Clwb Pêl-droed y Gogledd yn Amlwg ar Ewrop Wedi Ailffurfio
Llwyddodd CPD Dinas Bangor i godi Cwpan Cymru wyth o weithiau, ond aeth yr hen glwb i'r wal ychydig flynyddoedd yn ôl.
Mae dau o enwau mawr pêl-droed y gogledd yn edrych i greu lle yn Ewrop, dim ond ychydig o flynyddoedd ar ôl ailffurfio o'r newydd yn dilyn trafferthion ariannol.
Roedd y Rhyl a Bangor yn hen gyfarwydd gyda chodi Cwpan Cymru ac o gynrycholi'r genedl yn Ewrop.
Ond yn ogystal â bod yn elynion hanesyddol ar y cae, mae hanes diweddar y ddau glwb wedi dilyn patrwm hynod o debyg, wnaeth arwain at gefnogwyr yn camu i'r adwy a sefydlu clybiau newydd wedi i'r rhai gwreiddiol fynd i'r wal.
Serch hynny mae CPD Dinas Bangor 1876 a CPD y Rhyl 1879 - er yn chwarae ar lefelau o dan y Cymru Premier - ill dau wedi cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Cymru y tymor hwn.
Ac er yn wynebu talcen caled o chwarae timau o'r brif haen dros y Sul, mae'r freuddwyd o naddu enw newydd - ond hefyd hanesyddol - ar Gwpan Cymru yn dal i fod yn fyw.
Dywedodd Cai Powell-Roberts a Cai Owen, sy'n chwarae i Fangor, bod "y paratoadau yn mynd yn dda" a bod y cefnogwyr wedi chwarae rôl bwysig

Hanesion a Thrafferthion CPD Dinas Bangor
Roedd perthynas y dinasyddion gyda Chwpan Cymru yn un hynod glos.
Wedi cyrraedd y rownd derfynol deunaw o weithiau, cododd Clwb Pêl-droed Dinas Bangor y tlws enwog ar wyth achlysur.
Ond yn dilyn trafferthion ariannol daeth y clwb i ben bedair blynedd yn ôl.
Glynne Roberts ger cyn-gartref CPD Dinas Bangor, Ffordd Ffarrar, sydd bellach yn archfarchnad

Yn ffodus, roedd criw o gefnogwyr wedi hen weld yr ysgrifen ar y mur wrth i'r clwb fynd i drafferthion, ac wedi sefydlu clwb o'r newydd yn y ddinas.
Ac er bod perchnogion newydd bellach yn rhedeg y clwb y gwnaethon nhw ei sefydlu o'r newydd, mae cyn-gadeirydd Bangor 1876 yn dweud bod rhaid camu fewn i achub pêl-droed yn y ddinas.
"Mi ddoth yn amlwg yn 2018 ffor' 'na, bod pethau ddim yn dda [hefo'r clwb]," meddai Glynne Roberts, a oedd yn gefnogwr Dinas Bangor ers y 70au cynnar.
"Roedd hi'n amlwg bod pethau'n mynd i un cyfeiriad felly ddoth criw o gefnogwyr at ei gilydd a dweud, er mwyn amddiffyn pêl-droed ym Mangor a'i hanes, ein bod yn sefydlu clwb newydd."
Roedd torf o 2,800 ar gyfer gêm ddiwethaf Bangor yng Nghwpan Cymru ac mi werthodd y tocynnau ar gyfer y rownd gynderfynol o fewn ychydig oriau

Fe ddechreuodd y clwb ar waelod y pyramid, yn y pumed haen, profiad y mae Glynne yn credu oedd "yn beth da wrth edrych yn ôl".
"Yn hanesyddol Rhyl oedd gelynion pêl-droed Bangor, felly mae'r ffaith fod Rhyl wedi gallu ail-sefydlu... mae'n bwysig cynnal y traddodiad.
"Mae'n bwysig bod gan y Bangor a'r Rhyl glybiau, ond hefyd yn gallu ffynnu."
'Pobl yn gwybod am hanes Bangor'
Roedd torf o dros 2,800 yn Stadiwm Dinas Bangor wrth i'r dinasyddion drechu Caerau Elai yn y rownd ddiwethaf.
Mae ysgrifennydd y clwb yn cydnabod maint y dasg wrth i Fangor, sy'n chwarae yn y drydedd haen, wynebu Fflint o'r uwch gynghrair.
Ond ychwanegodd Mathew Jones bod llawer o gynnwrf yn y ddinas a bod y clwb wedi gwerthu cannoedd o docynnau i'r gêm yn Llandudno brynhawn Sadwrn.
Mathew Jones ydy ysgrifennydd CPD Dinas Bangor 1876

