Ymddangosfa gyntaf y bachgen o flaen Llys y Goron
Mae bachgen 14 oed wedi ymddangos o flaen Llys y Goron am y tro cyntaf ers cael ei gyhuddo o lofruddiaeth ym Mlaenau Gwent.
Cafodd ei arestio wedi i gorff gael ei ddarganfod ym Mharc Duffryn yn nhref Blaenau tua 22:10 nos Lun 22 Mehefin.
Dydy'r heddlu heb gadarnhau eto a yw'r corff wedi ei adnabod yn swyddogol, ond y gred yw mai Lilly Jones - merch 14 oed a oedd ar goll - oedd hi.

Manylion y gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd
Mewn gwrandawiad byr yn Llys y Goron Caerdydd, fe wnaeth y bachgen, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, ond siarad i gadarnhau ei enw, dyddiad geni a chyfeiriad.
Mae'r bachgen wedi dychwelyd i'r ddalfa mewn lleoliad ar gyfer pobl ifanc.
Wrth adael y doc, ble bu'n sefylla gyda thri swyddog carchar ac oedolyn cyfrifol, fe anelodd ei fam, oedd yn yr oriel gyhoeddus gyda'i dad, gusan i'w gyfeiriad.
Manylion pellach am yr achos
Mae gwrandawiad ple wedi ei nodi ar gyfer 24 Gorffennaf ac mae disgwyl i'r achos lawn ddechrau ar 23 Tachwedd.
Mae disgwyl i'r achos hwnnw barhau am bedair wythnos.
Gwybodaeth ychwanegol a chysylltiadau
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







