Dathlu Ail-agor Becws Sanclêr ar ôl Llifogydd
Roedd dathlu mawr yn nhref Sanclêr, Sir Gaerfyrddin wrth i fecws a gafodd ei ddifrodi'n wael gan lifogydd ail-agor ar ôl dros saith mis o waith atgyweirio.
Roedd County Stores dan ddŵr pan darodd llifogydd difrifol ardaloedd Hendy-gwyn ar Daf a Sanclêr ar 4 a 5 Tachwedd 2025.
Cafodd haen drwchus o fwd ei adael ar waelod y siop, a bu'n rhaid gwaredu'r gwelydd ac offer o'r siop yn sgil y difrod.
Bu'n rhaid i'r gwasanaeth tân achub y perchennog, Sheila Phillips, 80, o'r becws mewn cwch yn oriau mân y bore ar 5 Tachwedd.
Ar ôl misoedd o waith adeiladu, fe heidiodd cwsmeriaid yn ôl i'r siop yng nghanol y dref fore Llun.
Roedd sawl un wedi anfon cardiau i ddymuno'n dda i'r busnes wrth iddo ail-agor.
"Es i mas mewn dinghy ond fi wedi dod mewn ar ddwy droed bore 'ma," meddai Sheila Phillips

Roedd Sheila Phillips ar ben ei digon wrth weld y busnes yn ail-agor yn dilyn y llifogydd.
Dywedodd mai un cymhelliad mawr dros ail-agor oedd gwneud hynny er cof am ei diweddar ŵr, Wyndham, oedd wedi sefydlu'r becws gyda hi rhyw 50 mlynedd yn ôl.
"Rwy'n hapus ofnadwy. Do'n i ddim yn meddwl dethen ni byth i le ydyn ni heddi," meddai.
Roedd County Stores dan ddŵr pan darodd llifogydd difrifol ardaloedd Hendy-gwyn ar Daf a Sanclêr ym mis Tachwedd

"Mae e wedi bod yn waith caled, a ni wedi dod i ben â hi. Mae hi wedi bod fel ffair yma a rwy'n hapus iawn i weld pob un.
"Mae lot o hugs a kisses wedi bod bore 'ma. Maen nhw wedi bod yn gweithio yn galed 'ma ac roedd rhaid ail-wneud e i gyd.
"Gallen ni byth â chlanhau fe. Roedd gormod o fochdra gyda'r dŵr wedi dod mewn ac roedd y cwbl yn frown.
"Es i mas mewn dinghy ond fi wedi dod mewn ar ddwy droed bore 'ma! Roedd Michael y mab yn dweud ail-agorwn ni achos bydde Dad ddim yn bles i ni gau fe.
"Dw i yn falch fy mod i wedi ail-agor. Dw i yn gobeithio bod e'n edrych lawr arna i a dweud 'mae hi wedi gwneud e'."
Mae'r staff wedi aros yn driw i'r busnes ers iddo orfod cau yn ddisymwth saith mis yn ôl. Un o'r rheini yw wyres Sheila, Leah Coleman.
"Mae'n neis a ni'n speechless i weld y drysau yn agor eto. Mae hi wedi bod yn saith mis hir a stressful. Saith mis ni wedi bod ar gau a ni nôl ar agor," meddai.
"O'r peth cyntaf maen nhw yn agor yn y bore ti'n guaranteed bod pobl yma a ti'n siarad gyda nhw," meddai Malcolm Thomas

Roedd y siop dan ei sang fore Llun gyda chwsmeriaid lleol wedi dod yn ôl i gefnogi'r busnes. Un o'r rheini oedd Malcolm Thomas o bentref Llangynin.
"Mae'n grêt. 'Drychwch ar yr awyrgylch sydd 'ma bore 'ma. Mae lot o bobl wedi bod yn sefyll lot o amser i'r lle i ail-agor a diolch byth mae'r diwrnod wedi dod," meddai.
"Gallu di sefyll yma drwy'r bore a bydd hi'n llawn yma drwy'r bore. Chi yn siarad am lefydd i gwrdd a dyma fe.
"O'r peth cyntaf maen nhw yn agor yn y bore ti'n guaranteed bod pobl yma a ti'n siarad gyda nhw. Dyna beth ni wedi colli dros y cyfnod 'ma."
Un arall oedd wedi galw mewn yn ystod y bore oedd Helen Bowen o Dre-lech.
"Ni mor falch gweld e ar agor eto achos ni'n joio'r bara. Mae e wedi bod yn amser hir, chwarae teg mae'n edrych yn lyfli 'ma. Ni'n falch bod e ar agor."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




