Rhybudd Melyn am Stormydd Mellt a Tharanau
Mae rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau mewn grym ar gyfer rhannau helaeth o Gymru brynhawn a nos Fercher.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod posibilrwydd o law trwm iawn, mellt, cesair a gwyntoedd cryfion mewn rhai ardaloedd.
Mae'r rhybudd mewn grym rhwng 15:00 a 23:59 ac yn cynnwys y rhan fwyaf o siroedd Cymru.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai'r stormydd achosi llifogydd sydyn, problemau teithio a cholli trydan am gyfnodau byr.
Am 15:45 roedd bron i 700 o dai yng ngorllewin Cymru wedi colli eu cysylltiad trydan, gyda'r achosion gwaethaf yn ardaloedd Llanfyrnach, Pen-y-bryn ger Aberteifi, a Hendy-gwyn ar Daf.
Ond erbyn 17:00 roedd y nifer wedi gostwng i lai na 150.
Mae stormydd wedi cael effaith ar rwydwaith trenau de Cymru hefyd, gyda mellt wedi achosi difrod i signalau ger gorsaf Ffordd Treglarbes yn Sir Benfro.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhybuddio y gallai achosi oedi i wasanaethau, neu orfodi rhai trenau i gael eu canslo.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod nhw wedi delio â thân mewn cartref yn ardal Slebets ger Hwlffordd oedd wedi'i achosi gan fellten, ond eu bod wedi gallu ei ddiffodd yn sydyn.
Mellten wedi'i dal ar gamera yn Aberdaugleddau brynhawn Mercher

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, bydd llawer o lefydd yn osgoi'r tywydd gwaethaf, ond gall stormydd ddatblygu'n gyflym yn ystod y prynhawn a'r nos wedi diwrnod arall o dywydd poeth.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio bod posibilrwydd y bydd trafferthion ar y ffyrdd oherwydd dŵr ar yr wyneb neu gesair, ac y gallai'r tywydd effeithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Dywedodd hefyd bod perygl y gallai rhai cartrefi a busnesau ddioddef llifogydd, gan rybuddio y gall achosi difrod i adeiladau neu seilwaith.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cynghori pobl i wirio'r rhagolygon diweddaraf cyn teithio ac i gymryd gofal os ydynt allan yn ystod stormydd mellt a tharanau.
Dywedodd llefarydd hefyd y dylai pobl osgoi sefyll ger coed neu mewn mannau uchel os oes mellt yn agos, a cheisio lloches ddiogel mewn adeilad neu gerbyd.
Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer pob sir yng Nghymru, heblaw am Sir y Fflint.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
Cofnodi diwrnod poethaf Mai erioed wrth gyrraedd 32.9C






