Capybara newydd yn symud i Sw Mynydd Cymru
Mae capybara saith mis oed wedi symud i Sw Mynydd Cymru ym Mae Colwyn ers ychydig dros fis. Mae'r anifail newydd hwn yn ychwanegiad i'r sw, sydd yn gartref i 60 o rywogaethau o Gymru a ledled y byd.
Er mwyn trafod y capybara a'i gyflwr, aeth cyflwynydd Radio Cymru, Aled Hughes, i sgwrsio gyda Non Jones, Pennaeth Gwasanaethau Ymwelwyr yn y sw, a Gareth Roberts, saer coed a rhan o'r tîm cynnal a chadw yno.

Creu cynefin i'r capybara
"Rydan ni wedi adeiladu cynefin newydd i'r capybara sydd newydd ymuno efo ni dros yr wythnosau diwethaf," eglurodd Non.
"Y capybara yw'r rodent mwya'n y byd a dwi'n gwybod nad ydi hynna yn swnio y peth neisia. Mae o fatha cwningan rili mawr ar ei gefn ac mae ei wyneb o'n edrych fatha llygoden.
"Ond maen nhw'n rili ciwt ac mae o'n bleser gweld y capybara'n crwydro o amgylch ei amgylchedd newydd."
Mae Gareth wedi bod yn gyfrifol am adeiladu cartref newydd y capybara. Wrth siarad gyda Aled Hughes, eglurodd Gareth:
"'Dan ni'n cael cynlluniau gan geidwaid y sw felly ein gwaith ni ydi dilyn be' maen nhw'n ei wybod a be' sydd isio i gadw nhw mewn rhag iddyn nhw ddianc."
Gyda melin goed a llif ar y safle, defnyddiodd Gareth a'i dîm goed lleol i adeiladu ffensys pren o amgylch cynefin newydd y capybara.

Mae'r ffens wedi'i hadeiladu'n gryf gyda ffenestri arbennig i ganiatáu i ymwelwyr wylio symudiadau'r capybara yn ei gynefin newydd.
Chwilio am enw i'r capybara
Mae'r sw yn chwilio am enw i'r capybara saith mis oed sydd wedi bod yn cysgodi oddi wrth y cyhoedd yn ystod y tywydd poeth diweddar. Mae'r anifail hwn yn dal i fod heb enw swyddogol.
Mae Non Jones wedi esbonio sut mae anifeiliaid newydd yn cael eu dewis i ymuno â'r sw:
"Rydan ni'n cydweithio efo zoos eraill ac mae o'n dibynnu pa anifeiliaid sydd yn rhydd a be' ydan i'n gallu ei gael yn barod mewn pryd i edrych ar ôl lles yr anifeiliaid.
"Nath y capybara ddwad atan ni o sw arall. Cyn cyrraedd mi gafodd ei jecio gan filfeddyg, sicrhau ei fod o'n iach ac yn barod i drafeilio aton ni.
"Unwaith fydd anifail newydd yn cyrraedd rhaid gwneud yn siŵr hefyd bo' nhw'n setlo a dod i 'nabod y ceidwaid, a'u bod nhw'n teimlo'n hapus yn y cynefin newydd 'dan ni wedi adeiladu iddyn nhw."

Fel rhan o ymgyrch i godi arian i ofalu am y capybara, mae Sw Mynydd Cymru yn cynnig cyfle i'r cyhoedd gynnig enwau i'r anifail.
"Yn ein hymgyrch i godi arian i edrych ar ôl y capybara rydan ni'n rhoi cyfle i'r cyhoedd gynnig enw iddo.
"Am hanner dydd ar y cyntaf o Fehefin byddwn ni'n cau'r gystadleuaeth a bydd tîm o geidwaid y sw'n dewis yr enw maen nhw'n licio orau.
"Bydd yr enillydd hefyd yn derbyn hampyr thema capybara a phedwar tocyn i'r sw."
Mae'r cyfle hwn yn cynnig cyfleoedd unigryw i'r cyhoedd roi enw ar y capybara newydd yn Sŵ Mynydd Cymru.
Rhaglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok i gael y newyddion diweddaraf. Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap i gael diweddariadau o Gymru ar eich dyfais symudol.






