Y Dyn o Fôn a'i Rôl Flaenllaw yn Hediadau Gofod Cynnar NASA
Roedd Tecwyn Roberts (yn eistedd) yn ddyn gweithgar a diymhongar.
Mae pedwar gofodwr ar eu ffordd adref ar ôl teithio pellach i'r gofod na neb arall erioed.
Torrodd criw llong ofod Artemis II y record wrth gylchu'r lleuad, gan gyrraedd 252,756 milltir o'r ddaear.
Yn ystod y daith hon, collwyd y cysylltiad rhwng y gofodwyr a phencadlys NASA yn Houston, Texas, am 40 munud.
Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi bod Cymro wedi chwarae rôl flaenllaw wrth alluogi cyfathrebu rhwng y ddaear a'r gofod, a hynny yn ôl yn y 1960au.
Gweithiodd Tecwyn Roberts o Ynys Môn i alluogi Neil Armstrong i gyfathrebu gyda'r ddaear yn ystod ymgyrch lwyddiannus Apollo 11 i anfon dyn i'r lleuad yn 1969.

Wedi ei fagu a'i addysgu ym mhentref Llanddaniel Fab, treuliodd gyfnod fel prentis mewn peirianneg ym Miwmaris. Ar ôl gwasanaeth yn y Llu Awyr, astudiodd beirianneg awyrenneg cyn allfudo i Ganada i weithio i gwmni creu awyrennau.
Ymunodd â NASA yn 1959 lle bu'n gweithio fel peiriannydd hediadau gofod.
Chwaraeodd ran allweddol yng ngwaith cynllunio canolfannau Mission Control yn Cape Kennedy, Florida, ac yna yn Houston.
Roedd hefyd yn gyfrifol am y Manned Space Flight Network, sef rhwydwaith o orsafoedd a ddilynai trywydd hediadau gofod.
Ei waith oedd y tu ôl i'r holl gyfathrebu hanfodol a ddigwyddodd yn ystod hediad Apollo 11 ym mis Gorffennaf 1969; gan gynnwys y cyfathrebu rhwng y gofodwyr a'r ddaear, y data a anfonwyd yn ôl, a'r lluniau teledu a wylid gan filiynau ledled y byd.
Mae hefyd yn cael ei gredydu am fathu'r dywediad 'A-OK' i nodi bod popeth yn gweithio fel y dylai.
Dychwelodd Tecwyn Roberts i'w hen ysgol yn Llanddaniel Fab yn 1974.

Yn ystod y 1980au, dychwelodd ambell waith i Landdaniel Fab i ymweld ag hen ffrindiau a'r ysgol.
Yn 1988, bu farw yn 63 oed.
Mae Tec, fel yr oedd yn cael ei alw, yn cael ei gofio fel arloeswr gweithgar ym maes teithio'r gofod, ond hefyd fel dyn diymhongar.
Enillodd wobrau niferus am ei waith, gan gynnwys Medal am Wasanaeth Aruthrol NASA yn 1969, ond mae lluniau ohono yn brin ac yn aml ar y cyrion.
"Heb Tec, mae'n siŵr na fyddai NASA a mission control fel maen nhw'n bodoli heddiw, wedi digwydd. Gallwn wirioneddol labelu Tecwyn Roberts fel un o arwyr di-glod mwyaf yr oes ofod." - Nick Howes, Cymar o'r Gymdeithas Seryddiaeth Frenhinol, 2019
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau Cysylltiedig
Hefyd o Ddiddordeb
- Y gofodwr o Gaerdydd aeth erioed i’r gofod
- Beth ddigwyddodd i'r seryddwr 10 oed o 1978?




