Cyflwr Einion Williams a'i Aros Am Lawdriniaeth Pen-glin
Dywedodd Einion Williams iddo aros tua chwe blynedd am lawdriniaeth pen-glin wrth i'w gyflwr waethygu a'i symudedd ddirywio.
Ystadegau Iechyd a Rhagolygon Cyn Etholiad y Senedd
Fe fydd yr ystadegau iechyd diweddaraf, sy'n cael eu cyhoeddi fore Iau, yn rhoi'r cyfle olaf i etholwyr asesu perfformiad y gwasanaeth iechyd cyn etholiad y Senedd fis nesaf.
Er bod maint rhestrau aros wedi gostwng yn sylweddol dros yr wyth mis diwethaf, a disgwyl gwelliant pellach yn y ffigyrau newydd, mae ymchwil BBC Cymru yn awgrymu ei bod yn debygol na fydd targedau allweddol yn cael eu cyrraedd.
Cafodd y targedau hyn eu gosod gan Ysgrifennydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles, ychydig dros flwyddyn yn ôl. Ond mae'r her o ostwng rhestrau ac amseroedd aros wedi bod yn dalcen caled i'r gwasanaeth iechyd a'r llywodraeth.
Gwasanaeth Iechyd yn Debygol o Fethu Targed Rhestrau Aros Cyn yr Etholiad
Ar ddechrau'r pandemig ym mis Mawrth 2020, roedd 458,154 o bobl yng Nghymru yn aros am driniaeth ar y gwasanaeth iechyd. Fe gynyddodd y nifer hwnnw i uchafswm o 802,268 erbyn mis Tachwedd 2024, cyn gostwng i 713,048 ym mis Ionawr eleni.
Ar ddechrau'r pandemig dim ond 279 o bobl oedd wedi aros dwy flynedd neu ragor am driniaeth yng Nghymru. Erbyn mis Mawrth 2022, dwy flynedd yn ddiweddarach, roedd y ffigwr hwnnw wedi codi i uchafswm o 70,417. Erbyn mis Ionawr eleni roedd y nifer wedi gostwng i 5,208.
Effaith Rhestrau Aros ar Fywydau Pobl
Dywedodd Bethan Jenkins iddi fynd yn breifat am driniaeth endometriosis ar ôl aros pum mlynedd ar y GIG.
"Dwi'n teimlo fel pe bawn i'n gorfod cael llawdriniaeth arall yn y dyfodol, dwi'n gwybod ar hyn o bryd fod y rhestr aros yng Nghwm Taf yn rywbeth fel tair blynedd.
"Pan ma' gen ti rywbeth fel endometriosis, ma'n gallu tyfu mor gyflym mewn rhai pobl, ti methu jyst cymryd y risg bo' ti am adael iddo fe ledaenu."
Ychwanegodd ei bod yn ofni cymhlethdodau difrifol: "Os ma'n dechre tyfu mewn i fy ngholuddyn i, gallen i benu lan gyda colostomi bag.
"Fi'n gwerthfawrogi bo' fi mewn sefyllfa freintiedig iawn bod gen i'r gefnogaeth i allu cael triniaeth yn breifat, ond dyna'r realiti sy'n wynebu cymaint o bobl sy'n dioddef ar hyn o bryd bod y rhestrau aros ar yr NHS mor hir.
"Ma' menywod yn mynd i ddyled achos s'dim opsiwn gyda nhw ond mynd yn breifat achos eu bod nhw methu aros mewn poen rhagor, ac i fod yn onest, dwi wedi rhoi'r ffidil yn y to efo'r GIG - ma' jyst mor annheg."

'Rhy Boenus ac yn Rhy Anodd i Gerdded'
Dywedodd Einion Williams ei fod wedi aros tua chwe blynedd am lawdriniaeth pen-glin ar ôl i'w gyflwr waethygu'n raddol.
"Mi o'n i fod i gael pen-glin y goes chwith yn 2020, ond tair blynedd wedyn daeth Covid, felly 'na'th hynny roi ychydig o anialwch yn y gwaith. Ryw fis yn ôl ges i ben-glin wedi'i neud, felly chwe blynedd yn gyfan gwbl.
"Cyn hynny roedd y pen-glin yn gwaethygu. Erbyn y ddwy flynedd cyn y llawdriniaeth ro'n i angen defnyddio bagl i gerdded. Roedd o wedi mynd yn rhy boenus a rhy anodd i gerdded yn iawn.
