Ymgeisydd Reform yn ymddangos pe bai'n gwneud saliwt Natsïaidd mewn llun
Dywedodd Corey Edwards y gallai'r llun, a gyhoeddwyd yn wreiddiol gan Nation.Cymru, gael ei "gamddehongli".
Mae Reform yn dal i gefnogi un o'i brif ymgeiswyr ar gyfer etholiad Senedd Cymru ym mis Mai ar ôl i lun ddod i'r amlwg sy'n ymddangos fel pe bai'n gwneud saliwt Natsïaidd.
Yn y llun gwelir Corey Edwards, cyn-gynghorydd gweinidogol i'r Ceidwadwyr, gyda'i fraich yn yr awyr a bys o dan ei drwyn.
Dywedodd Corey Edwards ei fod yn
"edrych yn wael a gellid ei gamddehongli", a dywedodd ei fod yn dynwared pêl-droediwr Cymreig gan ddefnyddio'r ystum.
Mae llefarydd ar ran Reform wedi dweud:
"Dydyn ni ddim yn fodlon diystyru pobl am byth oherwydd camgymeriadau a wnaethon nhw pan oedden nhw'n ifanc."
Ymgeisydd Reform yn gadael y blaid ynghanol dadl 'dros barasiwtio ymgeiswyr'
Ymgeisydd etholiad Plaid Cymru yn camu'n ôl dros neges am blant
Ymgeisydd Plaid Cymru yn ymddiheuro am 'sylwadau diofal'
Roedd Corey Edwards yn gynghorydd arbennig i Ysgrifennydd Ceidwadol Cymru, David TC Davies, rhwng Tachwedd 2022 a Hydref 2023.
Cyhoeddwyd ef yn brif ymgeisydd Reform ar gyfer Pen-y-bont Bro Morgannwg nos Fercher, sy'n golygu os bydd y blaid yn ennill sedd yn etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg y bydd yn cael ei ethol.
Dywedodd Reform fod y llun wedi'i dynnu yn 2019.
Nid yw'n glir ble y tynnwyd y llun, a gyhoeddwyd yn wreiddiol gan Nation.Cymru ddydd Iau.
Mewn fideo a bostiwyd ar y platfform cyfryngau cymdeithasol X, dywedodd Edwards fod y llun
"yn dyddio i gyfnod cyn i mi hyd yn oed ddechrau gweithio mewn gwleidyddiaeth".
'Ystum erchyll'
Yn ôl ei broffil ar LinkedIn, roedd Edwards yn uwch gynorthwyydd seneddol yn Nhŷ'r Cyffredin o fis Hydref 2019, ac roedd yn fargyfreithiwr cyn hynny.
Mewn datganiad dywedodd Edwards:
"Mae llun o flynyddoedd lawer yn ôl wedi'i rannu yr wyf yn cydnabod ei fod yn edrych yn ddrwg a gellid ei gamddehongli.
Mae gwahaniaeth clir rhwng defnydd cyffredin o'r ystum erchyll, o'i gymharu â minnau'n dynwared defnydd pêl-droediwr Cymreig ohono, neu yn wir gerddediad Basil Fawlty."
Dywedodd fod y gyfundrefn Natsïaidd
"y mwyaf barbaraidd erioed, ac ni fyddwn byth yn ysgafnhau nac yn gwanhau ei difrifoldeb".
"Ymladdodd fy nhad-cu annwyl yn erbyn y Natsïaid ac roedd ei frawd-yng-nghyfraith yn Garcharor Rhyfel. Rwy'n hyrwyddwr pybyr dros Iddewiaeth, ac rwy'n ffieiddio wrth weld y gorymdeithiau gwrth-Semitaidd agored diweddar ar strydoedd Prydain", meddai.
"Fel llawer o bobl ifanc, rydw i wedi gwneud camgymeriadau. Ond rydw i'n falch o'r person ydw i heddiw a'r gwerthoedd rydw i'n eu cynrychioli, a gobeithio y bydd pobl yn fy marnu ar broffesiynoldeb sut rydw i'n ymddwyn fel ymgeisydd a'r cyfraniad y gallaf ei wneud yn y dyfodol."
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru ei fod yn
"hollol warthus"a dywedodd fod gan Reform
"gwestiynau difrifol i'w hateb ynghylch eu proses fetio".
Mae Reform wedi bod yn ymosod ar ymgeiswyr Plaid Cymru am negeseuon cyfryngau cymdeithasol yn ystod y dyddiau diwethaf.
Ymddiswyddodd un ymgeisydd Plaid Cymru ar ôl i Reform ddod o hyd i neges a oedd yn ei ddangos yn defnyddio term sarhaus am blant mewn sgwrs ar Twitter.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







