Skip to main content
Advertisement

Ymgyrch yn erbyn cynllun tyrbinau gwynt uwch na Thŵr Blackpool ger Dinbych

Mae cynllun i godi pum tyrbin wynt 180m ar Fynydd Tryfan ger Dinbych wedi codi pryderon lleol am effaith y tyrbinau mawr hyn, sydd yn uwch na Thŵr Blackpool. Mae trigolion yn galw am fwy o wybodaeth a thrafodaeth genedlaethol ar ffermydd gwynt.

·5 min read
Tyrbein a thwr blackpool

Cyfatebiaeth maint tyrbinau gwynt a Thŵr Blackpool

Mae ymgyrch wedi dechrau i wrthwynebu cynllun fferm wynt newydd sydd wedi'i gynllunio ychydig filltiroedd o dref Dinbych.

Cwmni o'r Eidal sydd yn bwriadu codi pum tyrbin wynt o uchder 180m (590 troedfedd) ar fryn o'r enw Mynydd Tryfan, ger pentref Llansannan.

Fodd bynnag, mae trigolion lleol yn mynegi pryderon ynghylch effaith tyrbinau o'r maint hwn ar eu hamgylchedd a'u bywydau bob dydd.

Yn ystod y cyfnod cynnar o'r broses, ni wnaeth y datblygwyr, Alerion UK, wneud sylwadau ar y cynllun.

Mae teulu Tomos Griffiths wedi ffermio gyferbyn â'r safle ers pedair cenhedlaeth

Mae Tomos Griffiths a'i deulu wedi bod yn ffermio ar dir gerllaw'r safle ers pedair cenhedlaeth ac maent yn pryderu y gallai'r datblygiad gael effaith sylweddol ar eu bywydau.

'De' ni wedi arfer byw yn fan'ma heb ddim sŵn a hefyd maen nhw'n deud - pan mae'r haul yn sgleinio ar y tyrbinau'n troelli - fydd flicker yn sgleinio fewn i'r tŷ,' meddai Mr Griffiths.

'A fydd rhaid cario'r trydan o 'ma i rywle, felly falle fydd 'na lot mwy o ffermydd yn cael eu hamharu ac yn cael polion yn difetha darnau da o dir.'

Tomos Griffiths
Disgrifiad o’r llun, Mae teulu Tomos Griffiths wedi ffermio gyferbyn â'r safle ers pedair cenhedlaeth

Mae Alerion yn bwriadu codi'r tyrbinau ar Fynydd Tryfan, bryn sydd tua dwy filltir o Lansannan.

Byddai'r tyrbinau agosaf yn 500m (1,640 troedfedd) o rai cartrefi preswyl.

'Mae'r maint allan o gymesuredd i'r ardal'

Dywedodd chwaer Tomos, Sioned Griffiths, sy'n byw 800m o'r safle arfaethedig, fod angen i'r tyrbinau gael eu gosod ymhellach oddi wrth aelwydydd.

'Dim y maint, ond pa mor agos ydyn nhw at y tai. Dwi'm yn meddwl bod hynny wedi digwydd o'r blaen.

'Yn y lleoliadau eraill o gwmpas fan hyn, fatha Llyn Brenig a'r Alwen does 'na ddim cartrefi preswyl mor agos â be' fydd rhain i ni.'

'Hefyd o ran maint, dydy'r mynydd ei hun ddim yn uchel iawn, felly de' chi'n sôn am bump Blackpool Tower ar ben y mynydd.'

'Mae'r maint allan o gymesuredd i'r ardal.'

'De' chi'n sôn am bump Blackpool Tower ar ben y mynydd,' medd Sioned Griffiths.

Sioned Griffiths
Disgrifiad o’r llun, "De' chi'n sôn am bump Blackpool Tower ar ben y mynydd," medd Sioned Griffiths

Byddai'r tyrbinau'n uwch na Thŵr Blackpool (158m / 518 troedfedd) ac yn agosach at uchder adeilad y Gherkin (180m / 591 troedfedd) yn Llundain.

