Skip to main content
Advertisement

Lleihau Cynghorwyr Cymuned Ceredigion yn Codi Pryderon am Ddemocratiaeth Leol

Mae lleihau nifer y cynghorwyr cymuned yng Ngheredigion yn codi pryderon am effaith ar ddemocratiaeth leol, gyda newidiadau mawr yn cael eu gweithredu o fis Mai 2027.

·6 min read
Yr arfordir ger Aberteifi

Pryderon ynghylch lleihau cynghorwyr cymuned yng Ngheredigion

Mae pryderon yng Ngheredigion bod lleihau nifer y cynghorwyr cymuned a thref yn y sir yn cael effaith negyddol ar ddemocratiaeth leol.

Cadarnhaodd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru y bydd nifer y cynghorwyr tref a chymuned yng Ngheredigion yn lleihau o 174 o fis Mai 2027.

Fe alwodd Heledd Gwyndaf o gyngor cymuned Llandysiliogogo ar y Gweinidog Cabinet, Siân Gwenllian, i ddiddymu'r penderfyniad ac atal y newidiadau.

Mae'r Comisiwn yn nodi bod y newid yn "adlewyrchu nifer gwirioneddol y cynghorwyr ar draws cymunedau Ceredigion yn well" gan fod dros 160 o seddi gwag wedi bod ar ôl yr etholiad diwethaf.

Fe fydd cyngor cymuned Llandysiliogogo, sy'n cynnwys Talgarreg, yn uno gyda chyngor cymuned Troedyraur.

Talgarreg
Disgrifiad o’r llun, Fe fydd cyngor cymuned Llandysiliogogo (sydd yn cynnwys Talgarreg) yn uno gyda Throedyraur

Disgwylir i bob Cyngor Sir adolygu trefniadau cymunedol ac etholiadol ar gyfer cymunedau bob 10 mlynedd, ac mae'r gwaith hwn wedi cael ei gwblhau ar ran Cyngor Ceredigion gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

Cafodd adroddiad ac argymhellion eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2024, a chymeradwywyd y newidiadau gan Lywodraeth Cymru ar 6 Mai eleni.

Dyma'r ad-drefnu mwyaf o ran cynghorau tref a chymuned yng Ngheredigion ers degawdau.

Bydd y newid yn effeithio ar 50 o'r 51 o gynghorau cymuned a thref, gyda nifer yn uno i greu wardiau newydd, a bydd y nifer o gynghorwyr yn lleihau o 540 i 366, sef gostyngiad o 174.

Bydd rhai o drefi mwyaf Ceredigion yn gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y cynghorwyr, megis Cei Newydd a Llanwchaearn o 17 i 11.

Yn ystod ymgynghoriad ar yr argymhellion drafft, fe godwyd pryderon gan 235 o'r 236 a ymatebodd.

Un o'r rhai sydd â phryderon am y newidiadau yw Heledd Gwyndaf, aelod o Gyngor Cymuned Llanydysiliogogo, sydd yn uno gyda chyngor cymuned Troedyraur. Bydd nifer y cynghorwyr ar gyfer y ddwy ardal yn lleihau o 22 i 8.

Heledd Gwyndaf
"Mae yna lawer iawn o bryderon," meddai Heledd Gwyndaf. "Mae yna adnabyddiaeth o'n hardaloedd. "Dw i ddim mor gyfarwydd ag ardal Troedyraur. Mae llai ohonyn ni yn mynd i wneud y gwaith. Mae yna lai o bennau yn mynd i fod rownd y bwrdd. "Mae'r ardal yn mynd i gynyddu a'r nifer o gynghorwyr yn mynd i gwtogi. Mae'r adnoddau a'r cyfoeth o bobl a'r profiadau ac adnabyddiaeth byddwn ni yn colli yn enfawr. "Mae hyn yn fygythiad i'n pobl ni ac i ddemocratiaeth yn gyffredinol. S'dim dwywaith bydd yn lleihau llais democrataidd pobl yng Ngheredigion. Ni'n gwneud popeth yn wirfoddol."

Bydd nifer y cynghorwyr tref yn Nhregaron yn gostwng o 11 i 8.

Tregaron
Disgrifiad o’r llun, Fe fydd nifer y cynghorwyr tref yn Nhregaron yn gostwng o 11 i 8

Dywedodd Heledd Gwyndaf bod ganddi "bryderon mawr" am y broses gyfan.

"Dw i yn meddwl bod eisiau edrych mewn i sawl cam o'r broses. Mi wnaeth dros 230 o bobl, boed nhw yn unigolion neu yn gynghorwyr sir, ymwrthod â'r argymhellion. "Dim ond 1 yn unig oedd yn cytuno. Cafon nhw ddim eu hystyried o gwbl. Maen nhw wedi bwrw 'mlaen heb wrando ar y bobl."

Mae hi'n galw ar y Gweinidog Cabinet newydd, Siân Gwenllian, i "ad-alw a dirymu'r gorchymyn" ac i gynnal ymchwiliad. Hyd yn hyn, mae Siân Gwenllian wedi penderfynu peidio ymyrryd â'r penderfyniad gwreiddiol yn ôl ym mis Mai.