"Roedd o'n anoddach ac yn anoddach i fi symud o gwmpas."
"Ma' 'na dargedau ac ma'n anodd i'r staff pan ma' cyn gymaint o bobl yn disgwyl a phethe fel Covid. Ma' hynny'n taflu llwch i mewn ac ma'n anoddach iddyn nhw ddal i fyny wedyn ond ma' 'na ateb yn rhywle, ond mae o tu hwnt i fy ngwybodaeth i.
"Ar adegau ro'n i'n cychwyn poeni achos dwi methu fforddio gwneud o'n breifat, ond jyst amser a disgwyl nes i a dwi'n falch nes i ddisgwyl yn y diwedd."
Effaith ar weddill eu bywydau
Ym mis Ionawr eleni roedd bron i 92,000 o bobl yng Nghymru yn aros am driniaethau trawma neu orthopedig. Yn yr un cyfnod, roedd tua 84,500 yn aros am driniaethau llygaid (offthalmoleg).
Er bod y ffigwr hwnnw tua 26,000 yn is nag ym mis Mai 2025, mae elusen Royal National Institute of Blind People (RNIB) yn rhybuddio bod y rhestrau'n parhau'n rhy hir, gan olygu bod gormod o bobl yn colli eu golwg yn ddiangen.
"'Dan ni'n clywed am bobl bob wythnos sy'n cael eu heffeithio - rhai sy'n aros am apwyntiadau neu'n cael eu hapwyntiadau wedi'u canslo," medd cyfarwyddwr cyfathrebu'r mudiad, Ffion Haf Lewis.
"Maen nhw'n eistedd adref yn poeni bo' nhw'n mynd i golli'u golwg yn barhaol. 'Dan ni'n clywed am bobl sydd wedi colli swyddi neu'n methu gyrru neu ofalu am aelodau eu teulu.
"Mae'r effaith yn enfawr, nid yn unig ar yr unigolyn a'u hiechyd meddwl ond hefyd ar eu teuluoedd a'u ffrindiau, ac os ydyn nhw'n colli eu golwg yn barhaol bydd hynny'n effeithio ar weddill eu bywydau."

Achosion y Rhestrau Aros Hir
Yn ôl Ffion Haf Lewis, mae prinder staff yn sicr yn ffactor, "yn enwedig mewn rhai ardaloedd fel gorllewin Cymru lle mae'r prinder wedi bod yn waeth yn hanesyddol".
Mae hi hefyd yn tynnu sylw at broblemau capasiti ac adnoddau, gan gynnwys diffyg lleoedd addas i gynnal clinigau.
Dywedodd Ffion bod "nifer o arbenigwyr wedi dod at ei gilydd i greu strategaeth newydd, ond heb y gallu i ariannu hwnnw fydd y problemau yn parhau".
Pan amlinellodd Jeremy Miles ei dargedau newydd y llynedd, cafodd £120m o gyllid ychwanegol ei glustnodi i'w cyflawni.
Addawodd yr Ysgrifennydd Iechyd y byddai'r arian yn cael ei ddefnyddio i ddarparu mwy o apwyntiadau i gleifion allanol, mwy o driniaethau a phrofion diagnostig, gan gynnwys dros 20,000 o lawdriniaethau cataract.
Er yn croesawu'r cyllid hwnnw, mae'r RNIB yn rhybuddio bod angen buddsoddi hefyd yn sylweddol mewn cyflyrau'r llygaid sy'n anoddach i'w trin.
"Yn amlwg 'dan ni'n croesawu unrhyw beth sy'n lleihau rhestrau aros ac yn creu rhagor o gapasiti," medd Ffion Haf Lewis
"Ond beth sy'n ein pryderu ni yw bod dros 75,000 o bobl sydd â risg uwch o golli eu golwg yn barhaol sydd yn dal yn aros yn rhy hir ac ma hynny dal heb ei daclo."
Maniffestos y Pleidiau am Restrau Aros
Mae dros hanner cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei wario ar iechyd a gofal cymdeithasol. O ganlyniad, mae cyflwr y gwasanaeth iechyd yn ganolog i faniffestos y pleidiau cyn etholiad y Senedd.
