Marwolaeth yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A44 yng Ngheredigion
Mae person wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad a ddigwyddodd yng Ngheredigion ddydd Mawrth.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i'r digwyddiad ar yr A44 rhwng Capel Bangor a Goginan tua 18:10.
Roedd un cerbyd yn rhan o'r gwrthdrawiad, Volkswagen Golf gwyn, a dywedodd yr heddlu fod y car wedi gadael y ffordd tra'n teithio tua'r dwyrain at Goginan.
Y gyrrwr, yr unig berson oedd yn y cerbyd ar y pryd, cafodd ei gyhoeddi'n farw yn y fan a'r lle.
Mae'r heddlu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau dashcam a allai fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.
"Mae unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau dashcam allai fod o ddefnydd i'r heddlu yn cael eu hannog i gysylltu â'r llu."






