Sioned Williams
Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb. Fe'i magwyd yng nghymoedd Gwent ac fe'i haddysgwyd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân ac Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Mae hi'n byw yn yr Alltwen yng Nghwm Tawe, gyda'i gŵr Daniel a'u dau blentyn.
Ar ôl graddio mewn Cymraeg a Saesneg o Brifysgol Aberystwyth, astudiodd ar gyfer diploma ôl-raddedig mewn newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd yn newyddiadurwr gyda BBC Cymru cyn mynd i weithio i Brifysgol Abertawe fel swyddog polisi iaith, ac yna fel rheolwr cyfathrebu a datblygu yn Academi Hywel Teifi. Cafodd ei hethol yn Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru yn Etholiad 2021.

Elin Jones
Mae wedi byw yn Llanwnnen, Caerdydd, Aberystwyth a nawr Aberaeron. Mae wedi canu mewn corau amrywiol a bu'n aelod o'r grŵp harmoni clos, Cwlwm, am flynyddoedd lawer. Bu ar Gyngor Tref Aberystwyth o 1992 tan 1999 a hi oedd Maer ieuengaf Aberystwyth yn nhymor 1997-98.
Roedd yn gadeirydd cenedlaethol Plaid Cymru rhwng 2000 a 2002. Fe'i hetholwyd i'r Cynulliad ym mis Mai 1999. Ar 9 Gorffennaf 2007, ffurfiwyd Llywodraeth Cymru'n Un a phenodwyd hi yn Weinidog dros Faterion Gwledig. Yn 2016, etholwyd hi yn Llywydd y Cynulliad a bu yn y swydd tan yr etholiad eleni.
Heledd Fychan
Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon. Magwyd hi yn Ynys Môn, a bu'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd y Talwrn ac Ysgol Uwchradd David Hughes. Astudiodd Hanes a Gwleidyddiaeth yng Ngholeg y Drindod yn Nulyn. Mae ganddi radd meistr mewn Hanes Canol Oesoedd o Brifysgol Bangor.
Mae'n byw ym Mhontypridd gyda'i gŵr, a'u mab. Cyn cael ei hethol, roedd wedi bod yn gweithio ers 12 mlynedd i Amgueddfa Cymru fel pennaeth polisi a materion cyhoeddus. Cyn hynny, bu'n gweithio i grŵp Plaid Cymru yn San Steffan. Mae hi'n Aelod o'r Senedd ers mis Mai 2021.

Dafydd Trystan Davies
Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad. Ganed Dafydd Trystan Davies yn Aberdâr ac mae bellach yn byw yn Nhrelluest, Caerdydd. Astudiodd yn Ysgol Rhydfelen ac ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan ennill doethuriaeth am ei waith ar globaleiddio ac economi Cymru.
Bu'n gadeirydd Plaid Cymru o 2013 tan 2019. Cyn cael ei ethol yng Nghaerdydd Ffynnon Taf, roedd yn uwch reolwr academaidd a chofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae'n adnabyddus am ymgyrchu dros deithio llesol, a'i feic yw ei hoff ddull o deithio.

Mabon ap Gwynfor
Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal. Mae'n ŵr i Nia, ac yn dad i bedwar o blant. Maent yn byw ar y fferm deuluol. Yn fab i'r mans, symudodd y teulu i wahanol gymunedau. O ganlyniad mynychodd amryw o ysgolion uwchradd: Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi, Ysgol Gyfun Gŵyr, a Chanolfan Gwenallt yn Ystalyfera, gyda chyfnod byrhoedlog yn Ysgol St Roses, Georgetown, Guyana.
Graddiodd o Brifysgol Cymru, Bangor gyda gradd mewn Hanes. Mae ei gefndir proffesiynol yn y wasg a rheoli prosiectau.

Adam Price
Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni. Cafodd ei eni yng Nghaerfyrddin i deulu glöwr a chafodd ei addysg yn Ysgol Dyffryn Aman ac yna ym Mhrifysgol Caerdydd lle y graddiodd gyda BSc (Econ). Mae'n gyn-Aelod Seneddol yn San Steffan, ac roedd yn cynrychioli etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr rhwng 2001 a 2010.
Mae'n Aelod o'r Senedd ers mis Mai 2016. Ymddiswyddodd fel arweinydd Plaid Cymru yn dilyn adolygiad damniol a ddaeth i'r casgliad bod diwylliant o
"aflonyddu, bwlio a misogynistiaeth"o fewn y blaid. Roedd rhai yn credu ei fod yn annhebygol o gael ei ailethol i'r Senedd yn 2026 wedi iddo gael ei osod yn drydydd ar rhestr Plaid Cymru ar gyfer etholaeth newydd Sir Gaerfyrddin, ond enillodd y blaid dair sedd yno.

Anna Brychan
Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg. Mae Anna Brychan yn gyn-gyfarwyddwr undeb prifathrawon (NAHT) Cymru a deon cynorthwyol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Cafodd ei hethol yn AS Caerdydd Penarth. Yn wreiddiol o Geredigion mae hi wedi ymgartrefu yn Nhrelluest, yn ne Caerdydd, ers dros 25 mlynedd.
Mae'n ferch i'r hanesydd, y diweddar John Davies Bwlchllan.

Llŷr Gruffydd
Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Bro Myrddin a Phrifysgol Aberystwyth. Dechreuodd ei yrfa fel gweithiwr ieuenctid cyn gweithio i Gyngor Ieuenctid Cymru a Chyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol.
Yn ddiweddarach, daeth yn rheolwr prosiect i gwmni datblygu economaidd. Mae hefyd wedi bod yn rheolwr ymgynghori i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru. Bu'n Aelod o'r Senedd ers mis Mai 2016.

Siân Gwenllian
Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio. Addysgwyd yn Ysgol Friars, Bangor ac ym mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd. Ar ôl colli ei gŵr magodd ei phedwar o blant ar ei phen ei hun. Bu'n gweithio fel newyddiadurwraig gyda'r BBC, HTV a Golwg.
Rhwng 2008 a 2016 bu'n gwasanaethu fel cynghorydd ar Gyngor Gwynedd, gan gynrychioli'r pentref lle cafodd ei magu, Y Felinheli. Yn y Senedd bu'n llefarydd Plaid Cymru ar y portffolio tai a chynllunio yn dilyn ei rôl fel yr aelod arweiniol dynodedig ar y cytundeb cydweithio (2021-2024) rhwng Plaid Cymru a llywodraeth Lafur Cymru.

Pwy arall sydd yn y llywodraeth?
Yn ogystal â'r gweinidogion uchod, mae pedwar arall sy'n aelod o'r llywodraeth newydd fel dirprwy weinidogion. Mae Nerys Evans wedi ei henwi fel Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol. Delyth Jewell yw'r Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod.
Y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth yw Mark Hooper, a Cefin Campbell yw'r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol. Cafodd y Cyn-Aelod Seneddol Elfyn Llwyd ei enwi fel y Darpar Gwnsler Cyffredinol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Plaid Cymru am gychwyn cynllun taliad plant 'ar unwaith'
- Lluniau: Canlyniadau Etholiad 2026
- Dim sedd yn 2021 - 34 yn 2026: Pa newid ddaw yn sgil llwyddiant Reform?






