Traffig Trwm Ar Ddwy Ochrau Fenai
Mae traffig trwm wedi datblygu ar ddwy ochr Afon Fenai wedi i gerbyd dros bwysau orfodi Pont y Borth i gau er mwyn cynnal archwiliad diogelwch.
Dyma'r eildro o fewn wythnos i'r bont orfod cau ar ôl i gerbyd oedd yn pwyso dros 7.5 tunnell groesi.
Mae'r traffig trwm wedi ymestyn hefyd i ddwy ochr Pont Britannia, gan effeithio ar symudiad miloedd o bobl sy'n teithio i faes Sioe Môn ar gyfer Eisteddfod yr Urdd.

Datganiad gan Traffig Cymru
"Cerbyd dros bwysau wedi croesi'r bont felly mae'n rhaid cau'r ffordd er mwyn gwneud archwiliad.
Byddwn yn ail agor y bont cyn gynted ag sy'n saff i wneud hynny.
Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra, mae eich diogelwch yn holl bwysig.
Hoffwn eich atgoffa mai cerbydau o dan 7.5t yn unig sy'n cael croesi Bont y Borth."
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r cau hwn yn dilyn digwyddiad tebyg o fewn yr wythnos ddiwethaf, lle cafodd Pont y Borth ei chau hefyd i wiriadau diogelwch ar ôl i gerbyd trwm groesi.
Mae'r digwyddiad yn effeithio ar y llif traffig ar y ddwy bont fawr sy'n cysylltu'r ardal, gan greu traffig trwm ar y rhwydwaith ffyrdd lleol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok i gael y diweddaraf am y sefyllfa.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






