Skip to main content
Advertisement

Llywodraeth Cymru yn cyflymu prosiectau ynni gwyrdd wrth i sector rhybuddio am oedi

Llywodraeth Cymru'n cyflymu prosiectau ynni gwyrdd ar ôl rhybudd bod Cymru 'ar ei hôl hi' o gymharu â gweddill y DU wrth ddatblygu ffermydd gwynt a solar. Ymgyrchwyr a phleidiau gwleidyddol yn mynegi barn am y cynlluniau cyn etholiad y Senedd.

·6 min read
Mae rhybudd bod Cymru "ar ei hôl hi" ar gynlluniau ynni gwyrdd

Rhybudd bod Cymru 'ar ei hôl hi' ar gynlluniau ynni gwyrdd

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo cyflymu'r gwaith o sefydlu prosiectau ynni gwyrdd fel rhan o fargen newydd gyda'r diwydiant ynni adnewyddadwy. Mae hyn yn dilyn rhybudd gan y sector bod Cymru "ar ei hôl hi o'i gymharu â gweddill y DU" wrth adeiladu cynlluniau megis ffermydd gwynt a solar.

Yn 2024, cafodd digon o ynni adnewyddadwy ei gynhyrchu yng Nghymru i gyflenwi 54% o anghenion trydan y wlad, yn ôl y ffigyrau diweddaraf. Mae gweinidogion yn anelu at gyrraedd targed 100% erbyn 2035, gan nodi bod effaith y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol ar brisiau olew a nwy yn tanlinellu pwysigrwydd "bod yn annibynnol o ran ynni".

Mae Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig wedi mynegi pryder nad dylai tyrbeini gwynt mawr na chaeau o baneli solar gael eu gorfodi ar gymunedau, gan annog y llywodraeth i ganolbwyntio ar gynlluniau yn y môr.

Mae'r cyhoeddiad hwn yn digwydd llai na deufis cyn etholiad y Senedd, gyda phleidiau gwahanol yn cynnig gweledigaethau amrywiol ar gyfer dyfodol cyflenwadau ynni Cymru.

Cyhoeddiad y llywodraeth Lafur am fargen gyda'r sector ynni adnewyddadwy

Dywedodd y llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd fod eu bargen newydd gyda'r sector ynni adnewyddadwy yn "bartneriaeth strategol" a fydd yn cyflymu'r gwaith o sicrhau mwy o brosiectau ynni gwynt, solar, morol a hydro. Mae'r fargen yn cynnwys 78 o ymrwymiadau, gan gynnwys hwyluso'r broses gynllunio a hyfforddi gweithwyr i adeiladu a gweithredu'r cynlluniau newydd.

Mae datblygwyr a grwpiau cymunedol wedi bod ynghlwm yn y gwaith, gan sicrhau y bydd cymunedau lleol yn "mwynhau'r manteision" o brosiectau yn eu hardaloedd nhw.

Mae'r cyhoeddiad wedi'i wneud ar Ynys Môn, ger pencadlys prosiect ynni llanw arloesol. Mae Morlais, sy'n eiddo i fenter gymunedol Menter Môn ac wedi derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru, yn darparu'r isadeiledd a'r cyswllt â'r grid fel bod datblygwyr yn medru gosod a threialu tyrbeini dan y môr. Dyma'r fenter fwyaf o'i math yn Ewrop ar hyn o bryd.

Tyrbin a gorsaf bwer tu ol

Ymatebion i'r cyhoeddiad a'r heriau ynni yng Nghymru

Dywedodd yr Ysgrifennydd Ynni Rebecca Evans y gallai Cymru fod "yn arweinydd byd-eang ym maes ynni adnewyddadwy, gan greu swyddi a thwf gwyrdd".

"Mae'r gwrthdaro presennol yn y Dwyrain Canol wedi tynnu sylw unwaith eto at bwysigrwydd bod yn annibynnol o ran ynni," meddai.
"Bydd ein Bargen ar gyfer y Sector Ynni Adnewyddadwy yn sicrhau sylfaen gadarn ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn y dyfodol – er budd ein heconomi, ein hamgylchedd a'n diogelwch ynni."

Mae arweinwyr y diwydiant wedi croesawu'r cyhoeddiad, gyda Renewable UK Cymru yn dweud y byddai'n helpu sicrhau "cyfle gwerth £10bn i fusnesau Cymreig", 8,000 o swyddi a £183m mewn cyllid budd cymunedol.

Advertisement

Mewn adroddiad yn nodi galwadau'r sector ar y pleidiau cyn etholiad y Senedd, rhybuddiodd y corff bod Cymru'n methu cymryd mantais o'i "hadnoddau naturiol o safon fyd-eang".

