Mwy o archebion yn Parc Gwyliau Y Bala ers dechrau’r rhyfel
Wrth i dymor ymwelwyr ddechrau, disgwylir i benwythnos y Pasg eleni fod y prysuraf ar y ffyrdd ers 2022. Yn ôl arbenigwyr yr AA, mae cynnydd mewn teithiau car gan nifer sy’n dewis peidio â theithio dramor, gan i ryfel yr Unol Daleithiau ac Israel yn erbyn Iran barhau i greu ansicrwydd rhyngwladol a chynyddu prisiau.
Mae Parc Gwyliau Y Bala wedi nodi cynnydd mewn archebion a diddordeb ers dechrau’r rhyfel yn y Dwyrain Canol. Er nad oes modd bod yn sicr mai’r argyfwng yw’r unig reswm, mae rhai yn y sector yn rhagweld mwy o bobl yn penderfynu treulio eu gwyliau’n agosach at adref os bydd y sefyllfa’n parhau, gyda chostau hanfodol yn parhau’n uchel.
'Prysurach na fyddwn i'n disgwyl'
Mae Parc Gwyliau Y Bala yn cynnig 35 llety a phedwar bwthyn ger Llyn Tegid. Yn ôl Aron Williams, cyfarwyddwr marchnata a gwerthu’r cwmni, mae’r Pasg a chanol yr haf yn gyfnodau prysur i’r busnes, ac eleni maent wedi gweld cynnydd mewn archebion a diddordeb tu hwnt i’r arfer ers dechrau’r rhyfel.
"Mae Mai yn edrych yn brysurach na fyddwn i'n disgwyl fel arfer," meddai. "Y llynedd, mis Mehefin oedd dechrau'r prysurdeb i ni rili, felly eleni mae pethau'n edrych fel bod nhw'n dechrau'n gynt. "Mae'r sefyllfa [y rhyfel] m'ond newydd ddechrau felly mae'n siŵr bod lot o bobl dal yn aros i weld be' sy'n digwydd, ond mae sawl person wedi e-bostio yn gofyn am brisiau a mwy o wybodaeth hefyd."
Penderfynodd Aron Williams deithio i Gaeredin ar ôl i’w gwyliau i Sri Lanka gael eu canslo oherwydd yr argyfwng yn y Dwyrain Canol.

Mae Aron ei hun wedi gorfod newid ei gynlluniau gwyliau yn yr wythnosau diwethaf, ac felly byddai’n “ddim yn synnu” os mai dyna sydd tu ôl i’r cynnydd mewn archebion. Dywedodd:
"Ddaru'n gwyliau ni i Sri Lanka gael ei ganslo, ac aethon ni i Gaeredin yn lle - mae'n siŵr os 'da ni'n 'neud o, mae pobl arall yn hefyd."
Mae’r disgwyliadau teithio ar gyfer y Pasg yn cefnogi’r syniad bod mwy o bobl yn penderfynu aros yn y Deyrnas Unedig ar gyfer eu gwyliau ar hyn o bryd. Dros y dyddiau nesaf, mae tua 12.5 miliwn o Brydeinwyr yn cynllunio taith dros nos o fewn y DU, sy’n fwy na’r 7.4 miliwn sy’n bwriadu teithio dramor, yn ôl VisitEngland.
Eleni, mae 1.9 miliwn yn fwy o Brydeinwyr wedi cynllunio taith dros nos yn y DU ar gyfer penwythnos y Pasg nag y llynedd. Mae’r ffigyrau hefyd yn dangos nad oedd tua phum miliwn o bobl wedi penderfynu pan gafwyd eu holi, sy’n golygu gallai’r ffigur gwirioneddol fod yn uwch eto.
'Prin i gael archebion mor bell o flaen llaw'
Mae Elfyn Williams a’i wraig wedi arfer croesawu ymwelwyr dros y Pasg i’w fferm ger Penmynydd, Ynys Môn, lle mae ganddynt bedwar pod - math o lety poblogaidd - ar eu tir.
"Mae’r patrwm sydd ganddon ni falle yn wahanol i gwmnïau mwy achos 'da ni'n tueddu i weld pobl yn bookio munud olaf am benwythnos hir yn lle yn bell o flaen llaw," meddai Elfyn.
Fodd bynnag, mae’r teulu wedi bod yn trafod goblygiadau posib y rhyfel a chostau uwch ar eu busnes a’r sector twristiaeth yn ehangach.
"Mae'n siŵr bydd costau uwch hedfan yn gwneud i rai newid cynlluniau. "Un peth diddorol i ni oedd, wythnos diwethaf, dwi wedi cael un archeb am ddiwedd Awst ac mae hynny yn beth prin iawn i gael archebion mor bell o flaen llaw. "'Sa chi'n meddwl, os mae cost tanwydd awyrennau yn cynyddu a nifer y llefydd mae pobl yn gallu mynd yn llai, byddai rhai yn aros agosach at adra."
Bydd pob un o bodiau Elfyn yn llawn trwy gydol gwyliau’r Pasg.

Mae Elfyn hefyd wedi ystyried effaith negyddol posib costau uwch yn sgil y rhyfel ar y sector.
"I ddod ochr yma'r byd 'da chi isio car a 'da chi isio petrol, felly a fydd pobl dal i deithio o Devon neu Cornwall i fynd i ben Yr Wyddfa? "Mae gen i gefnder ochrau Aberdaron yn dweud bod yr archebion yn dawelach eleni ar hyn o bryd. "Ma' hi'n galetach ar bobl yn dydy. "Ella bod hi'n rhy gynnar i ddweud beth fydd effaith hyn oll - mae'n dibynnu os yw'r rhyfel yn parhau."
'Staycation yn ôl mewn ffasiwn'
Yng Nghastell Aberteifi, maent yn paratoi am haf prysur hefyd. Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn dychwelyd i’r sir eleni gan addo mwy o ymwelwyr na’r arfer.
"Mae pethau'n hynod o dda i ni ar hyn o bryd," meddai Meirion Davies, cyfarwyddwr Castell Aberteifi.
Fodd bynnag, mae hefyd yn rhagweld y bydd nifer yr ymwelwyr yn uwch os bydd y sefyllfa ryngwladol yn aros fel y mae ar hyn o bryd.
Roedd nifer yr ymwelwyr 13% yn uwch y llynedd na’r flwyddyn gynt yng Nghastell Aberteifi.

"Mae costau'n mynd i godi ar bawb a dwi'n meddwl bod hwnna'n ystyriaeth i bobl wrth ddewis os maen nhw'n aros yn y wlad hon neu beidio," meddai. "Dwi'n meddwl bydd mwy o bobl yn dod draw i ni wrth i fwy o bobl benderfynu peidio hedfan. "Mae'r staycation i weld yn ôl mewn ffasiwn."
Ond yn ôl Mr Davies, mae un ffactor allweddol wrth geisio rhagweld prysurdeb y flwyddyn sydd i ddod - y tywydd.
"Y ffactor mwyaf fel o hyd yw'r tywydd. "Os mae'r haf yn un hir a sych bydd mwy o bobl yn hapus i aros yn agosach at adref, felly am hynny dwi'n dwi'n gobeithio."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok. Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033. Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




