Tân mawr yn Sir Conwy yn gorfodi trigolion i adael eu cartrefi
Mae trigolion mewn pentref yn Sir Conwy wedi gorfod gadael eu cartrefi yn dilyn tân mawr yn yr ardal.
Mae'r gwasanaethau brys wedi dweud wrth drigolion Capelulo, ger Penmaenmawr, sy'n byw'n agos i'r tafarn Fairy Glen i adael yr ardal oherwydd y mwg sy'n dod o dân mawr ar Fwlch Sychnant.
Dywedodd Cyngor Tref Penmaenmawr bod Clwb Golff Penmaenmawr wedi agor fel lloches i'r rhai sydd wedi'u heffeithio.
"Dylai pobl osgoi'r ardal er mwyn cadw'r ffyrdd yn glir i'r gwasanaethau brys," meddai'r cyngor tref.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok i gael y diweddaraf.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






