Teyrnged i Elis Alan Ogilvy-Bardsley ar ôl gwrthdrawiad ar yr A499
Bu farw Elis Alan Ogilvy-Bardsley, dyn ifanc 20 oed o Bwllheli, yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A499 rhwng Llanaelhaearn a'r Ffôr, toc wedi 22:00 nos Sadwrn.
Mae ei deulu wedi rhoi teyrnged iddo gan ddisgrifio Elis fel "mab, brawd, ŵyr, nai a chefnder gofalgar ac ystyriol".
Yn dilyn y gwrthdrawiad, cafodd sawl cerbyd eu cynnwys a galwodd Heddlu Gogledd Cymru a gwasanaeth ambiwlans i'r lle.
Pedwar ambiwlans aeth i'r digwyddiad, ond er ymdrechion parafeddygon, bu farw Elis yn y fan a'r lle.
'Da ni wedi torri'n calonnau bod Elis wedi cael ei gymryd oddi wrthon ni mewn ffordd mor drychinebus,' meddai ei deulu.
Mae ein bywydau ni fel teulu wedi cael eu newid am byth.
Tri pherson arall gafodd eu cludo i'r ysbyty ar ôl y digwyddiad ar yr A499.

Dywedodd ei deulu y byddan nhw'n "colli ei wylio yn chwerthin, yn jocian a chwarae hefo'i frodyr a chwiorydd iau a oedd yn edrych i fyny ato fo ac wrth eu bodd hefo'r amser a dreulion nhw hefo'i gilydd yn cael hwyl".
Ychwanegodd y teulu fod Elis "yn goleuo pob ystafell" ac yn "tynnu pobl ato fo" ac mai ef oedd "bywyd ac enaid y parti bob amser".
Roedd Elis yn mwynhau treulio amser gyda'i ffrindiau, teithio a chefnogi timau pêl-droed Cymru a Man United, meddai'r teulu.
Yn ôl y teulu, roedd Elis wedi cael ei dderbyn i Brifysgol Bangor lle'r oedd yn edrych ymlaen at astudio'r cyfryngau.
Mae'r heddlu yn parhau i apelio am wybodaeth mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Galw am welliannau diogelwch ar yr A499
Yn dilyn y gwrthdrawiad, mae cynghorydd lleol wedi galw ar yr awdurdod lleol i wneud gwelliannau diogelwch ar yr A499.
Dywedodd y cynghorydd Richard Glyn Roberts, sy'n cynrychioli ward Abererch, fod "tristwch mawr" yn lleol, ond nad oedd clywed y newyddion yn sioc.
Mae'n dweud fod y gwrthdrawiad dros y penwythnos yn brawf o'r angen am newidiadau gan alw am linellau gwynion, cyfyngiadau cyflymder a mwy o fesurau i reoli'r traffig.

Wrth ymateb, dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod yn "meddwl am bawb sydd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad trasig hwn".
'[Rydym] yn estyn ein cydymdeimlad i deulu'r person a fu farw,' meddai llefarydd.
'Fel yn achos pob damwain angheuol, byddwn yn cydweithio'n agos gyda'r heddlu ac yn ystyried os oes unrhyw gamau y dylid eu cymryd yn seiliedig ar gasgliadau'r ymchwiliad.'
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




