Plentyn 3 oed yn yr ysbyty ar ôl disgyn o ffenestr yng Nghaerfyrddin
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Brynmeurig yng Nghaerfyrddin ddydd Llun.
Mae plentyn tair oed yn yr ysbyty ar ôl disgyn o ffenestr llawr cyntaf yng Nghaerfyrddin.
Ad (425x293)
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi cael eu galw i'r digwyddiad gan y gwasanaeth ambiwlans tua 11:40 ddydd Llun.
"Dywedon nhw fod plentyn tair oed wedi disgyn o ffenestr llawr cyntaf eiddo yn ardal Brynmeurig y dref."
Cadarnhaodd y llu eu bod wedi cludo'r plentyn i'r ysbyty, a bod y plentyn yn dal yno ddydd Gwener.






