Teyrnged i Idris Squires o'r Fenni
Mae teulu dyn "caredig, cariadus a chynnes" o'r Fenni a fu farw yn dilyn digwyddiad yn y dref wedi rhoi teyrnged iddo.
Cafodd yr heddlu eu galw i Old Hereford Road ar 15 Mai, lle cafodd Idris Squires, 24, ei ganfod gydag anafiadau oedd yn bygwth ei fywyd.
Fe gafodd ei gludo i'r ysbyty lle y bu farw'n ddiweddarach.
Mae Liam Bennett, 27 oed o ardal Gilwern wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth.
Teulu'n mynegi eu colled
Dywedodd teulu Mr Squires na allant "ddechrau mynegi'r golled 'da ni'n ei deimlo".
"Yn 24 oed yn unig, roedd newydd ddechrau ar ei daith bywyd, ond yn ei gyfnod byr gyda ni fe gafodd effaith gadarnhaol ar fywydau cymaint o bobl."
Ychwanegon nhw ei fod yn gwneud "ffrindiau'n hawdd ac roedd ganddo gylch enfawr o ffrindiau a oedd yn golygu lot iddo".
"Ef oedd yr unigolyn mwyaf caredig, cariadus a chynnes y gallech chi byth ddymuno ei gyfarfod.
Doedd e ddim yn meddwl dwywaith am helpu eraill, ifanc neu hen - roedd ganddo'r reddf i wneud y peth cywir.
Er ein bod wedi ein llethu gan y galar o golli dyn ifanc mor hyfryd, rydym yn cymryd cysur o gofio am y cariad, y chwerthin a'r caredigrwydd a rannodd gyda'r rhai oedd wedi cyfarfod ag ef. Bydd yn ein meddyliau a'n calonnau am byth."
Ffordd i gysylltu a dilyn y newyddion
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






