Sue yn cwrdd â theithwyr o bedwar ban Ewrop bob dydd
Mae Sue Morris yn cyfarfod â theithwyr o bedwar ban Ewrop bob dydd yn ei gwaith, a hynny heb orfod teithio dim; mae hi'n aros i'r bobl ddod ati hi.
O'i fan fwyd ar ochr yr A55 yn Llanddulas, mae hi'n cael sgyrsiau lu gyda wynebau newydd (ac ambell i un cyfarwydd) ac wrth ei bodd yn dysgu am hynt a helynt ei chwsmeriaid.
Mae'r fan mewn safle ddelfrydol, meddai, ar ochr ddwyreiniol y briffordd sy'n teithio ar draws arfordir y gogledd – rhyw hanner ffordd rhwng Caergybi a Chaer.
"Awr yn union o Gaergybi i fama," eglura Sue. "Yr unig le maen nhw'n gallu stopio ydy fama – does 'na ddim byd wedyn o fan hyn i Gaer."
Cwsmeriaid o bob man
Mae hon yn ffordd brysur iawn wrth gwrs, gan mai hi yw'r prif lwybr rhwng Iwerddon a gweddill Ewrop. Felly, mae Sue yn cyfarfod â gyrwyr lori o Ewrop gyfan, ac yn rhoi croeso cynnes Cymraeg i bob un:
"Bob man; Romania, Gwlad Pwyl, Croatia, Yr Iseldiroedd, Denmarc, Ffrainc, Sbaen... Dwi'n siarad Cymraeg efo pobl a dysgu Cymraeg iddyn nhw – fel Bore da, paned a diolch yn fawr – a maen nhw'n deud 'diolch yn fawr' yn ôl!
"Dwi'n dysgu ganddyn nhw hefyd; dwi 'di dysgu sut i dd'eud 'diolch' mewn Pwyleg a Romaneg, a 'bacwn, sosej ac ŵy' mewn Pwyleg!"
Gwrando: Sgwrs Sue ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru
Ac wrth gwrs, fel mae Sue'n ei egluro ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru, dydy hi ddim yn rhy swil i fusnesa a holi'r gyrwyr lori beth sy'n cael ei gludo ganddyn nhw, meddai!
"Dwi wedi cael un dyn oedd yn cario dŵr o Gymru i Loegr i dynnu rhywbeth allan ohono fo a dod â dŵr yn ôl i Gymru. Maen nhw'n cario cig o Iwerddon i Holland, maen nhw'n cario blodau i Iwerddon, siocled i Iwerddon, pysgod i Ffrainc – wedi eu magu yn Iwerddon, ac oedden nhw werth £250,000! £250,000 o trout a caviar yn trafeilio ar hyd y ffordd yma!
"Ac ailgylchu; un boi wythnos yma efo 500 teledu, wedi eu pigo nhw fyny fel sgrap o ochrau Pen Llŷn a mynd â nhw i Loegr."
Aled Hughes yn sgwrsio gyda Sue sy'n rhedeg fan fwyd ar ochr yr A55
'Dwi wrth fy modd'
Ac wrth gwrs, nid dim ond gyrwyr lori sy'n picio draw i'r fan am baned a thamaid i'w fwyta – mae gan Sue ei chwsmeriaid lleol sy'n dod yn rheolaidd hefyd, fel y gŵr o Dy'n-y-groes sy'n dod acw bob dydd Gwener i brynu brechdan sosej.
Ddydd Llun i ddydd Gwener, mae Sue yn cyrraedd y fan toc wedi 6am ac yn barod i groesawu a bwydo teithwyr yr A55 erbyn 7, ac mae hi wrth ei bodd yn ei swydd:
"Cyfarfod pob math o bobl, o bob man. Dwi wrth fy modd yn dod yma.
"Ma'n neis gallu dod i'r gwaith, codi'n bore a mwynhau dod yma a chyfarfod pobl wahanol bob dydd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Traddodiad canu yn dychwelyd i dafarn yn Nyffryn Conwy
- Cawson ni ein magu ar yr un stryd, ond dim ond fi oedd yn siarad Cymraeg