Fodd bynnag, maent yn llai na rhai tyrbinau eraill sydd mewn proses gynllunio mewn rhannau eraill o Gymru, megis fferm wynt Y Bryn (250m / 820 troedfedd) ger Port Talbot.

Tua thair milltir o Fynydd Tryfan mae Fferm Wynt Brenig, lle mae 16 o dyrbinau 110m (360 troedfedd) yn cynhyrchu hyd at 37MW o drydan.

Buasai'r pum tyrbin mwy ar Fynydd Tryfan yn gallu cynhyrchu hyd at 24MW, yn ôl y datblygwyr.

Ad (425x293)

'De' ni ddim yn gwybod dim byd'

Bythefnos yn ôl, daeth tua 200 o bobl i gyfarfod cyhoeddus yn Llansannan, lle mae Eifion Jones yn byw.

'Mi ddaeth allan yng nghyfarfod cymuned y pentref fis Mawrth, jest brawddeg ac ar ôl hynny mae uffern wedi agor!

'Mae pobl wedi bod yn brysur ofnadwy i ffeindio allan be' sy'n mynd ymlaen.

'Dyna'n problem ni, de' ni ddim yn gwybod dim byd,' meddai Mr Jones.

Eifion Jones
Disgrifiad o’r llun, "Mae uffern wedi agor" ers i'r newyddion gael ei ryddhau, medd Eifion Jones

Gan fod y prosiect yn fwy na 10MW, bydd Corff Cenedlaethol Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) yn asesu'r cais am ganiatâd i Fferm Wynt Mynydd Tryfan.

Er bod y datblygwyr wedi cyflwyno dogfennau, mae'r broses yn ei chyfnod cynnar.

Pan gysylltwyd â'r datblygwyr, Alerion UK, a'r perchennog tir, ni wnaethant wneud sylwadau.

Gyda 70 o gynlluniau ynni ar y gweill ar draws Cymru, mae mudiad Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig yn galw am gynllun cenedlaethol ar gyfer ynni adnewyddadwy a fyddai'n gwarchod cymunedau a'r tirlun.

Mae proses gynllunio drylwyr ar gyfer pob cais fferm wynt, yn ôl y corff sy'n cynrychioli'r diwydiant, Renewable UK Cymru, sy'n pwysleisio bod yr angen am ynni gwyrdd yn fwy nag erioed.

Safbwyntiau gwleidyddol a chymunedol

Mae ymgyrchwyr yn galw am 'ddadl genedlaethol' ar ffermydd gwynt, gan fynegi pryderon am effaith y prosiectau ar gymunedau lleol.

Mae yna bryderon hefyd ynghylch cynllun i godi tyrbinau gwynt ger Y Bala a'r rôl allweddol y gallai Port Talbot ei chwarae fel 'hwb' gwynt ar y môr.

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol fod rhaid taclo newid hinsawdd wrth weithio gyda chymunedau, gan nodi potensial enfawr ynni adnewyddadwy ar y môr.

Mae Llafur yn cefnogi Cymru annibynnol o ran ffynonellau ynni glân lleol, gan ddweud y bydd hyn yn cadw biliau'n isel, yn gwarchod rhag marchnadoedd byd-eang ansefydlog ac yn sicrhau bod cymunedau'n elwa.

Yn ôl Plaid Cymru, byddai perchnogaeth gymunedol o ynni gwynt yn flaenoriaeth, gyda'r gymuned leol yn berchen ar 15% o bob prosiect dros 10MW.

Mae'r Blaid Werdd yn pwysleisio pwyslais ar fentrau cymunedol i sicrhau bod trigolion yn teimlo perchnogaeth dros ffynonellau ynni ac nad ydynt yn eu gweld fel rhywbeth o'r tu allan.

Mae Reform yn gwrthwynebu ffermydd gwynt mawr ar y tir, gan ddweud eu bod yn erbyn diwydianeiddio cefn gwlad.

Ni chawsom ymateb gan y Ceidwadwyr ar hyn o bryd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News