Orchest tri marathon mewn pedair wythnos
Gan ddechrau ym Mharis ddydd Sul, bydd y cyflwynydd teledu Sean Fletcher a'i ferch Lili yn cychwyn ar her i gwblhau tri marathon mewn pedair wythnos er budd elusen iechyd meddwl, gan ddilyn anrheg pen-blwydd a gafwyd ddwy flynedd yn ôl.
Doedd Lili Fletcher, 28 oed o Gaerdydd, erioed wedi cymryd rhan mewn ras hir cyn i'r syniad ddod i'r amlwg wrth i Sean ddathlu ei ben-blwydd yn 50 oed.

Nawr, mae hi a'i thad yn gobeithio cwblhau marathonau ym mhentrefi Paris, Llundain a Copenhagen, gan orffen yr her yn Nenmarc ar ddydd Sul 10 Mai, gyda chyfanswm o 78.6 milltir (126.6km).
"Nath e' gyd ddechrau pan wnaeth Dad droi yn 50 ac o'n i yn meddwl be' alla i brynu e," meddai Lili.
"O'n i meddwl mae'n eithaf hoffi rhedeg so 'na'i brynu ras hanner marathon iddo ef a fi wneud, achos o'n i byth wedi rhedeg hanner marathon.
"Nathon ni wneud yr hanner marathon yn Venice ac oedd e'n anodd ofnadwy. Ond ar ôl hynny nes i droi rownd a dweud, 'be' os ni'n gwneud marathon llawn!? A beth am redeg tri marathon a hynny ar gyfer charity?'."
Mae Sean yn llysgennad i elusen iechyd meddwl Young Minds UK.
Dywedodd fod y ffigwr tri yn symbol o gysylltu ag amcan yr elusen, sef tynnu sylw at y ffaith bod un o bob tri o'r 500,000 o bobl ifanc sy'n aros am driniaeth iechyd meddwl yn gorfod aros dros ddwy flynedd.
Ychwanegodd fod iechyd meddwl hefyd wedi effeithio ar ei deulu, gan fod y tad a'r ferch yn rhedeg gyda'r nod o godi arian ar gyfer elusennau Mind ac Young Minds drwy'r wefan JustGiving.
"Ar y dechrau y syniad oedd cyfuno'r tri marathon o fewn amser penodedig, a dyma benderfynu ar y rhif chwech, sef tri mewn chwech," meddai Sean.
Fodd bynnag, mae'r newyddiadurwr a chyflwynydd teledu yn cyfaddef er ei fod yn gallu rhedeg, nad yw mathemateg ac ystadegau yn ei gryfder, ac mae'r her erbyn hyn yn fwy nag yr oedd yn disgwyl.
Rhyw fis yn ôl, ar ôl astudio'r dyddiadau a ddewiswyd yn fwy manwl, sylweddolodd y ddau eu bod yn rhedeg y tri marathon o fewn pedair wythnos yn hytrach na chwech, fel yr oeddent wedi gobeithio.
"Yn syml dy' ni ddim yn gwybod be' dy' ni'n ei wneud! Ond ni'n gwybod ein bod yn rhedeg tri marathon!" meddai Sean yn cellwair.
Bydd y ddau yn rhedeg Marathon Llundain ar ddydd Sul 26 Ebrill.
"O'n ni eisiau gwneud Llundain a meddwl... pa ddau farathon arall sy'n agos i Lundain. Mae Paris pythefnos cyn Llundain ac wedyn Copenhagen pythefnos ar ôl," meddai Lili.
Mae Sean yn cofio'r diwrnod pan benderfynwyd ar y trefniant.
"Roedd hi ar y cyfrifiadur ac yn meddwl 'Sydney a New York a Barbados, Hawaii...' a fi'n dweud 'hang on, dy' ddim yn gallu fforddio hyn'.
"I fi roedd e mwy fel Brighton a Basingstoke, a 'nathon ni ddewis mynd i Baris a Copenhagen, a Llundain yn y canol."
Mae'r ddau wedi bod yn hyfforddi, gan amlaf gyda'i gilydd ers mis Awst y llynedd.
Dywed Lili eu bod nhw'n rhedeg un ras hir yr wythnos wrth hyfforddi, a gallai hynny fod hyd at dair awr a hanner. Byddai'r wythnos hefyd yn cynnwys dwy ras ganolig ac un sesiwn arall ysgafnach.
"Ddechrau mis Chwefror o'n ni'n adio 15 munud bob wythnos i'r sesiwn hir nes i ni gyrraedd tair awr a hanner a hynny'n rhyw 35km," meddai hi.
Ychwanegodd Sean:
"Doedd ddim lot o hyfforddi yr wythnos hon - dim ond ryw hanner awr. Mae'n rhy hwyr i wneud gwahaniaeth nawr."


"I ddechrau o'n i lot gwell na Lili ond nawr mae'n siŵr fod hi yn well na fi. Mae jest yn dda fel tad i weld sut mae hi wedi dod yn rhedwr mor dda.
"Oedd e'n brosiect pen-blwydd wnaeth dyfu'n rhywbeth llawer mwy.
"Mae ein perthynas ddeg gwaith yn well oherwydd ein bod yn treulio gymaint o'n hamser gyda'n gilydd."
Mae Lili hefyd yn credu bod hyfforddi a rhedeg gyda'i gilydd wedi bod yn gymorth mawr.
"Dwi'n meddwl bod e'n haws oherwydd ein bod ni'n gwneud e gyda'n gilydd; os ma' un yn teimlo 'dwi methu wneud e', mae'r un arall yn tynnu ni trwyddo fe."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
- Clwb rhedeg i rieni a phlant yn 'fendith' i famau newydd
- Ennill medal am redeg chwe marathon mwya'r byd
- Cofio marathon cyntaf Caerdydd... wrth baratoi am y ras nesaf yn 79 oed




