Mynd i Awstralia yw'r freuddwyd
Mynd i Awstralia yw'r freuddwyd wedi bod i Tom Cowan o Flaenau Ffestiniog ers iddo fod yn ifanc.
A bellach mae'n byw ac yn gweithio ym Melbourne ers symud i'r wlad ym mis Mawrth.
Ond dim ond dros dro y bydd yn byw ym mhen draw'r byd, meddai, am mai creu dyfodol gwell iddo'i hun yng Nghymru ydy'r nod yn y pendraw.
Gwneud aberth er mwyn dyfodol gwell
Dyna'r ffigwr pwysig, sef faint o arian mae Tom yn gobeithio ei gynilo dros y ddwy flynedd nesaf o fyw a gweithio yn Awstralia.
Mae ei gynllun yn un syml ar y cyfan – gweithio llawer a pheidio â gwario llawer.
Ei obaith yw medru fforddio prynu ei dŷ ei hun yn ôl yng Nghymru, a medru gofalu am ei deulu, eglurai.
"Aeth Mam erioed am noson allan efo'i mêts hi, byth prynu dillad iddi'i hun; jest rhoi pob dim o'dd ganddi i fi a'n chwaer bach i ni gael bywyd mor dda â phosib. A 'swn i'n licio bod mewn sefyllfa i allu rhoi nôl a gallu gwella'n bywydau ni.
"Os 'sa gen i fwy o bres yn ôl efo fi, a tŷ i fi'n hun, 'swn i'n gallu bod y person yn fy nheulu i sy'n creu problem fawr yn broblem fach. Fel os 'di'r car yn torri lawr, neu'r popty'n torri... mae'n iawn achos bod gen i bres i'w sortio fo. Dyna'r syniad."
Tom gyda'i deulu ar ei ddiwrnod graddio o Brifysgol Lerpwl - mae'n hiraethu amdanyn nhw ond yn meddwl am eu dyfodol

Ag yntau wrth ei fodd yn treulio'i amser yn yr awyr agored, roedd Awstralia bob amser wedi apelio ato. Dim ond piti ei fod bellach yn byw rhyw 10,600 o filltiroedd i ffwrdd o'i deulu - aberth mae'n gobeithio fydd yn talu ar ei ganfed.
"Dio'm yn ddewis hawdd i'w 'neud. Ond weithiau ti'n gorfod g'neud dewisiadau sy'n brifo chdi rŵan i wella dy sefyllfa di yn y dyfodol. Dyna 'di'r dewis dwi 'di gorfod ei wneud.
"Dwi'n berson reit syml – ddim angen dillad newydd neu gar ffansi. Dwi ddim isho instant gratification – dwi isho'r pres 'ma i fod yn fwy cyfforddus mewn bywyd, i allu creu mwy o gyfleoedd i mi fy hun ac i 'nheulu i."
Cefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol
Mae Tom yn benderfynol o gyrraedd ei darged. O fewn ychydig o ddyddiau i gyrraedd Melbourne, roedd wedi dod o hyd i le i fyw a swydd yn y maes adeiladu sydd â chyfleoedd i ddatblygu ynddi.
Yn ffodus, roedd ganddo ffrindiau eisoes yn byw ym Melbourne, felly nid yn unig y mae ganddo gwmni, mae ganddo hefyd gysylltiadau yn syth.
Ond beth sydd wedi bod yn sioc iddo, meddai, yw'r gefnogaeth mae wedi ei dderbyn ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ei gyfrif Instagram, Repsandrent, dolen allanol ble mae'n rhannu fideos am ei fywyd newydd yn Awstralia.
Dechreuodd y cyfrif er mwyn cael rhyw fath o atebolrwydd gan eraill i barhau â'r her mae wedi ei gosod iddo'i hun. Mewn chwech wythnos mae wedi ennill dros 1,500 o ddilynwyr, ac mae nifer o'r rheiny wedi cynnig cyngor, lle i aros, a swyddi iddo.
"O'n i'm yn rili disgwyl neb gweld y fideos 'ma - a mae lot o bobl wedi erbyn rŵan, sy'n sypreis. Mae 'na lot o bobl Cymreig wedi bod yn anfon negeseuon yn cynghori, a rhai yn Perth, Queensland, de Awstralia, yn y gogledd, yn rhannu eu stori nhw am sut maen nhw wedi bod yn byw yma, a sut maen nhw'n gweithio a safio pres.