"Yn ystod y degawd diwethaf mae'r Alban wedi sicrhau mwy na £18bn o fuddsoddiad newydd mewn ynni glan, tra bod Cymru wedi denu llai na £1bn," meddai.

Mae cynnydd yn y galw am drydan i gefnogi'r newid at gerbydau trydan, pympiau gwres, canolfannau data a diwydiannau AI yn golygu "heb gynnydd mawr mewn cynhyrchu pŵer glân, mae Cymru mewn perygl o filiau uwch, diogelwch ynni gwannach, a syrthio ymhellach ar ei hôl hi'n economaidd".

Pryderon ynghylch cynlluniau ynni gwynt ar y tir

Dywedodd Jonathan Dean, cadeirydd Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig ar Ynys Môn, fod gweinidogion yn gwneud camgymeriad wrth wthio am fwy o ynni gwynt a solar ar y tir.

"Dy'n ni ddim yn dweud peidiwch ag adeiladu unrhyw beth ar dir - os yw cymunedau am weld hynny, grêt - ond does yna ddim angen mawr i wneud hynny," meddai, gan honni y gallai Cymru gyrraedd targedau ynni adnewyddadwy drwy ganolbwyntio ar ffermydd gwynt mawr yn y môr.
"Dyw pobl ddim eisiau gweld fferm wynt enfawr uwch eu pennau yn eu pentref, ac iddyn nhw dyma'r peth mwya' yn eu bywydau ar hyn o bryd," meddai, gan ragweld y byddai'r pwnc yn uchel ar yr agenda yn ystod ymgyrch yr etholiad.
Tyrbinau gwynt
Disgrifiad o’r llun, Mae rhai yn dweud na ddylid blaenoriaethu cynlluniau ynni gwynt ar y tir

Safbwyntiau pleidiau gwleidyddol eraill

Mae maniffesto Reform UK Cymru yn cynnwys gwaharddiad ar ffermydd gwynt a solar newydd ar y tir, gan ddweud eu bod yn "difetha cefn gwlad Cymru". Dywedodd llefarydd fod y blaid hefyd wedi "cyhoeddi cynlluniau i leihau biliau ynni" trwy fynd i'r afael â chymorthdaliadau i'r sector ynni gwyrdd.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar ynni, Samuel Kurtz AS, bod rôl i ffynonellau adnewyddadwy yn y dyfodol, ar y cyd â "ffynonellau dibynadwy fel olew, nwy a niwclear".

"Y flaenoriaeth yw sicrhau bod y prosiectau yma yn cynnig allbynnau go iawn: swyddi a sgiliau, buddsoddiad a buddion clir i gymunedau lleol."

Mae'r blaid wedi ymrwymo i gefnogi twf ynni morol, gan gynnwys ffermydd gwynt sy'n arnofio, tra'n manteisio ar gyfleoedd i'r diwydiant niwclear yn Wylfa a Thrawsfynydd.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds AS, bod bargen newydd y llywodraeth yn arwain at "fwy o gwestiynau nag atebion".

"Does yna ddim cynllun clir o ran sut ydyn ni'n adeiladu'r gweithlu sydd ei angen, dim manylder o ran hyfforddiant, sgiliau na phrentisiaethau," meddai.
"Mae gweinidogion hefyd yn addo buddion i gymunedau, heb osod safonau, isafswm na gorfodaeth - felly does 'na ddim gwarantu y bydd pobl leol yn elwa."

Dywedodd llefarydd ynni Plaid Cymru, Luke Fletcher AS, y byddai'r blaid yn "adeiladu partneriaethau newydd rhwng llywodraeth a rhanddeiliaid allweddol" yn ystod eu 100 diwrnod cyntaf mewn llywodraeth, gan ddatblygu "Trydan Gwyrdd Cymru i fod yn un cwmni ynni cyfunol fydd yn datblygu ynni adnewyddadwy ac yn helpu lleihau biliau".

"Mae pobl Cymru a'r sector ynni adnewyddadwy yn iawn i gwestiynu pam fod Llafur wedi bod heb strategaeth a heb gynlluniau go iawn ar gyfer datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy yn ystod eu cyfnod o 27 mlynedd mewn grym."

Dywedodd arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Anthony Slaughter, bod pleidiau eraill yn ceisio efelychu'r Gwyrddion nawr eu bod yn codi yn arolygon barn.

"Mae'r targedau yn y cynllun hwn wedi eu codi yn syth o faniffesto'r Blaid Werdd - arwydd clir bod ein hapêl yn tyfu chwe wythnos cyn etholiad y Senedd," meddai.
"Maen nhw ond yn gwneud hyn dan bwysau - mae'r Gwyrddion yn ddidwyll o ran credu bod ynni adnewyddadwy yn medru cyflawni ar gyfer newid hinsawdd ond wrth leihau biliau pobl hefyd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok. Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033. Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News