Skip to main content
Advertisement

Erin Meredith: Rhwyfwr o Gaerdydd yn Dweud Bod Rhwyfo'n Rhyddhad o Waith Athrawes

Erin Meredith, rhwyfwr o Gaerdydd, sy'n athrawes yn Llundain, yn dweud bod rhwyfo'n rhoi rhyddhad o bwysau gwaith ac yn gwella ei pherfformiad mewn dwy faes.

·6 min read
Erin Meredith gyda'i phartner rhwyfo Laura Bates

Erin Meredith yn Rhannu Sut Mae Rhwyfo'n Rhyddhad o Bwysau Gwaith

Erin Meredith (chwith) gyda'i phartner rhwyfo Laura Bates

Mae rhwyfwr ifanc o Gaerdydd, sydd wedi ennill un o rasys mwyaf cystadleuol y DU ddwywaith, yn dweud ei bod yn cael "rhyddhad" o'i swydd fel athrawes pan mae ar y dŵr.

Enillodd Erin Meredith, 23, ras yn Regata Merched Henley ym mis Mehefin cyn cystadlu yn Regata Frenhinol Henley yr wythnos ddiwethaf - sy'n cael ei chydnabod fel y regata fwyaf adnabyddus yn y byd.

Mae Erin, a'i chwaer Cari, wedi ennill gwobrau yn genedlaethol a rhyngwladol, ac wedi rhwyfo dros Gymru.

Ers symud o Gymru i weithio fel athrawes yn Llundain, mae Erin wedi bod yn canolbwyntio ar "fwynhau rhwyfo unwaith eto" gyda "phwysau gwaith a bywyd yn mynd i ffwrdd" pan mae'n corddi'r dyfroedd.

Roedd cystadlu yn Regata Frenhinol Henley yn "uchafbwynt", meddai Erin

Regata Merched Henley ydy un o'r prif regatas - gŵyl neu rasys cychod - ar gyfer merched yn y DU ac mae'n cael ei chynnal bob mis Mehefin.

Enillodd Erin y Cwpan Haslam-Palfrey am sgwlio dwbl ysgafn yno yn ddiweddar.

Dywedodd iddi ddangos fideo o'r ras i'r plant yn ei dosbarth derbyn. Yna roedd ei ras yn y Regata Frenhinol yn cael ei ddarlledu ar YouTube ac felly fe wyliodd y plant yn eu hathrawes yn cystadlu'n fyw.

"Oedd o'n rili neis - yr unig beth maen nhw'n siarad am yw rhwyfo nawr," meddai.

Ond cael y cyfle i gael blas ar rwyfo yn Ysgol Plasmawr ym mlwyddyn 7 a ddechreuodd pethau i Erin.

Ymunodd wedyn â Chlwb Rhwyfo Llandaf, ac mae ei rhwyfo wedi mynd o nerth i nerth ers hynny.

Yn 19 oed, fe gynrychiolodd Erin Dîm Cymru am y tro cyntaf ac mae hefyd wedi bod yn gapten ar dîm rhwyfo merched Prifysgol Birmingham.

Ers graddio o'r brifysgol y llynedd, mae Erin wedi bod yn aelod o un o glybiau rhwyfo mwya'r byd, Clwb Rhwyfo Llundain.

Dywedodd bod cystadlu yn Regata Frenhinol Henley - un o rasys rhwyfo enwoca'r byd sydd â dros 400 o rasys ac sy'n gallu cynnwys rhwyfwyr Olympaidd - yn "uchafbwynt" a'i fod yn "brosiect" iddi geisio ennill ras yno o fewn y ddwy flynedd nesaf.

Advertisement

Erin Meredith gyda'i phartner rhwyfo Laura Bates
Disgrifiad o’r llun, Roedd cystadlu yn Regata Frenhinol Henley yn "uchafbwynt", meddai Erin

'Mae'n gwneud fi'n well fel athrawes'

Dywedodd bod cael cydbwysedd rhwng dysgu a rhwyfo yn gallu bod yn anodd ond bod y ddisgyblaeth sydd ei hangen i wneud y ddau yn ei gwneud hi'n well athrawes a gwell rhwyfwr hefyd.

"Mae athrawon gyda chymaint i wneud ac mae'r rhwyfo yn gorfodi fi i orffen mewn amser achos mae wastad ymarfer 'da fi," meddai.
"Mae'n gwneud fi'n well fel athrawes achos dwi angen bod yn effeithiol iawn efo be' dwi'n gwneud, allai ddim gweithio tan 10 o'r gloch yn y nos.
"A fel arfer os mae gwaith yn mynd yn dda, mae'r rhwyfo'n mynd yn dda - a'r ffordd arall rownd. Maen nhw'n gweithio'n dda gyda'i gilydd fel 'na."

