Newidiadau Demograffig a Phenderfyniad y Cyngor
Mae newidiadau demograffig sylweddol wedi digwydd ym mhentref Llansteffan, gan gynnwys gostyngiad yn nifer y teuluoedd ifanc sy'n symud i'r ardal.
Yn dilyn hyn, mae aelodau Cyngor Sir Caerfyrddin wedi pleidleisio o blaid cau Ysgol Llansteffan, gyda'r ysgol i gau'n swyddogol ar ddiwedd mis Awst.
Bydd y disgyblion yn cael eu trosglwyddo i ddalgylch Ysgol Llangain, sydd tua 5 milltir i ffwrdd.
Cyflwyniad y Cynnig a Beirniadaeth Estyn
Fe gyflwynwyd y cynnig i gau'r ysgol yn ffurfiol gan y Cynghorydd Glynog Davies, aelod cabinet ar gyfer addysg.
Dywedodd fod yr awdurdod wedi wynebu beirniadaeth gan Estyn am beidio â symud yn ddigon cyflym gyda'r broses o foderneiddio ysgolion.
Yn ei eiriau ef, rhaid gwneud penderfyniadau anodd weithiau, gan nodi bod tua 1000 o blant yn llai mewn ysgolion sir Gâr o gymharu â chyfnod cyn y pandemig Covid-19.

Fe agorodd yr ysgol bresennol yn y 1950au.
Nifer y Disgyblion a Gwrthwynebiad y Gymuned
Cyfaddefodd y Cynghorydd Davies fod nifer y disgyblion yn Ysgol Llansteffan wedi cynyddu o 8 i 16 mewn blwyddyn, ond nad oedd yr ysgol yn gynaliadwy yn ei ffurf bresennol.
Bu disgyblion, rhieni, a aelodau Cymdeithas yr Iaith yn lobïo cynghorwyr cyn y cyfarfod, gan alw am oedi'r broses oherwydd y cynnydd yn nifer y disgyblion.
Roedd Cymdeithas Rieni ac Athrawon Llansteffan wedi ysgrifennu at y cyngor gan ddadlau bod 17 o ddisgyblion yn yr ysgol erbyn hyn.
Ymatebodd 201 o bobl i'r ymgynghoriad, gyda 198 yn erbyn y bwriad i gau Ysgol Llansteffan.
Yn ôl Cyngor Sir Caerfyrddin, roedd 46 o blant dalgylch Llansteffan yn cael eu haddysgu mewn ysgolion eraill yn yr ardal, nid yn Ysgol Llansteffan, a bod y nifer isel o ddisgyblion, nifer fawr o lefydd gwag, a sefyllfa ariannol anodd yn arwain at argymhelliad i gau'r ysgol.

Bu plant a rhieni Ysgol Gynradd Llansteffan yn protestio y tu allan i swyddfeydd Cyngor Sir Caerfyrddin ddydd Mercher.
Pleidlais y Cyngor a Safbwyntiau Gwahanol
Er i'r bleidlais i gau'r ysgol gael cefnogaeth mwyafrif y cynghorwyr, penderfynodd dau aelod o grŵp Plaid Cymru, sy'n cyd-reoli'r cyngor, nad oedden nhw'n gefnogol i'r cynnig.
Pleidleisiodd y Cynghorydd Jean Lewis yn erbyn y cynnig, tra benderfynodd y Cynghorydd Meinir James atal ei phleidlais.
Ymateb Rhieni a Chymuned
Roedd Mared Lenny, rhiant yn Ysgol Llansteffan, yn mynegi siom ddwfn gyda'r penderfyniad gan ddweud ei fod yn "ddiwrnod trist yn amlwg".
"Mae'r ffordd mae'r cyngor wedi bihafio trwy'r broses yma wedi bod yn hollol anghredadwy," meddai.
"Dyw nhw ddim wedi gwrando i ni fel rhieni.
"Maen nhw bron wedi trin ni fel rhieni, a'r gymuned yn Llansteffan fel gelyn.
"Maen nhw wedi rhoi safio arian o flaen plant ni a biwrocratiaeth o flaen cymuned ni. Mae'n siomedig."
Ychwanegodd: "os chi'n gofyn i fi, maen nhw'n cau yr ysgol anghywir."

Ymateb y Cynghorydd Glynog Davies
Gwrthododd y Cynghorydd Glynog Davies yr honiadau gan ddweud:
"Mae'r trafod wedi digwydd dros flwyddyn ar sawl lefel. Dwi'n teimlo bod ni wedi trafod yn ddigonol.
Dwi'n ffyddiog ein bod ni wedi dilyn y broses fel y dylsen ni. Ni wedi gwneud yr hyn sydd yn ofynnol i ni. Mae'r swyddogion wedi dod i'r casgliad nad yw ysgol o 16 yn gynaliadwy.
Mae adeilad Llangain yn iawn. Mae'r swyddogion wedi asesu a dwi wedi holi a holi.
Mae yna ddigon o le yn Llangain ar gyfer y disgyblion."
Prif Faterion a Phryderon y Gymuned Addysgol
Dywedodd Huw Iorwerth, llywodraethwr ar ffederasiwn ysgolion Llansteffan, Llangain a Bancyfelin, fod pryderon wedi bod am y sefyllfa ers amser ac y mae'n poeni am ddyfodol addysg y plant yn y pentref.
"Y gofid mawr yw bod y cynnig i symud y plant i ysgol Llangain, sydd yn ysgol ardderchog, ond mae'r adnoddau yna yn fach o gymharu â Llansteffan, a dydy hynny ddim yn beth da."
Dywedodd Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith ei fod yn "anhygoel" nad oedd "un llais o Lansteffan" i'w glywed yn y drafodaeth yn y siambr heddiw.
"Dim ond cynghorwyr yn ailadrodd swyddogion."
Mae'n gobeithio y bydd y llywodraeth nesaf ym Mae Caerdydd yn mabwysiadu agwedd fwy cadarnhaol tuag at ysgolion bach.
"Ni wedi derbyn sicrwydd gan Blaid Cymru, os ydyn nhw yn ffurfio llywodraeth ar ôl mis Mai, y bydd adolygu sut mae'r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion fel Llansteffan yn gweithio. Yn amlwg dyw e ddim yn gweithio ar y funud."
Safbwyntiau Gwleidyddol a Chymunedol
Dywedodd y Ceidwadwyr fod "ysgolion wrth galon cymunedau", a bod cau ysgolion yn gam olaf posib. Maent yn galw am dryloywder gan awdurdodau lleol a thystiolaeth bod pob opsiwn wedi cael eu hystyried yn llawn.
Mae'r Ceidwadwyr yn pwysleisio bod rhaid blaenoriaethu buddiannau disgyblion a chymunedau.
Yn ôl plaid Reform, mae effaith cau ysgolion yn lledu trwy gymunedau ac maent am weld ysgolion gwledig yn ffynnu.
Dywedodd Plaid Cymru eu bod yn cefnogi'r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig ac wedi ymrwymo i gynnal adolygiad o'r Cod Trefnidaeth ysgolion, yn ogystal ag adolygu'r fformiwla cyllido ar gyfer awdurdodau gwledig.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol, Llafur, a'r Gwyrddion wedi cael cais i ymateb hefyd.
Gwybodaeth Ychwanegol a Chysylltiadau
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok i gael y newyddion diweddaraf.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







