Skip to main content
Advertisement

Dyn yn ymddangos yn y llys ar ôl darganfod corff menyw yn ei 80au mewn rhewgell

Mae dyn wedi ymddangos yn y llys ar ôl i fenyw yn ei 80au gael ei darganfod yn farw mewn rhewgell ym Mhorthcawl. Mae Christopher Phillips, 60 oed, wedi ei gyhuddo o atal claddedigaeth gyfreithlon a thwyll trwy ddweud anwiredd.

·1 min read
Heddlu ym Mhorthcawl

Ymddangosiad yn y Llys ar ôl Darganfod Corff

Mae dyn wedi ymddangos yn y llys ar ôl i fenyw yn ei 80au gael ei darganfod yn farw mewn rhewgell.

Aeth Heddlu De Cymru i eiddo ar Gilgant Poplar ym Mhorthcawl am 13:45 ar 17 Chwefror yn dilyn pryderon ynghylch lles menyw oedrannus.

Cyhuddiadau yn erbyn Christopher Phillips

Mae Christopher Phillips, 60 oed o Borthcawl, wedi ei gyhuddo o atal claddedigaeth gyfreithlon.

Mae hefyd yn wynebu cyhuddiad o dwyll trwy ddweud anwiredd.

Gwrandawiad yn Llys Ynadon Caerdydd

Mewn gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Caerdydd, fe gadarnhaodd Mr Phillips ei enw, dyddiad geni a chyfeiriad.

Advertisement

Fe gafodd ei gadw yn y ddalfa hyd nes ei wrandawiad nesaf yn Llys y Goron Caerdydd ar 20 Mawrth.

Ymchwiliad Heddlu De Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru bod

"ymchwiliadau i'r farwolaeth yn parhau."

Ffyrdd o Ddilyn y Newyddion

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon Perthnasol

Arestio dyn ar ôl i fenyw gael ei darganfod yn farw mewn rhewgell

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News