Anthony Slaughter yn annerch y dorf ym Mhort Talbot fore Mawrth
Wrth i'r Blaid Werdd obeithio sicrhau eu sedd neu seddi cyntaf erioed yn Senedd Cymru ar 7 Mai, mae'r blaid wedi lansio maniffesto sy'n rhoi taclo costau byw yn ganolog i'w neges yn yr etholiad hwn.
Mae'r Gwyrddion yn gobeithio y bydd eu seddi nhw yn rhai allweddol i unrhyw blaid sy'n ceisio sicrhau mwyafrif er mwyn ethol Prif Weinidog nesaf Cymru – ac yn bwriadu gofyn pris teg am eu cefnogaeth, yn ôl arweinydd y Gwyrddion yng Nghymru, Anthony Slaughter.
"Fydd y gefnogaeth ddim yn ddiamod" oedd ei neges wrth lansio'r maniffesto, gan ychwanegu ei fod wedi bod yn trafod â'i gyd-aelodau gwyrdd yn yr Alban er mwyn dysgu o'u profiad nhw o gydweithio gyda'r SNP mewn llywodraeth yno.
Ond doedd dim awydd i drafod beth fyddai'r llinellau coch, y prif flaenoriaethau, i'r blaid ar gyfer unrhyw drafodaeth ar gydweithio neu fenthyg cefnogaeth.
Ond dyma bum peth ddysgon ni am addewidion y Blaid Werdd wrth lansio'u maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd…
Rheoli Cost Rhenti
Mae'r maniffesto'n rhoi llawer o bwyslais ar ddarparu cartref clyd a fforddiadwy i bawb – ac un o'r mesurau y mae'r blaid eisiau ei gyflwyno er mwyn cyflawni hynny yw rheolau llymach ar y sector rhent preifat.
Mae'r blaid yn cynnig rhewi cost rhenti am flwyddyn, tra bod y Llywodraeth nesaf yn cyflwyno rheolau newydd i gyfyngu ar gost rhenti. Ond beth fyddai'r cap ar gostau? Doedd gan Anthony Slaughter ddim ateb penodol i hynny, gan ddweud nad oedd y gwaith ymchwil wedi ei wneud eto.
Mae'r blaid hefyd yn addo adeiladu 60,000 o dai cymdeithasol dros y ddegawd nesaf, sy'n darged uchelgeisiol ond allai wynebu heriau sylweddol - o ba mor araf fydd y broses gynllunio i'r gost o'u hadeiladu.

Dros bwy alla i bleidleisio yn fy ardal i?
Er mwyn rhoi gwybodaeth am unrhyw etholiadau yn eich ardal chi, mae'r BBC yn cydweithio â'r Comisiwn Etholiadol ac yn anfon eich data personol atynt. Hysbysiad Preifatrwydd Data (Yn agor mewn tab porwr newydd)
Rhowch god post preswyl llawn yng Nghymru i gael gwybod
Mae problem gyda'r gwasanaeth ar hyn o bryd. Rhowch gynnig arall arni nes ymlaen.
Disodli'r Dreth Gyngor
Mae'r system bresennol ar gyfer talu treth gyngor yn "annheg ac wedi torri" yn ôl y Blaid Werdd – ac yn un o'r costau pennaf ar unrhyw gartref erbyn hyn.
Tra bod galwadau a gwaith ers tro i'w ddiwygio yng Nghymru, a chynlluniau i ailbrisio eiddo i fod i ddigwydd yn 2028, mae'n dalcen gwleidyddol caled allai newid biliau treth cannoedd o filoedd o gartrefi – rhai er gwell, ond rhai hefyd er gwaeth.
Ond mae'r Gwyrddion eisiau ei ddisodli yn llwyr, a chyflwyno Treth Gwerth Tir yn ei le, fyddai'n golygu bod perchnogion yr eiddo mwyaf gwerthfawr yn talu rhagor.
Byddai cynnig y Gwyrddion hefyd yn golygu fod y gost yn disgyn ar berchnogion eiddo, yn hytrach na thenantiaid, fel sy'n digwydd gyda'r dreth gyngor ar hyn o bryd.
Torri Biliau Dŵr
Mae'r Gwyrddion yn galw am reoleiddio tynnach ar gwmnïau dŵr, ac eisiau rhagor o rymoedd gan San Steffan er mwyn rhoi Dŵr Cymru mewn mesurau arbennig.
Daeth bygythiad gan arweinydd y Gwyrddion, Anthony Slaughter, i dynnu trwydded gweithredu Dŵr Cymru oddi arnyn nhw a'u gwladoli os nad ydyn nhw'n gwella'u perfformiad o ran biliau uchel a llygredd dŵr.
Ar yr amgylchedd, mae'r blaid hefyd eisiau cyflwyno cynllun gweithredu i daclo methan, er mwyn ceisio torri allyriadau ar draws y sector amaeth, gwastraff ac ynni.
Mae'r blaid hefyd am weld Cymru'n cynhyrchu ei holl drydan o ynni adnewyddadwy erbyn 2035.
Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus
Byddai'r Gwyrddion yn gwneud teithiau bws cyhoeddus am ddim i bawb dan 22 oed ac yn cyfyngu'r gost i £1 ar gyfer pob taith i bawb arall – polisi fyddai'n costio £256m i Lywodraeth Cymru dros dair blynedd yn ôl y blaid.
Maen nhw hefyd eisiau gwella cysylltiadau rheilffordd Cymru rhwng y gogledd, y de a'r canolbarth, ac eisiau gweld ail linell drên ar draws Afon Hafren rhwng de Cymru a Bryste.
Beth yw'r gost?
Doedd dim addewid wrth lansio maniffesto'r Gwyrddion y byddai'r mathemateg y tu ôl i gost yr holl bolisïau yn cael ei chyhoeddi – er nifer o gwestiynau gan y wasg am fforddiadwyedd popeth.
Yn ôl David Phillips, Pennaeth Cyllid Datganoledig yr IFS, mae'r maniffesto'n cynnig gweledigaeth o "wladwriaeth mwy o faint sy'n gwneud mwy dros ei dinasyddion. Ond does dim cynllun o ran sut i dalu amdano".
Ychwanegodd bod addewidion y Gwyrddion yn gofyn am "gynnydd sylweddol mewn trethi neu doriadau i wasanaethau eraill".
"Efallai bod y maniffesto yn gweithio fel man cychwyn ar gyfer trafodaethau posib gyda phleidiau eraill," meddai, "ond dyw e'n amlwg ddim yn gynllun cyflawn, wedi ei gostio, ar gyfer llywodraethu".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




