Colli Miloedd o Lyffantod ar ôl Wagio Cronfa Dŵr
Roedd cronfa ddŵr Nant-y-Ffrith yn gartref bridio i oddeutu 1,500 o lyffantod.
Mae cadwraethwyr sydd wedi helpu miloedd o lyffantod gyrraedd eu man bridio mewn cronfa ddŵr ger Wrecsam yn adrodd bod y llyffantod wedi marw ar ôl i'r dŵr gael ei wagio gan gwmni dŵr.
Cafodd cronfa ddŵr Nant-y-Ffrith yn ardal Llandegla ei gwagio gan gwmni Hafren Dyfrdwy, a ddywedodd eu bod yn gwneud gwaith diogelwch hanfodol.
Dywedodd aelodau o'r grŵp Batrôl Llyffantod Wrecsam y byddai'r llyffantod wedi gadael y safle mewn ychydig wythnosau ar ddiwedd y tymor bridio.
Maen nhw'n disgrifio colli'r llyffantod a'u hwyau fel "drychineb" a bod "ecosystem gyfan" wedi'i ddifetha.
'O'n i mewn dagrau'
Bob blwyddyn, mae gwirfoddolwyr yn rhoi eu hamser i helpu llyffantod groesi ffordd yr A525 brysur o'u cynefin i'w man bridio traddodiadol yn y gronfa ddŵr.
Mae'r broses yn cynnwys aros tan mae'n dechrau tywyllu ac yna defnyddio bwced i godi'r llyffantod a'u gosod ochr arall y ffordd.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei ystyried yn "hanfodol" gan Hywel Wyn Griffiths, un o'r gwirfoddolwyr sy'n helpu.
"Ni'n dod yma i helpu'r llyffantod fel bod nhw ddim yn cael eu lladd achos mae yna lawer yn cael eu lladd ac ma' rhifau nhw wedi bod lawr," meddai Mr Griffiths.
Eleni, roedd un o'u blynyddoedd mwyaf llwyddiannus wrth i'r gwirfoddolwyr helpu bron i 1,500 o lyffantod groesi'r ffordd - bedair gwaith yn fwy na'r llynedd.
Fodd bynnag, yn ôl Mr Griffiths, mae'r gwaith caled hwn wedi cael ei ddifetha ar ôl i'r cwmni dŵr wagio'r llyn.
"Mae o wedi lladd pob un o'r llyffantod, does dim un ar ôl," meddai.
"Roedd y lle yn orlawn yma gyda nhw a'u hwyau a phopeth yn mynd yn dda, ond nawr maen nhw wedi dinistrio fo."

Disgrifiodd Teri Davies, un o aelodau Grŵp Patrôl Llyffantod Wrecsam, y sefyllfa fel un "hynod siomedig".
"Daeth y newyddion gan ffrind oedd wedi gyrru heibio bod y dŵr yn isel," meddai Teri.
"Es i lawr yno ac roedd y dŵr wedi diflannu a'r llyffantod hefyd.
"O'n i mewn dagrau, yr holl waith o helpu nhw ac roedd dim ar ôl."
Yn ôl gwaith ymchwil gan elusen gadwraeth Froglife y llynedd, mae nifer y llyffantod cyffredin yn y DU wedi gostwng 41% yn y 40 mlynedd diwethaf.

Hanes a Phwysigrwydd Cronfa Dŵr Nant-y-Ffrith
Cafodd cronfa ddŵr Nant-y-Ffrith ei chreu gan Gwmni Dŵr Brymbo yn 1871 er mwyn cyflenwi dŵr i bentrefi i'r gorllewin o Wrecsam.
Mae'r ardal yn bwysig i adar, gan gynnwys cornchwiglod, ac mae cadwraethwyr yn pryderu bod eu cynefin wedi cael ei amharu hefyd.
"Nid y llyffantod yn unig sy'n cael eu heffeithio yma ond yr ecosystem gyfan," meddai Becky Wiseman, gwirfoddolwr arall.
"Mae gan bopeth eu lle ac mae'r llyffantod yn chwarae rhan hanfodol yn hynny.
"Mae'r rhain yn anifeiliaid prin sy'n cael eu gwarchod am reswm."
Ychwanegodd: "Mae'n drychinebus bod hyn wedi digwydd, maen nhw wedi difetha ecosystem gyfan, ac mae angen rhyw fath o atebolrwydd i'r rhai sy'n gyfrifol."

Ymateb Cwmni Dŵr Hafren Dyfrdwy
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni dŵr Hafren Dyfrdwy eu bod yn deall pa mor "bryderus yw'r sefyllfa hon i'r gymuned leol", gan ychwanegu:
"Mae'r gwaith yn Nant-y-Ffrith yn hanfodol i sicrhau bod y gronfa ddŵr bwysig hon yn parhau'n ddiogel nawr ac yn y dyfodol, ac yn bodloni gofynion diogelwch llym."
Ychwanegodd y cwmni eu bod yn "adolygu beth sydd wedi digwydd ar hyn o bryd gyda'n hecolegwyr ar y safle."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