Mae Llafur yn addo sicrhau bod 95% o gleifion yn cael triniaeth o fewn 26 wythnos erbyn diwedd y tymor Seneddol nesaf, ynghyd â chyflwyno rhaglen gwerth £4bn ar gyfer ysbytai a chyfleusterau newydd.
Mae'r Ceidwadwyr yn addo datgan "argyfwng iechyd" cenedlaethol er mwyn blaenoriathu adnoddau i glirio'r ôl-groniad mewn rhestrau aros erbyn 2030.
Mae Plaid Cymru'n addo sefydlu 10 canolfan lawfeddygol i gyflymu triniaethau, gyda'i harweinydd Rhun ap Iorwerth hefyd wedi dweud yn gynharach eleni nad yw'r cyhoedd yn disgwyl gweld "newid i restrau aros" o fewn 100 niwrnod, petai ei blaid mewn grym.
Mae Reform UK yn dweud y byddai'n gweithredu cynllun brys i wella rhestrau aros, gan gynnwys sefydlu canolfannau llawdriniaethol.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn addo gwario £300m ychwanegol ar ofal cymdeithasol i leihau'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd, ac yn dweud y bydden nhw'n barod codi ceiniog ar dreth incwm i'w gyllido.
Mae'r Blaid Werdd yn mynnu bod angen symud adnoddau tuag at wasanaethau ataliol a chymunedol er mwyn lleihau'r pwysau ar ysbytai dros y tymor hir.
Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)
Dros bwy alla i bleidleisio yn fy ardal i?
Er mwyn rhoi gwybodaeth am unrhyw etholiadau yn eich ardal chi, mae'r BBC yn cydweithio â'r Comisiwn Etholiadol ac yn anfon eich data personol atynt. Hysbysiad Preifatrwydd Data (Yn agor mewn tab porwr newydd)
Rhowch god post preswyl llawn yng Nghymru i gael gwybod
Mae problem gyda'r gwasanaeth ar hyn o bryd. Rhowch gynnig arall arni nes ymlaen.
Datganiadau gan y Pleidiau Gwleidyddol
Disgrifiodd y Blaid Werdd amseroedd aros fel rhai "erchyll" a dywedodd y byddai'n "cyflwyno pecyn cydlynol" o ddiwygiadau.
Dywedodd y blaid byddai'n buddsoddi mwy mewn gofal sylfaenol i'w gwneud yn haws i bobl gael cymorth yn gynharach, "cyn iddynt ddatblygu'n argyfwng sy'n gofyn am ofal ysbyty".
Dywedodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru fod cleifion yng Nghymru yn "cael eu gadael i aros yn rhy hir am driniaeth".
Mae'r blaid yn dweud y bydden nhw'n "lleihau rhestrau aros drwy gryfhau'r gweithlu iechyd, ehangu capasiti diagnostig" a "mynd i'r afael ag argyfwng gofal cymdeithasol" drwy fuddsoddi miloedd i "ryddhau gwelyau ysbyty".
Dywedodd Reform UK fod rhestrau aros yn "parhau'n llawer hirach nag yn Lloegr i ormod o gleifion".
Mae Reform UK yn dweud y byddai'n lleihau biwrocratiaeth y GIG yng Nghymru "er mwyn ariannu gofal sylfaenol" a gweithredu cynllun gweithlu i ddefnyddio nyrsys a pharafeddygon yn lleol "yn hytrach na'u gorfodi i chwilio am waith dramor".
Dywedodd Plaid Cymru fod pobl ar restrau aros yn "byw mewn poen a phryder".
Dywedodd Plaid Cymru y byddai eu cynllun "a luniwyd gydag arbenigwyr iechyd, yn lleihau amseroedd aros" drwy gyflymu triniaethau a "chreu 10 canolfan lawfeddygol ledled Cymru, gan arbenigo mewn triniaethau sydd â'r amseroedd aros hiraf".
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig fod cleifion yng Nghymru yn "dal i aros yn rhy hir am driniaeth".
Dywedodd y byddent yn "datgan argyfwng iechyd, yn cynyddu capasiti gwelyau", yn recriwtio a chadw staff drwy gynllun gweithlu, ac yn "cryfhau gofal sylfaenol i wella mynediad at feddygon teulu, lleihau'r pwysau ar ysbytai" a rhoi "gofal amserol."
Mae Llafur Cymru hefyd wedi cael cais am sylw.