Advertisement

Yn Nhregaron, bydd nifer y cynghorwyr tref yn lleihau o 11 i 8. Mae Catherine Hughes, sydd wedi gwasanaethu dros 20 mlynedd fel cynghorydd tref, wedi disgrifio'r penderfyniad fel un "pryderus".

"O ran Tregaron, ni'n mynd i golli tri. Lawr o 11 i 8. Pwy fydd yn moyn sefyll yn yr etholiad newydd, oherwydd mae pwyse gwaith wedi mynd lawr yn drwmach dros y blynyddoedd diwethaf. "Mae fe'n bwysig bod mewnbwn gan bobl lleol i beth sydd yn digwydd yn eu cymuned nhw. Dw i yn rhagweld y bydd mwy o lefydd gwag i ddweud y gwir. "Dw i ddim yn meddwl bod angen torri nôl ar lawr gwlad. Os gollwn ni beth sydd gyda ni ar lawr gwlad, wedyn dw i ddim yn gwybod beth sydd yn mynd i ddigwydd i'n cymunedau ni."

Datganiad Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru

Doedd neb ar gael i wneud cyfweliad ar ran y Comisiwn, ond dywedodd llefarydd:

"Roedd y Comisiwn yn falch o'r cyfle i ddiweddaru ffiniau cymunedau yng Ngheredigion fel eu bod yn adlewyrchu eu hardaloedd yn well. "Dyma'r arolwg cyntaf ers amser hir iawn felly roedd llawer o welliannau i'w gwneud i ffiniau ar draws y sir. "Y cyngor sir sy'n penderfynu ar y polisi ar faint o gynghorwyr y dylai cymuned eu cael, nid y Comisiwn. Yn yr achos hwn, argymhellodd y Comisiwn leihau nifer y seddi ar draws y sir o 174, yn unol â pholisi maint cynghorau Ceredigion. "Yn y set ddiwethaf o etholiadau lleol, gadawyd 162 o seddi'n wag yng nghymunedau Ceredigion gan nad oedd digon o ymgeiswyr, felly byddai'r gostyngiad mewn termau real yn nifer y cynghorwyr tua 12, gan dybio y byddai nifer tebyg yn sefyll yr etholiad yn 2027. "Mae'r nifer llai o seddi yn adlewyrchu nifer gwirioneddol y cynghorwyr ar draws cymunedau Ceredigion yn well. Yn hollbwysig, mae hefyd yn cryfhau democratiaeth ar draws Ceredigion trwy wneud etholiadau yn fwy tebygol."

Yn ôl y Comisiwn, eu gwaith yw paratoi argymhellion tra bod penderfyniadau'n cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Heledd Gwyndaf bod cynghorwyr yn cael eu "cyfethol" os oedd seddi gwag, ac mai hwn oedd "rhan bwysig iawn o'r broses ddemocrataidd," gan ddweud nad oedd y ffigwr o 162 o seddi gwag yn adlewyrchu'r sefyllfa gyfredol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y newidiadau wedi dilyn "proses adolygu drylwyr" gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, gyda'r nod o sicrhau bod gan gymunedau ledled Ceredigion "gynrychiolaeth ddemocrataidd deg a chyfartal."

Yn ôl Cyngor Ceredigion, maen nhw'n "gwerthfawrogi'r rôl bwysig y mae cynghorau tref a chymuned yn ei chwarae" wrth gynrychioli cymunedau lleol.

Mae llefarydd ar ran Un Llais Cymru, y corff cynrychioliadol cenedlaethol ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru, yn dweud eu bod am gwrdd â'r Gweinidog Cabinet wythnos nesaf yn dilyn sylwadau gan gynghorau sy'n aelod o'r corff.

Ymatebion rhai o'r cynghorau cymuned

Dywedodd Cyngor Cymuned Beulah y byddai cwtogi'r nifer o gynghorwyr yn "rhoi pwysau ychwanegol ar gynghorwyr unigol."

Wrth ymateb, dywedodd Cyngor Tref Tregaron eu bod yn "gwrthwynebu'n gryf yr argymhelliad" i leihau nifer y cynghorwyr.

Yn ôl Cyngor Cymuned y Ferwig, "fe fydd llai am fod yn gynghorwyr" wrth gwtogi niferoedd.

Dywedodd Cyngor Cymuned Ysbyty Ystwyth y bydd "llai o gynrychiolaeth gymunedol, hunaniaeth yn cael ei cholli, a lleisiau yn mynd ar goll."

Dywedodd Cyngor Cymuned Penbryn: "Oni bydd y baich ar gyn lleied o Gynghorwyr yn aruthrol? A fydd darpar gynghorwyr yn dymuno ysgwyddo'r holl gyfrifoldebau beichus yn y dyfodol? Pwy fydd yn dymuno bod yn gynghorydd cymuned yn y dyfodol?"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News