"Mae pobl yn edrych ymlaen, mae am fod yn ddiwrnod mawr", meddai.
"Mae'r gwpan yn golygu gymaint i'r ffans, i'r ddinas, i'r chwaraewyr, i bawb.
"Mi fasa gweld ein tîm ni yn ôl yn Ewrop yn anhygoel... back where we belong.
"Ti'n gallu mynd i lot o lefydd o gwmpas y DU ac mae pobl yn gwybod am hanes Bangor."
'Dod â chymuned y Rhyl at ei gilydd'
Yn y Rhyl hefyd mae llawer o edrych ymlaen at eu gêm nhw brynhawn Sul.
Fel Bangor, fe sefydlwyd CPD y Rhyl 1879 yn 2020, ond yn chwarae yn yr ail haen sef y Cymru North.
Mae'r clwb hefyd wedi bod yn llwyddiannus yn prynu stadiwm hanesyddol y dref, y Belle Vue gynt, yn bennaf diolch i grant o £378,600 gan Lywodraeth y DU.
Mae Stadiwm Cymunedol Hops and Barley - neu'r Belle Vue - bellach wedi ei brynu gan y clwb

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y clwb, Adam Roche, eu bod yn cymryd rôl y clwb yn y gymdeithas o ddifrif ac yn denu dros 400 o gefnogwyr i bob gêm.
"Wrth ddechrau gadael cefnogwyr i mewn ar ôl Covid, roedd hi'n amlwg faint roedd cefnogwyr wedi methu dod i wylio eu tîm lleol," meddai.
"Mewn tref fel y Rhyl, sy'n wynebu sawl her, mae pêl-droed yn rhyddhad i bobl o bwysau dydd i ddydd ac roedd hi'n hollbwysig fod ganddyn ni glwb yma yn y dref.
"'Da ni eisiau mynd â'r clwb i fyny i'r uwch gynghrair ac i Ewrop, mae'r dref a'r gymuned yn mynnu hyn, mae'r potensial yma yn anferth."
Adam Roche: "Roedd hi'n hollbwysig fod ganddyn ni glwb yma yn y dref"

Mae'r clwb yn cydnabod bydd mynydd i'w ddringo wrth i'r tîm wneud y daith fer i Fae Colwyn b'nawn Sul i wynebu'r ffefrynnau i ennill y gwpan, Caernarfon.
Ond mae Archie Jones, sy'n dod o'r Rhyl yn ogystal â chwarae fel ymosodwr i'r clwb, yn credu bod lle i adeiladu ar eu canlyniad yn y rownd ddiwethaf pan lwyddon nhw i drechu'r Barri sydd, fel y Cofis, hefyd yn chwarae yn y Cymru Premier.
"Dwi'm yn gallu meddwl am y Rhyl heb y tîm pêl-droed," meddai.
Cyn chwarae i'r clwb roedd Archie yn cefnogi ei glwb lleol, cefnogaeth y mae'n dweud sy'n hanfodol i lwyddiant y tîm

"Mae'n dod â'r gymuned at ei gilydd, y plant yn y Rhyl yn dod i'r gemau ac mae'n sbesial.... clwb hefo hanes arbennig.
"Oeddwn yn gweld bod y tocynnau i'r gêm [yn erbyn Caernarfon] i gyd wedi gwerthu allan.
"Dwi erioed wedi chwarae o flaen torf fel 'na o'r blaen, dwi'n edrych ymlaen a gobeithio gweld llwyth o gefnogwyr y Rhyl yna!"
Gemau rownd gynderfynol Cwpan Cymru
- Y Fflint v Dinas Bangor 1876 (12:45) - Chwarae yn Llandudno
- Y Rhyl 1879 v Caernarfon (13:30) - Chwarae ym Mae Colwyn
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- 'Cam enfawr' CPD Y Rhyl at brynu maes hanesyddol
- Cynlluniau i sefydlu clwb pêl-droed newydd yn Rhyl
- Ail-danio gelyniaeth dau o glybiau mawr y gogledd
- Y Gwylanod a'r Cofis yn llygadu llwyddiant Cwpan Cymru am y tro cyntaf