"A chyfeiriadau i'w e-bostio fydd yn gallu sortio gwaith i fi. Erbyn diwedd fy amser i'n Awstralia, fydda i bendant wedi cymryd rhywun fyny ar hynny..."
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.
Er mor rhyfedd oedd hi'n teimlo i ddechrau i siarad gyda'r camera ar ei ffôn wrth recordio ei fideos, mae Tom wedi arfer bellach – yn enwedig gan fod neb am ei 'nabod wrth iddo ffilmio yn cerdded i lawr y stryd yn ei ddinas newydd.
Saesneg yw'r fideos fel arfer, ond wrth recordio un fideo, lle'r oedd yn sôn am orfod gadael ei deulu ar ôl yng Nghymru er mwyn gwella ei ddyfodol, y Gymraeg oedd yn dod o'r galon.
"O'dd o ar fy meddwl i, y ffaith bo' fi 'di gadael cartra, a 'nes i ddechra' trio'i 'neud o'n Saesneg, ac o'dd o'm yn dod allan yn iawn. Dwi'n teimlo mod i'n gallu siarad am teimlada' fi yn well yn Gymraeg am ryw reswm, felly 'nes i o yn Gymraeg. O'dda ti'n gallu gweld yr emosiwn yn be' o'n i'n ei ddeud. Dwi mor falch mod i 'di 'neud o."
Nid ceisio arbed arian yw ei unig her, meddai – mae hefyd yn awyddus i wella ei iechyd a'i ffitrwydd drwy ymarfer a hyfforddi ei gorff tra'i fod ochr arall y byd, ac yn rhannu ei gynnydd ar y cyfryngau cymdeithasol. Dyma elfen arall o sut mae'n ceisio gwella ei sefyllfa a'i ddyfodol, meddai.
"Dwi wedi ymarfer corff ers bod yn ifanc ond dwi heb fod ddigon consistent am ddigon hir i fod mor iach na mor gry' â 'swn i'n licio.
"Y ffordd o feddwl oedd gwneud y safio pres a trio mynd i siâp da a'i roi o ar-lein, wedyn dwi methu stopio. Dwi'n defnyddio'r gynulleidfa i nghadw i'n atebol!
"Os mewn mis dwi'n penderfynu gwario pres fi i gyd neu stopio ymarfer corff, mae gen i rŵan dros 1,500 o ddilynwyr sy'n meddwl 'be' ma'r boi 'ma'n ei 'neud?!"
Mae Tom yn cymryd mantais o'r offer campfa sydd ar gael am ddim yn yr awyr agored ar draws Melbourne

Hapus yn gweithio tuag at y nod
Mae Tom wedi rhoi dwy flynedd i'w hun i gyrraedd y swm tyngedfennol, ac mae'n gobeithio gallu teithio a gweithio ledled y wlad tra'i fod yno. Ond bydd yr hiraeth am ei deulu - a mynyddoedd Eryri - yn ei dynnu'n ôl adref yn y diwedd, meddai.
Am nawr, mae'n mwynhau ei fywyd newydd – dros dro – yn heulwen Awstralia, a'r holl waith caled o drio cyflawni ei uchelgais.
"Yr adegau dwi fwya' hapus mewn bywyd ydy pan mae gen i rywbeth i weithio ato.
"Ydw, dwi'n licio treulio amser efo'n ffrindia' i, ond dwi'n licio deffro yn y bore a theimlo mod i 'di gneud rhywbeth da efo niwrnod. Y cyfnodau yn fy mywyd i lle dwi 'di bod yn anhapus – ella heb sylweddoli tan wedyn – ydy'r adega 'sgen i ddim goal i weithio at.
"Ella fod rhai pobl yn gweld bod gweithio lot o oriau a ddim gwario pres ddim yn edrych yn hwyl – ond mae'r teimlad ar ei ôl o yn rhoi parch i mi fy hun, ac mae hynny'n fy ng'neud i'n hapus."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Y Cymro sy'n gyrru 2500 milltir i ddosbarthu nwyddau... cyn cychwyn nôl adref
- Symud i Awstralia i ddechrau swydd gyda thîm seiclo'r wlad
- Y teulu o Faesteg a'u cwmni deifio yn Yr Aifft






