Gorfod dod adref er mwyn iechyd meddwl y plant
Mae mam i ddau sy'n byw yn Dubai yn credu y bydd yn rhaid iddi "wneud y penderfyniad i ddod adref er mwyn iechyd meddwl y plant", yn sgil y rhyfel yn y Dwyrain Canol.
Mae Rhiana Mair, sy'n wreiddiol o Ben-y-groes ger Caernarfon, wedi byw yn Dubai ers 10 mlynedd a bellach wedi eu dal yng nghanol y gwrthdaro yn y rhanbarth ers i'r UDA ac Israel ymosod ar Iran.
"Oedden ni'n clywed a gweld y taflegrau neithiwr. Oedd o'n teimlo mor agos - waeth iddo fod yn yr ardd," meddai.
Wrth feddwl am deithio yn ôl i Gymru gyda'i mab, Oisín Rhys, 7, a'i merch Anía Mair, 16, "yr unig peth dwi'n poeni amdan yw bod yn yr awyr".
Mae Rhiana yn poeni am effaith y rhyfel a synnau'r taflegrau ar iechyd meddwl ei mab Oisín sy'n 7 oed

Fis diwethaf fe wnaeth yr Unol Daleithiau ac Israel lansio ymosodiadau ar Iran gyda'r Arlywydd Trump yn dweud eu bod wedi gweithredu i amddiffyn eu buddiannau, ac Israel yn galw Iran yn fygythiad "terfysgol" i ddiogelwch.
Addo talu'r pwyth yn ôl mae Iran, ac maen nhw eisoes wedi lansio cyfres o ymosodiadau ar draws y rhanbarth ar wledydd fel Israel, Bahrain, Kuwait, Qatar a'r Emiradau Arabaidd Unedig.
"Ddoe roedd 'na bedwar cruise missile, wyth ballistic missile a 36 drôn 'di dod am y wlad," meddai Rhiana.
"O'n nhw gyd 'di cael eu taro i lawr ond mae'r sŵn yn ddigon."
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru, esboniodd y byddai ei merch hynaf, Anía, siŵr o fod am aros i fod yn agos at ei ffrindiau. Ond mae'n poeni am ei mab.
"Fedrai'm gadael o am eiliad, mae ei nervous system o angan reset erbyn hyn.
"Os mae rhywun yn cau drws car tu allan, mae o'n neidio."
'Panig, gofid ac ansicrwydd' i Gymry sy'n rhan o wrthdaro'r Dwyrain Canol
Eluned Morgan yn 'bryderus' am effaith gwrthdaro'r Dwyrain Canol ar Gymru
Mae'r Arlywydd Donald Trump wedi dweud y gall ymosodiadau'r Unol Daleithiau ar Iran ddod i ben yn "fuan iawn" - gan awgrymu amserlen o bythefnos neu dair wythnos.
Wrth siarad yn y Tŷ Gwyn fe honnodd hefyd bod offer milwrol Iran wedi ei ddinistrio, ac nad ydy dod i gytundeb gydag Iran bellach yn angenrheidiol.
"Dwi ddim yn coelio dim byd mae Trump yn ei ddweud," meddai Rhiana.
"Pwy a ŵyr be' mae o'n feddwl?"
Ar hyn o bryd mae Rhiana'n gweithio o adref a'i phlant gartref o'r ysgol ond does dim sôn pryd fyddan nhw'n dychwelyd i'r arfer.
"Dwi ddim yn gweld ni'n mynd yn ôl tymor yma - dwi'n meddwl mis Medi byddwn ni yn ôl yn y gwaith."
Mae Rhiana'n dweud bod ei phlant yn mwynhau bod yn ôl yng Nghymru gyda'i theulu

"Er 'mod i'n berson nerfus dwi'n teimlo'n saffach yn tŷ nac yn hedfan adra," meddai Rhiana.
"Does neb eisiau hedfan adref - mae'r prisiau mor rhad."
Ond er ei bod yng nghanol cyfnod anodd i'r teulu mae Rhiana'n trio aros yn bositif.
"Dim ots beth ddigwyddith i'r tŷ rywsut... ac mae digon hawdd llenwi cês hefo dillad a theganau i'r plant.
"Mae'r plant yn mwynhau gymaint bod adref [yng Nghymru].
'Da ni mynd i benderfynu ar ddydd Gwener os 'da ni am fynd adra."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




