Heddlu Gwent yn ymchwilio i lofruddiaeth yn Trefddyn
Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw dyn a fu farw yn ardal Trefddyn ger Pont-y-pŵl wrth i'r ymchwiliad i lofruddiaeth barhau.
Roedd Nicholas 'Brian' Parfitt yn 74 oed a chafodd ei ganfod gan swyddogion yn dilyn adroddiadau ei fod wedi cael anafiadau difrifol.
Cafodd yr heddlu eu galw i eiddo ar Ffordd Bythway am 16:55 ar 23 Ebrill ynghyd â pharafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru.
Dywedodd yr heddlu bod y teulu'n parhau i gael cymorth.
Teyrnged gan y teulu
Wrth roi teyrnged iddo dywedodd y teulu bod marwolaeth Brian
"wedi bod yn sioc i'r teulu a'r gymuned".
"Roedd yn dad a thaid annwyl iawn ac yn uchel ei barch yn y gymuned."
Arestiad a manylion pellach
Mae dyn 37 oed o Gwmbrân wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Dilynwch Cymru Fyw
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






