Skip to main content
Advertisement

Llygredd afon yn niweidio dolydd morwellt ar arfordir Prydain

Mae llygredd afon yn cael effaith frawychus ar fioamrywiaeth dolydd morwellt ar hyd arfordir Prydain, gan arwain at leihad mewn anifeiliaid bach a newid mewn cynefin morol hanfodol.

·4 min read
Dr Benjamin Jones

Effaith llygredd afon ar fioamrywiaeth dolydd morwellt

Mae Dr Benjamin Jones yn disgrifio dolydd morwellt fel coedwigoedd dan ddŵr

Mae llygredd afon yn cael effaith "frawychus" ar fioamrywiaeth mewn dolydd morwellt (seagrass meadows) ar hyd arfordir Prydain, yn ôl ymchwil newydd.

Roedd gan safleoedd oedd yn dioddef o ormod o faetholion yn y dŵr boblogaeth is a llai amrywiol o anifeiliaid bach di-asgwrn-cefn fel crancod, malwod a pherdys.

"Dyw pobl ddim eisiau nofio mewn moroedd sydd wedi'u llygru â charthffosiaeth," meddai Dr Benjamin Jones o Project Seagrass, oedd yn gyfrifol am yr ymchwil ar y cyd â Phrifysgol Abertawe.
"Ond dyma un o'r astudiaethau cyntaf o'i fath i ddangos bod y cynnydd yna mewn maetholion...yn gallu cael effaith ar anifeiliaid hefyd."

Rôl dolydd morwellt fel cynefinoedd pwysig

Mae dolydd morwellt fel arfer yn llawn bywyd, fel cranc y traeth

Cranc y traeth
Disgrifiad o’r llun, Mae dolydd morwellt fel arfer yn llawn bywyd, fel cranc y traeth

Mae morwellt yn blanhigion blodeuol sy'n byw mewn ardaloedd bas a chysgodol o'r arfordir, gan ffurfio dolydd trwchus dan ddŵr.

Maen nhw'n helpu yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd - gan eu bod yn effeithiol iawn o ran amsugno a storio carbon deuocsid - ac yn cael eu hystyried yn gynefinoedd hynod o bwysig.

Mae lle i gredu bod hectar o forwellt yn gallu bod yn gartref i gymaint â 100 miliwn o infertebratau.

"Os ydyn ni'n meddwl am y dolydd hyn fel coedwigoedd dan ddŵr, yr infertebratau yma yw'r pryfed i bob pwrpas sy'n helpu'r goedwig i weithredu yn yr amgylchedd morol," esboniodd Jones.

Astudiaeth ar 16 o safleoedd ar hyd arfordir Prydain

Cafodd 16 o ddolydd morwellt eu hastudio ar hyd arfordir Prydain

Maldwoden forol Lacuna vincta
Disgrifiad o’r llun, Cafodd 16 o ddolydd morwellt eu hastudio ar hyd arfordir Prydain

Fe graffodd yr ymchwilwyr ar 16 o safleoedd ar hyd arfordir Prydain oedd wedi'u heffeithio i wahanol raddau gan ewtroffeiddio - sef bod ansawdd y dŵr wedi'i gyfoethogi â maetholion fel nitrogen a ffosfforws.

Gall y canlynol gynyddu lefelau maetholion mewn afonydd ac aberoedd; gollyngiadau o garthffosiaeth, dŵr sy'n llifo oddi ar gaeau fferm yn cynnwys tail neu wrtaith a dŵr gwastraff o ddiwydiant.

Mae gormod o faetholion yn gallu arwain at dwf algâu, sy'n mygu dolydd morwellt, gan atal golau'r haul a lleihau faint o ocsigen sydd yn y dŵr.

Ad (425x293)

Yn ystod y blynyddoedd diweddaf, mae'r sefyllfa wedi arwain at gyfyngiadau ar adeiladu tai mewn rhai ardaloedd arfordirol, a rheolau ynglŷn â gwasgaru a storio slyri ar dir fferm.

Canfyddiadau ymchwil a sylwadau ar y sefyllfa

Dr Richard Unsworth o Brifysgol Abertawe

Dr Richard Unsworth o Brifysgol Abertawe
Disgrifiad o’r llun, Dr Richard Unsworth o Brifysgol Abertawe
"Fe wnaethon ni ddewis ardaloedd oedd yn ein galluogi i weld graddiant - o lefelau uchel o faetholion i lefelau is," meddai Dr Richard Unsworth o Brifysgol Abertawe, gan ddisgrifio canlyniadau'r tîm fel rhai "llwm".

Roedd crynodiadau uwch o nitrogen yn gysylltiedig yn gyson â lleihad yn nifer yr anifeiliaid a chyfoethogrwydd y rhywogaethau.

Yn benodol, daeth yr ymchwilwyr i'r casgliad y gallai "cynnydd mewn nitrogen gyfateb i tua 90% o'r lleihad mewn amrywiaeth o fywyd fesul uned o ardal gynefin sydd ar gael".

Mewn amgylcheddau lagŵn roedd ffosfforws yn cael "effaith negyddol iawn" ar fywyd gwyllt.

Dolydd morwellt wedi'u gorchuddio ag algâu yn aber afon Tafwys, ar arfordir Essex ac yn Aber Gweryd ar arfordir dwyreiniol yr Alban oedd ymysg y safleoedd gafodd eu heffeithio waethaf.

Yng Nghymru, cafodd lefelau uchel o faetholion eu nodi o amgylch Ynys Sgomer, sy'n enwog yn fyd-eang am fywyd gwyllt, ond mae'r ymchwilwyr yn credu bod ysgarthion adar morol yn ogystal ag "effeithiau dynol" yn rhan o'r darlun yno.

Mewn safleoedd oedd â "dŵr clir, iachus" fel Ynysoedd Sili, oddi ar Gernyw, a'r Ynysoedd Erch yn yr Alban, "roedden ni'n dod o hyd i lawer mwy o fywyd gwyllt", meddai Unsworth.

"Dwi'n credu ei fod e'n eithaf brawychus fod yr holl ddeunydd afon yma o ran carthffosiaeth, o ran defnydd gwael o wrtaith...yn dod allan i'n harfordiroedd ni ac yn dylanwadu ar faint o fwyd sydd ar gael i bysgod, ar y bwyd sydd ar gael i adar," ychwanegodd.
"Ry'n ni eisiau'r bioamrywiaeth yna yn ein moroedd.
"Os ydyn ni eisiau amddiffyn yr amgylchedd morol mae angen i ni edrych tua'r tir a meddwl am y ddau ar y cyd - dyw'r drafodaeth yna ddim yn digwydd yn aml."

Mae ymchwil y tîm wedi'i gyhoeddi yng nghyfnodolyn Global Ecology and Conservation, dolen allanol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News