cymraeg Safon Uwch mewn ysgolion yn isel mewn rhai ardaloedd, ac ysgolion weithiau'n cael trafferth parhau i gynnig y pwnc, mae llawer o awdurdodau wedi adrodd eu bod wedi gweithio ar y cyd â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, awdurdodau cyfagos ac amrywiol bartneriaethau eraill yn 2024/25 i hyrwyddo'r Gymraeg fel pwnc, ynghyd â'i manteision o ran gyrfa a chyflogaeth."
Denu athrawon yn 'parhau'n her'
Mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod bod denu nifer ddigonol o athrawon i addysgu'r Gymraeg neu drwy gyfrwng y Gymraeg yn parhau'n her.
Yn y cynllun Cymraeg 2050, gosododd Llywodraeth Cymru y nodau canlynol erbyn 2031:
- 3,900 o athrawon cynradd a all addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg;
- 4,100 o athrawon uwchradd a all addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae data diweddaraf y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 yn dangos bod 2,678 o athrawon cynradd sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, a 2,458 o athrawon uwchradd sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r ffigyrau hyn yn dangos gostyngiad bach ers 2023/24.
Pasiodd y Senedd Bil y Gymraeg ac Addysg yn unfrydol ar 13 Mai 2025, ac fe gafodd y mesur Gydsyniad Brenhinol ar 7 Gorffennaf 2025.
Prif nod y ddeddf yw sicrhau, erbyn 2050, bod pob disgybl yn cyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol yn ddefnyddwyr Cymraeg annibynnol a hyderus, o leiaf.
Yn ôl Cyfrifiad 2021, roedd 33% o bobl ifanc 16-17 oed yn gallu siarad Cymraeg.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok. Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033. Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Angen 'newid sylweddol' i addysg i gyrraedd targedau'r Gymraeg
- Cadarnhau newidiadau i TGAU Cymraeg a Gwyddoniaeth
- Canlyniadau TGAU Cymru wedi gwella ychydig ers y llynedd







