Dathliadau 20 Mlynedd Tafwyl yn Parhau Dydd Sul
Fe wnaeth dathliadau 20 mlynedd Tafwyl barhau mewn steil dydd Sul o dan yr haul tanbaid.
Daeth y torfeydd yn ôl i diroedd Castell Caerdydd i fwynhau diwrnod arall o gerddoriaeth fyw, bwyd stryd blasus a gweithgareddau i'r teulu. Roedd yr awyrgylch ar draws y brifddinas yn drydanol wrth i Tafwyl gloi penwythnos o ddathlu dau ddegawd o'r ŵyl.

Delweddau o'r Dydd
Plant yn mwynhau. Roedd yr ardal cysgodlyd o dan y coed yn boblogaidd gyda theuluoedd efo plant ifanc am resymau amlwg!

Martyn Geraint yn diddanu ar y brif lwyfan ar ddydd Sul. Ym mis Gorffennaf bydd Martyn yn perfformio am y tro olaf ar fandstand Y Sioe Fawr yn Llanelwedd.

Y Gwerinle oedd y lle i fwynhau cerddoriaeth fwy traddodiadol.

Edwin 'Sacs' Humphreys yn perfformio ar y brif lwyfan.

Mabli Tudur a Miriam Isaac yn perfformio gyda Carwyn Ellis.

Un o staff Tafwyl yn cerdded rhwng y ddwy ardal o adloniant ar y safle.

Rose Datta, prif leisydd y grŵp Taran ac enillydd cyfres Y Llais yn 2025, gyda criw o blant.

Eban Elwy o'r grŵp TewTewTennau ar y brif lwyfan.

Osgoi bod yn rhy boeth gyda diod oer yn y cysgod.

Disgyblion Ysgol Glantaf yn perfformio gyda Parti 20 Tafwyl ar y brif lwyfan ar nos Sul.

Dilynwch a Chysylltwch
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau Cysylltiedig a Straeon Perthnasol
Rhai wedi methu â chael mynediad i Tafwyl yn dilyn 'ambell anhawster'.







