Y Parchedig Dafydd Owen yn marw yn 90 oed
Mae nifer o bobl wedi rhoi teyrngedau i'r diweddar Barchedig Dafydd H Owen, Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf Eglwys Bresbyteraidd Cymru a chaplan ieuenctid cyntaf Coleg y Bala, sydd wedi marw yn 90 oed ar ôl salwch byr.
Ganwyd ef yn Lanrug ger Caernarfon ac roedd wedi gwasanaethu fel gweinidog mewn sawl ardal, gan gynnwys Llansteffan, Bancyfelin, Caergybi a Llundain. Fodd bynnag, mae'n cael ei gofio'n bennaf am ei waith arloesol fel caplan ieuenctid cyntaf Coleg y Bala ac Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Yn 1967, ef a'i wraig Brenda gychwynnodd y gwaith ieuenctid yng Ngholeg y Bala, ac ers hynny mae miloedd o bobl ifanc ledled Cymru wedi cymryd rhan mewn cyrsiau yn y coleg.
"Os oedd rywun y gellid ei alw yn arloeswr neu arloeswyr crefyddol, wel Dafydd a Brenda Owen efo'i gilydd fasa rheini," meddai Nan Powell-Davies, Ysgrifennydd Cyffredinol presennol Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
"Dyma beth oedd arloesi, gweld cyfle, ei adnabod a gweithredu. Fe welodd fod Coleg y Bala, adeilad helaeth hanesyddol pwysig yn wag ac heb ddefnydd, a phenderfynu ei fod yn ddelfrydol i'w agor fel canolfan i blant, ieuenctid a hyfforddiant.
"Fe fydda' i yn gofyn yn aml sut le fyddai Eglwys Bresbyteraidd Cymru pe na bai Coleg y Bala wedi agor.
"Mae cymaint o arweinwyr y blynyddoedd diwethaf ac arweinwyr arloesol newydd ein dyddiau ni yn gallu dweud fod llawer iawn o'u profiad a'r her maent wedi ei dderbyn yn tarddu o'r gwaith yn y Coleg.
"Roedd Dafydd yn gweld cyfle, yn perswadio ac yn mentro. Doedd pawb ddim yn cytuno, ond roedd y weledigaeth yn un roedd o'n gorfod ei dilyn ac roedd o'n gwneud hynny yn raslon gyda phawb."

"Yn bersonol roedd ei ddylanwad yn fawr arna i, roedd o'n gweld anghenion ei ddydd ac yn annog ac yn rhoi hunan hyder i bobl gredu y gallent gyfrannu," ychwanegodd Nan Powell-Davies.
"Pwy ond rhywun mentrus fel Dafydd fyddai wedi rhoi swydd i rywun 18 oed di-brofiad a magu hyder ynddi i i gydio yn y gwaith? Roedd yn anogwr heb ei ail, ac mae fy nyled i yn fawr iawn iddo fo."
Mae nifer o bobl eraill wedi rhoi teyrnged iddo ar y cyfryngau cymdeithasol gan bwysleisio ei ddiffuantrwydd, ei gadernid a'i hynawsedd.
"Un o'r goreuon heb os - bu ei esiampl ysbrydol diffuant a llawen, ei ofal bugeiliol, a'i ddysgeidiaeth ddoeth a chadarn yn ddylanwad amhrisiadwy ar ffydd merch ifanc o Port - diolch o galon DHO," meddai Carys Humphreys, sydd wedi bod yn gwneud gwaith cenhadol yn Taiwan am dros 30 mlynedd.
'Gweledigaeth glir'
Gwyddonydd oedd Dafydd H Owen, wedi graddio gyda BSc a BD o Aberystwyth.
"Roedd o'n gallu cyfannu y bwlch rhwng crefydd a gwyddoniaeth ac roedd ganddo feddwl dadansoddol," meddai'r Parchedig Dafydd Andrew Jones, a fu'n cydweithio ag ef am dros hanner can mlynedd.
"Roedd o'n gyfaill triw ac yn arloeswr oedd â gweledigaeth glir - yn ddyn urddasol oedd ag empathi â phobl.
"Yn ogystal ag yng Ngholeg y Bala, fe wnaeth o arloesi hefyd fel Ysgrifennydd Bwrdd y Genhadaeth ac roedd ganddo weledigaeth glir yn ei swydd fel Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf EBC.
"Bu hefyd yn Llywydd y Gymanfa Gyffredinol cyn ei weinidogaeth ar gapeli yn Llundain."
Mae ef yn gadael ei wraig Brenda, eu plant Rhys a Rhian, a'u teuluoedd.
Bydd teyrnged lawn i'r diweddar Barchedig Dafydd H Owen yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg ac yna ar .
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




