Heddlu'n ymateb i ddigwyddiad difrifol yng Ngorseinon
Mae'r heddlu'n ymateb i "ddigwyddiad difrifol" yn ardal Gorseinon, Abertawe ac wedi penderfynu cau nifer o ffyrdd cyfagos.
Y gred ydy bod cerbyd yn rhan o'r digwyddiad ac mae'r gwasanaeth ambiwlans wedi dweud bod un person yn yr ysbyty.
Ond mae adroddiadau lleol yn awgrymu bod person arall wedi cael ei anafu'n ddifrifol hefyd.
Mae'r heddlu'n gofyn i'r bobl leol aros yn eu tai.
Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans eu bod wedi ymateb i ddau ddigwyddiad yng Ngorseinon tua amser cinio ddydd Iau.
Mae swyddogion a hofrenyddion yr heddlu wedi cael eu galw yno, ynghyd â chriwiau ambiwlans.
Mae presenoldeb sylweddol gan yr heddlu'n parhau yn yr ardal brynhawn Iau.
Ymhlith y ffyrdd sydd wedi'u cau mae Ffordd Pen-Cae Crwn, Ffordd Cecil, Ffordd Brynteg, Ffordd Brighton a Ffordd Pontarddulais ac mae'r heddlu'n disgwyl iddyn nhw fod ar gau am beth amser.
Mae Heddlu'r De yn gofyn i bobl osgoi'r ardal a defnyddio llwybrau eraill pan fo hynny'n bosib.
Cafodd y gwasanaeth ambiwlans eu galw i'r digwyddiad yng Ngorseinon am 12:59 ddydd Iau

Dywedodd un person llel fod y llu wedi gofyn iddo ddychwelyd i'w dŷ:
Cafodd pawb orchymyn i fynd yn ôl i mewn. Doedden nhw ddim eisiau i ni faeddu safle'r drosedd. Mae'n ymddangos bod yr heddlu'n chwilio am rywun.
Mae'r digwyddiad wedi arwain at dagfeydd traffig sylweddol yn y dref ac o'i hamgylch.
Adroddiad gan Sara Dafydd o'r safle
Mae heddlu yma'n ymateb i ddigwyddiad difrifol yn Ngorseinon.
Mae'r manylion yn hynod o brin ar hyn o bryd ond ni'n deall bod o leiaf un person wedi cael ei gymryd i'r ysbyty, a rhai'n lleol'n dweud bod person arall wedi'i anafu'n ddifrifol.
Mae'r strydoedd yn dawel ar hyn o bryd wrth i'r heddlu fynd o gwmpas eu gwaith.
Ond mae'r traffig ar yr hewlydd cyfagos yn drwm iawn - gyda nifer yn tri cyrraedd gatre o'r gwaith ac ysgol.
Mae'r rheini dwi wedi siarad â nhw'n rhwystredig iawn ar faint o strydoedd sydd ar gau - mae Heddlu De Cymru'n dweud bo disgwyl i'r strydoedd fod ar gau am beth amser.
Dwi 'di siarad â rhai sy'n byw yma - yn dweud eu bod wedi cael cyfarwyddyd i aros yn eu cartrefi.
Mae'r gwasanaeth ambiwlans wedi dweud eu bod nhw wedi ymateb i ddau ddigwyddiad amser cinio - gan gynnwys ambiwlans awyr.
Mae dal presenoldeb gan yr heddlu yma - yn y gwres tanbaid- dwi 'di gweld trigolion yn mynd mas a diodydd oer i swyddogion sy'n dargyfeirio traffig.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






