Pedwar yn gwadu llofruddio bachgen 17 oed yn Abertridwr
Roedd Tristan Kerr yn 17 oed ac yn byw yn Abertridwr.
Mae pedwar person wedi gwadu llofruddio bachgen 17 oed yn sir Caerffili ym mis Chwefror.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i eiddo yn Abertridwr tua 17:45 ar 5 Chwefror yn dilyn adroddiadau bod bachgen yn ei arddegau wedi cael ei anafu'n ddifrifol.
Bu farw Tristan Kerr yn y fan a'r lle.
Yn ymddangos yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Gwener, plediodd Ricardo Elliot, 27, Connor Palfrey, 24, Elexi Manny, 24, a Georgie Mears, 18, yn ddieuog i'w lofruddiaeth.
Cafodd y pedwar eu cadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl i'r achos llys yn eu herbyn i ddechrau fis Awst.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Mab 17 oed 'annwyl iawn' wedi marw o anaf trywanu - cwest
- Enwi bachgen 17 oed fu farw yn dilyn digwyddiad yn Abertridwr
- Arestio pump ar ôl i fachgen 17 oed farw yn Abertridwr