Yn ystod y tymor rhwyfo, sydd bellach wedi dod i ben tan fis Medi, dywedodd Erin ei bod yn ymarfer dwywaith cyn ac ar ôl gwaith a dwywaith dros y penwythnos.

Mae Erin yn mwynhau'r strwythur sy'n dod gyda'r ymarfer er ei fod yn teimlo'n "galed" ar adegau.

"Mae rhaid i ti godi am amser penodol, sai'n methu dweud un diwrnod bo' fi ddim eisiau mynd achos ti'n ymarfer mewn tîm o wyth a 'sa saith merch arall methu mynd mas," meddai.
"Dyw e ddim bob tro'n rhwydd, bob dydd Mercher mae cyfarfod staff gennai a dwi'n rhedeg mas o'r drws i fynd i wneud sesiwn rili caled.
"Fi'n meddwl weithie 'pam fo hi'n gwneud hwn?' Ond mae'n gymysg o bethe, y bobl sy'n gwneud e.
"Mae fe yn chwaraeon lle y mwya' ti'n rhoi mewn y mwya' ti'n cael mas. Os ti'n ymarfer mwy a mwy ti'n gweld dy hun yn mynd yn gyflymach - mae'n gallu bod yn eitha' satisfying."

Teimlo fel 'person gwahanol'

Mae Erin yn dweud ei bod yn teimlo fel "person gwahanol" pan mae hi'n cyrraedd y clwb rhwyfo.

"Mae gwaith yn gallu bod yn stressful ond pryd fi'n troi lan i'r clwb rhwyfo ma' fe'n fywyd cwbl wahanol," meddai.
"Dwi'n teimlo fel person gwahanol ac mae'n neis cael y shifft o fod yn Ms Meredith yn gwaith i Erin.
"Ma' fe definitely yn rhyddhad, os ti di cael diwrnod anodd yn gwaith mae'n neis cael y gymuned 'na o dy gwmpas a phryd ti ar yr afon ti ddim yn meddwl am ddim byd oni bai am dy dechneg rhwyfo.
"Mae pwysau gwaith a bywyd yn mynd i ffwrdd."

Erin a'i chwaer Cari gyda'u rhieni Llŷr a Naomi

Roedd ennill Regata Merched Henley am yr eildro gyda'i phartner rhwyfo, Laura Bates, yn "deimlad sbesial", meddai Erin, ond ei bod yn canolbwyntio mwy ar fwynhau bod ar y dŵr.

"Pan wnes i ennill o'r flwyddyn ddiwethaf o'n i wedi bod yn y brifysgol am bedair blwyddyn a'r unig beth ro'n i eisiau ei wneud oedd ennill yr Henley Women's," meddai.
"Mae blwyddyn yma wedi bod mwy am fwynhau rhwyfo eto. Ro'n i wastad yn mwynhau o yn y brifysgol ond ar ôl symud i Lundain ro'n i eisiau gwneud yn siŵr bo fi dal i fwynhau."

Erin Meredith gyda'i phartner rhwyfo Laura Bates

'Mae 'na bwysau ond dyna sy'n cadw chdi'n gyflym'

Fel un sydd wedi symud o Gaerdydd i Lundain, mae Erin yn dweud ei bod wedi dod o hyd i gymuned gyda'i chlwb rhwyfo.

"Mae'n gymuned fach neis, mae fel bubble bach," meddai.
"Mae'r safon yn Clwb Rhwyfo Llundain yn uchel iawn. O'n i bach yn shocked i ddechrau, yn gweld rhai o'r bobl oedd yn rhan ohoni, ond mae'n glwb mor neis a hapus."

Ond er gwaetha'r ymdeimlad o gyfeillgarwch sydd rhwng rhwyfwyr y clwb, mae elfen gref o gystadleuaeth rhyngddyn nhw meddai.

"Mae'n gallu bod yn anodd. Mae wastad rhywun sydd eisiau dy sedd di, sydd yn y 'B boats' a sydd eisiau bod yn yr 'A boats'," meddai Erin.
"Dwi wedi bod yn lwcus i gael bod yn y cychod gorau. Mae'r garfan yn anferth - yn yr Henley Royal roedd 'na ryw 97 o bobl o'r clwb wnaeth gymhwyso.
"Mae 'na bwysau ond dyna sy'n cadw chdi'n gyflym."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Erin a Cari gyda'u rhieni
Disgrifiad o’r llun, Erin a'i chwaer Cari gyda'u rhieni Llŷr a Naomi

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News