Skip to main content
Advertisement

Etholiad Senedd Cymru: Dicter ynghylch Parasiwtio Ymgeiswyr Reform

Ymgeisydd Reform yn tynnu'n ôl o etholiad Senedd Cymru gan ddweud bod profiad wedi torri ei ffydd mewn gwleidyddiaeth. Dicter ynghylch parasiwtio ymgeiswyr a chyn-Geidwadwyr newydd yn ymuno â'r blaid.

·5 min read
Nigel Farage a Dan Thomas yn dal maniffesto Reform

Ymgeisydd Reform yn Tynnu'n Ôl ac yn Gadael y Blaid

Nigel Farage a Dan Thomas yn ystod lawnsiad maniffesto Reform yng Nghasnewydd ddechrau mis Mawrth

Mae un o ymgeiswyr y blaid Reform wedi tynnu'n ôl o etholiad Senedd Cymru ym mis Mai ac wedi gadael y blaid, gan ddweud bod y profiad wedi torri ei "ffydd mewn gwleidyddiaeth".

Daw hyn wrth i ffynonellau o fewn y blaid awgrymu bod dicter ynghylch "parasiwtio" ymgeiswyr o du hwnt i etholaethau, ac ynghylch nifer o aelodau newydd o'r Blaid Geidwadol sydd wedi ymuno.

Y ddealltwriaeth yw bod Reform wedi cysylltu â darpar ymgeiswyr dros y penwythnos, a bod rhai ohonynt wedi penderfynu tynnu eu henwau'n ôl.

Mae BBC Cymru wedi cael gwybod bod hyn wedi achosi i Reform oedi cyn cyhoeddi rhestr ymgeiswyr, ac mai safbwynt y blaid yw bod pob ymgeisydd wedi cael ei ddewis yn unol â'r un meini prawf.

Ymgeisydd Pontypridd Cynon Merthyr yn Tynnu'n Ôl

Roedd Andrew Barry yn ddarpar ymgeisydd ar gyfer sedd Pontypridd Cynon Merthyr, ond fe gadarnhaodd na fydd yn sefyll mwyach ar ôl cael gwybod mai Jason O'Connell fyddai ar frig rhestr Reform ar gyfer yr etholaeth.

Mae O'Connell yn gynghorydd sir yn Nhorfaen ac yn un o'r rhai sy'n rhoi cyfweliadau ar ran Reform yng Nghymru.

"Ro'n i'n meddwl taw dyma fues i'n aros amdano – plaid a all dorri'r cartél o gynghreirio rhwng Llafur a Phlaid Cymru, ond i ddarganfod dros y misoedd diwethaf bod pethau heb wir wneud synnwyr.
Roedden ni'n meddwl bod rhywun, o'r diwedd, yna ar gyfer pobl yng nghalon y cymoedd ac mae wedi fy ngadael heb ffydd."

Dicter a Beirniadaeth ynghylch Parasiwtio

Fe ddisgrifiodd O'Connell ei hun fel "cyn-Geidwadwr", gan ychwanegu:

"Ni fydd yna groeso i hyn. Mae gormod o Geidwawyr nawr yn y blaid.
Os yw Reform yn credu bod rhoi cyn-Geidwadwr yng nghalon y cymoedd am weithio'n dda, maen nhw'n anghywir.
Mae wedi gadael blas cas bod neb yn becso am Ferthyr."

Roedd O'Connell yn gynghorydd annibynnol cyn ymuno â phlaid Nigel Farage, ond fe wasanaethodd am gyfnod byr fel Ceidwadwr, rhywbeth y mae wedi'i ddisgrifio yn y gorffennol fel "camgymeriad".

Yn ôl aelodau lleol y blaid, Jason O'Connell fydd ar frig rhestr ymgeiswyr Reform yn etholaeth Pontypridd Cynon Merthyr.

Jason O'Connell
Disgrifiad o’r llun, Yn ôl aelodau lleol y blaid, Jason O'Connell fydd ar frig rhestr ymgeiswyr Reform yn etholaeth Pontypridd Cynon Merthyr

Yn ôl Barry, roedd e ac aelodau lleol o'r blaid ar ddeall mai nhw fyddai'n cael y gair olaf ynghylch ymgeiswyr yn eu hardal, ac yn absenoldeb hynny mae'n dweud nad oedd dewis ond tynnu'n ôl.

Dywedodd ymgeisydd arall ei fod wedi rhoi gwybod i arweinydd Cymreig Reform, Dan Thomas, nad yw am sefyll am fod pobl yn cael eu parasiwtio i'r ardal o rannau eraill o Gymru.

Advertisement

Ychwanegodd y ffynhonnell bod yna "gynnwrf" o fewn canghennau Reform dros y cynlluniau.

"Mae canghennau yn gyffredinol yn cwrdd unwaith y mis, ond dydyn nhw heb gael llais o ran dewis ymgeiswyr," meddai.
"Fe gafodd hynny i gyd ei wneud mewn canolfannau asesu a'i benderfynu gan Lundain."

Cyn-Geidwadwyr yn Ymuno â Reform

Mae'r cyn-Geidwadwyr Laura Anne Jones a James Evans bellach yn ASau Reform.

Llun cyfansawdd o Laura Anne Jones a James Evans
Disgrifiad o’r llun, Mae'r cyn-Geidwadwyr Laura Anne Jones a James Evans bellach yn ASau Reform

Dywedodd y ffynhonnell bod yna "radio silence" ers cynnal y canolfannau asesu ym mis Ionawr a bod nifer y cyn-Geidwadwyr sydd wedi ymuno â'r blaid "yn cythruddo pobl yn fawr".

Yng Nghymru, mae dau gyn-Aelod o'r Senedd Geidwadol – Laura Anne Jones a James Evans – bellach yn ASau Reform ac mae sawl cynghorydd hefyd wedi newid plaid.

Dywedodd ffynhonnell arall wrth BBC Cymru:

"Yr unig beth mae unrhyw un yn gofidio amdano yw'r un neu ddau o'r safleoedd ar y brig.
Pan mae'r blaid yn dweud wrth bobl sy'n dymuno cael eu hethol eu bod yn safle pump, yna bydd y bobl hynny yn gadael ac mae'n anodd cael rhywun yn eu lle."

System Bleidleisio Newydd a Chynlluniau Etholiadol

Dan system bleidleisio newydd y Senedd, mae pobl yn pleidleisio dros blaid, a'r blaid wedyn yn penderfynu ar drefn ei hymgeiswyr.

Fe fydd pob un o'r 16 etholaeth yn ethol chwech AS i'w cynrychioli yn y Senedd nesaf, sy'n ehangu o 60 i 96 o seddi.

Mae gan bleidiau gwleidyddol tan 9 Ebrill i gyhoeddi rhestrau ymgeiswyr ar gyfer etholiad 6 Mai.

Ymateb o Fewn i'r Blaid Reform yng Nghymru

Ar raglen Dros Frecwast ddydd Mercher, mewn ymateb i ba bryd mae disgwyl i Reform gyhoeddi eu rhestrau, atebodd Cai Parry-Jones, is-gadeirydd cangen y blaid ym Mangor, Aberconwy ac Ynys Môn:

"Efallai fydd o heddiw, efallai fydd o 'fory - dwi reit sicr fydd o wythnos yma."
"'Dan ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n dewis y bobl gorau ar gyfer Cymru."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News